Showing 2971 results

Authority record

Davies, John, 1938-

  • Person

Ganwyd John Davies, hanesydd, llenor a darlledwr, yn Llwynypia, Rhondda, Morgannwg, yn 1938, ond cafodd ei fagu yng Ngheredigion. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu'n athro yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1963-1973, ac yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1973-1990, cyn symud i Gaerdydd fel darlledwr teledu. Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys Hanes Cymru (Penguin, 1990), y cyfieithiad Saesneg ohono, The History of Wales (Penguin, 1993) a Cardiff and the Marquesses of Bute. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a'i hysgrifennydd cyntaf ar y cyd ag E.G.Millward. Ffurfiwyd y Gymdeithas i ymgyrchu dros hawliau'r Gymraeg. Cyhoeddir cylchlythyr, Tafod y Ddraig.

Ashton, Glyn M

  • Person

Roedd Glyn Mills Ashton ('Wil Cwch Angau') yn ysgolhaig, yn feirniad ac yn ddychanwr. Fe'i ganed yn Y Barri, Sir Forgannwg yn 1910 a'i addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Bu'n athro'r Gymraeg yng Ngholeg Illtud Sant, Caerdydd, am dros ugain mlynedd ac yna yn Geidwad Llyfrgell Salisbury, Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau ysgafn crafog gan gynnwys Tipyn o Annwyd (1960), Y Pendefig Pygddu (1961), Doctor! Doctor! (1964), Canmol dy Wlad (1966) ac Angau yn y Crochan (1969), a gyhoeddwyd o dan ei ffugenw. Golygodd hefyd Hunangofiant a Llythyrau Twm o'r Nant (1948), Drych yr Amseroedd (1958), a dwy gyfrol yn y gyfres o ysgrifau hunangofiannol, Atgofion (1972). Bu farw yn 1991.

Millward, E. G. (Edward Glynne), 1930-

  • Person

Yr oedd E.G. Millward yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac Is-lywydd Plaid Cymru, 1966-1968. Ef oedd ymgeisydd y blaid dros Etholaeth Trefaldwyn yn etholiad cyffredinol 1970.

Dyfnallt, 1873-1956.

  • Person

Yr oedd John Dyfnallt Owen (1873-1956) o Lan-giwg, Morgannwg, yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn Archdderwydd Cymru. Magwyd ef gan rieni ei dad ar ôl marwolaeth ei fam pan oedd yn flwydd oed. Ar ôl gweithio am gyfnod byr yn y lofa, aeth i Athrofa Parcyfelfed ac i Goleg Bala-Bangor. Bu'n weinidog Sardis, Pontypridd, rhwng 1905 a 1910. Yn 1907 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Priododd a chawsant ddau blentyn. Daeth yn weinidog Stryd Lammas Caerfyrddin yn 1910. Yn 1916 aeth yn gaplan yn Bethune, Ffrainc, ar ran y YMCA. Un o'i ddiddordebau pennaf oedd ymchwilio i hanes achos yr Annibynwyr yng Nghymru. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927, lle y cafodd rhwydd hynt i fynegi ei farn ar Gristnogaeth a heddwch. Teithiodd ar y cyfandir, gan gynnwys Gwlad Pwyl, y Swistir a Bafaria. Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd yn Danzig pan gyhoeddodd amryw o erthyglau.

Untitled

Yr oedd David James Jones (Gwenallt,1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).

Welsh Water Authority.

  • Corporate body

Dŵr Cymru yw'r cwmni rheoledig sy'n darparu gwasanaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth i dros dair miliwn o bobl yng Nghymru ac i rai ardaloedd yn Lloegr.

Davies, Ben, 1864-1937

  • Person

Gweinidog gyda'r Annibynwyr, pregethwr, bardd a darlithydd oedd Ben Davies. Ganwyd ef yn y Ddolgam, Cwmllynfell yn 1864 a bu'n gweithio yn y gwaith glo cyn mynd i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn 21 oed, ac yna i Goleg y Bala. Wedi gadael yn 1888 aeth yn weinidog i Bwlchgwyn a Llandegla cyn symud i Panteg, Ystalyfera yn 1891 ac aros yno tan 1926. Roedd yn aelod o fudiad 'y Beirdd Newydd' a oedd yn ei anterth rhwng 1890 a 1901. Bu'n cystadlu yng nghystadleuthau'r gadair a'r goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol nifer o weithiau gan ennill yn 1892-1894, a 1896. Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Bore Bywyd yn 1896. Yn hwyrach yn ei fywyd bu'n feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr, 1928. Bu hefyd yn darlithio ar Watcyn Wyn, 'Twm o'r Nant' ac Ann Griffiths. Bu farw yn 1937.

Walters, Meurig.

  • Person

Gwnaeth y Parch. [E.] Meurig Walters (m. 1988), o Dondu, Morgannwg, astudiaeth ar fywyd a gwaith y clerigwr a bardd William Thomas ('Islwyn', 1832-1878) ar gyfer ei draethawd M.A. 'Astudiaeth Destunol a Beirniadol o "Storm" 'Islwyn' (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystywth, 1961). Yn y 1970au a'r 1980au, gweithiodd ar draethawd PhD ar yr un pwnc, dan y teitl 'Bywyd a Gwaith Islwyn (1832-78)', a golygodd 'Y "Storm" gyntaf gan Islwyn' (Caerdydd, 1980). Yn 1983, cyhoeddwyd ei gofiant, 'Islwyn: Man of the Mountain' gan Gymdeithas Goffa Islwyn. Yn ogystal gwnaeth ymchwil ar Joseph Harris (1704-1764) Trefeca. Cafodd ei rifyn o 'Y Storm' diwygiedig Islwyn, 'Yr Ail "Storm" gan Islwyn' (Caerdydd, 1990) ei gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth.

Erfyl Fychan, 1899-1968

  • Person

Yr oedd Robert William Jones ('Erfyl Fychan', 1899-1968) yn hanesydd, llenor, athro ac eisteddfotwr.

Fe'i ganwyd ar 1 Ionawr 1899, yn fab i Robert William Jones a'i wraig Jane ym Mhenygroes, Sir Gaernarfon. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Penygroes. Bu'n gweithio fel clerc mewn siop yn Lerpwl yn 1916 a gwasanaethodd yn y ddau Ryfel Byd. Wedi gadael y fyddin ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n dilyn cwrs hyfforddi athrawon yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Dysgodd am ddwy flynedd yn Birmingham ac yn 1922 fe'i penodwyd yn brifathro ar Ysgol Trisant, Ceredigion, ac yn 1924 fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Llanerfyl. Bu'n cynnal dosbarthiadau nos ar hanes a llenyddiaeth Cymru am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Yn 1928 derbyniodd ysgoloriaeth a roddodd y cyfle iddo astudio bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif gyda T. Gwynn Jones yn arolygwr iddo yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Yn 1931 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y 18fed Ganrif ac ysgrifennwyd y rhagair gan T. Gwynn Jones. Enillodd ysgoloriaeth Owen-Templeman yn 1931 a bu'n astudio ym Mhrifysgol Lerpwl o dan J. Glyn Davies, ac yn 1939 dyfarnwyd MA iddo am ei draethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century'. Yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn brifathro ar Ysgol Berriew Road yn Y Trallwng a bu yn y swydd honno nes iddo ymddeol yn 1961. Yn 1944 cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Royal Historical Society.

Enillodd y wobr gyntaf am ganu Cerdd Dant yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926 a daeth yn aelod o'r Orsedd yn yr un flwyddyn. Ef a sefydlodd Gymdeithas Cerdd Dant yn Y Bala yn 1934 a bu'n gyfrifol am drefnu sawl Ysgol Haf rhwng 1936 a 1939. Bu'n ysgrifennydd y Gymdeithas tan 1949 pan gafodd ei ethol yn Gofiadur yr Orsedd. Bu'n Arwyddfardd yr Orsedd hefyd ac yn 1960 fe'i penodwyd yn Drefnydd yr Arholiadau. Cafodd ei ddewis yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Powys yn 1958. Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Rhigwm i'r Hogiau (Dinbych, 1949).

Cyfrannodd sawl rhaglen i wasanaeth ysgolion y BBC yng Nghymru a sawl erthygl i Allwedd y Tannau, Y Ford Gron, Powysland Collections a Journal of the Gypsy Lore Society.

Priododd Gwendolen (Gwenno) Jones yn 1929 a ganwyd dau fab iddynt, Geraint James Vaughan-Jones ac Elidir ap Robert Jones. Bu farw ym Mynytho ar 7 Ionawr 1968 ac fe'i claddwyd ym Mhenygroes.

Phillips, Bethan.

  • Person

Mae Bethan Phillips, o Lanbedr Pont Steffan, yn ddarlithydd, awdures a sgriptwraig i'r radio a'r teledu. Ei gwaith mwyaf arwyddocaol ar gyfer y teledu oedd y gyfres Dihirod Dyfed, detholiad o ddramâu yn ymwneud â llofruddiaethau yn Nyfed. Yr oedd y gyfres yn cynnwys dwy gyfres o chwe phennod yr un, a gynhyrchwyd gan Gwmni Pendefig a'u darlledu gan S4C yn 1987 a 1991. Seiliwyd ei llyfr Dihirod Dyfed: Hanes Chwe Llofruddiaeth (Caerdydd, 1991) ar y gyfres.

Results 2961 to 2971 of 2971