Showing 2970 results

Authority record

Undeb Dirwestol Dyffryn Taf.

  • Corporate body

Sefydlwyd Undeb Dirwestol Dyffryn Taf yn Llanfyrnach, sir Benfro, yn ystod Diwygiad Anghydffurfiol 1905, gan gynnal gŵyl ddirwestol flynyddol (Y Gymanfa Ddirwestol) a weinyddwyd gan Bwyllgor yr Ŵyl. Parhaodd i weithredu tan 1949.

Davies, Rachel Mary, (of Swansea), 1911-1996

  • Person

Yr oedd Miss Rachel Mary Davies (1911-1996) o Abertawe, Morgannwg, yn aelod gweithgar o Blaid Cymru, ac yn gyfaill i'r bardd Waldo Williams (1904-1971), a bu'n gohebu ag ef.

Cyhoeddiadau Mei.

  • Corporate body

Cwmni cyhoeddi a leolwyd ym Mhenygroes, sir Gaernarfon, ar ddiwedd y 1970au a'r 1980au, oedd Cyhoeddiadau Mei. Y rheolwr oedd Dafydd Meirion o Benygroes. Cyhoeddai llyfrau Cymraeg i oedolion a phlant a rhai ar hanes lleol. Caeodd y busnes yn 1993 oherwydd problemau ariannol.

Cylch y Pump ar Hugain.

  • Corporate body

Roedd Cylch y Pump ar Hugain yn gymdeithas llenyddol yn Lerpwl. Fe'i ffurfiwyd yn 1932 a pheidiodd â bod yn 1981.

Cymdeithas Cofeb Beca.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cofeb Beca er mwyn codi arian i greu cofeb i goffáu Terfysg Beca yn 1839. Lleolwyd Cofeb Beca yn Efailwen, sir Gaerfyrddin (sir Benfro erbyn hyn). Fe'i dadorchuddiwyd gan yr Athro David Williams, Aberystwyth, ym Mai 1964.

Gwyl Geltaidd Aberystwyth.

  • Corporate body

Cynhaliwyd Gŵyl Geltaidd flynyddol Aberystwyth am y tro cyntaf yn Chwefror 1979.

Results 2841 to 2860 of 2970