Showing 2970 results

Authority record

Owen, Bob, 1885-1962.

  • Person

Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.

Rees, Alwyn D.

  • Person

Roedd Alwyn D. Rees (1911-1974) o Gorseinon, sir Forgannwg, yn gymdeithasegydd. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn cael ei benodi'n diwtor yn 1936 ac yn Gyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol y coleg hwnnw yn 1949. Parhaodd yn y swydd tan ei farwolaeth. Gwelodd y bygythiadau sydd yn wynebu diwylliannau lleiafrifol, ac roedd yn gefnogwr brwd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod cyfnod mwyaf dadleuol ei hanes. Roedd Rees yn un o'r ymgyrchwyr dros sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth. Roedd yn olygydd Barn, 1966-1974, ac Yr Einion rhwng 1949 a 1958. Yn 1950 cyhoeddodd gampwaith ar astudiaethau gwerin Cymru, Life in a Welsh Countryside, am blwyf Llanfihangel yng Ngwynfa yn y 1930au, ac roedd yn gyd-olygydd Welsh Rural Communities. Ysgrifennodd Celtic Heritage yn 1961 gyda'i frawd Brinley Rees.

Carneddog, 1861-1947.

  • Person

Ganwyd 'Carneddog', Richard Griffith (1861-1947), bardd, awdur rhyddiaith, newyddiadurwr, hanesydd lleol a ffermwr, ar fferm fach fynyddig Carneddi, Nantmor, ger Beddgelert, sir Gaernarfon, lle bu ei hynafiaid yn ffermio am sawl cenhedlaeth. Un o Nantmor, hefyd, oedd Catherine, ei wraig, a briododd yn 1899. Cymerodd ei enw barddol, 'Carneddog' o'r man lle'i ganed, a threuliodd Catherine ag ef bron gydol eu hoes yn ffermio defaid yno, cyn symud yn 1945 i fyw gyda'u mab Richard, yn Hinkley, swydd Gaerlŷr. Ymddiddorai Carneddog yn niwylliant Cymru o'i ddyddiau cynnar, yn enwedig yn llenyddiaeth, hanes a llên bro ei febyd yn Eryri, a chyfrannai yn rheolaidd i gyfnodolion megis Cymru a Bye-Gones, yn ogystal â chylchgronau, yn eu plith Baner ac Amserau Cymru a Y Genedl Gymreig, ac ysgrifennai golofn boblogaidd wythnosol, 'Manion o'r Mynydd' yn yr Herald Gymraeg, o 1881 ymlaen, am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal, bu'n ysgrifennu bywgraffiadau llenyddol, beirniadu mewn eisteddfodau, casglu llawysgrifau, ymchwilio i hanes lleol, cyhoeddi barddoniaeth (yn eu mysg rhai cerddi a gyfansoddodd ef ei hun), a gohebu ag ystod eang o bobl ar draws y byd, yn cynnwys awduron a beirdd, a rannai'r un diddordebau ag ef.

Roberts, Kate, 1891-1985

  • Person

Ganwyd Kate Roberts (1891-1985), un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, yn Rhosgadfan, Llanwnda, pentref yn ardal y chwareli yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn nofelydd, yn awdur storiâu byrion ac yn newyddiadurwraig lenyddol. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu'n astudio o dan Syr John Morris-Jones a Syr Ifor Williams. Wedi hynny bu'n athrawes Gymraeg yn Ystalyfera ac Aberdâr, ac yn 1928 priododd Morris T. Williams a phrynodd y ddau Wasg Gee, cyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn 1946, parhaodd i redeg y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd arall. Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau a storiâu byrion o 1925 hyd 1937 ac o 1949 hyd 1981. Yr oedd hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Genedlaethol Cymru a chyfrannodd yn rheolaidd i bapur newydd misol y blaid, Y Ddraig Goch. Mae nifer o'i gweithiau yn adlewyrchu cymdeithas y chwarel y magwyd Kate Roberts ynddi. Mae rhai o'i gweithiau yn ymwneud â gwragedd neu hen bobl yn byw ar eu pennau eu hunain. Yr oedd hefyd yn awdures llyfrau ar gyfer ac am blant. Yr oedd themâu ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys pynciau llenyddol, gwleidyddol a theuluol.

Results 2881 to 2900 of 2970