Dangos 2971 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Williams, J. E. Caerwyn (John Ellis Caerwyn)

  • n 80149567
  • Person
  • 1912-1999

Roedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams (1912-1999) yn un o brif ysgolheigion Cymraeg a Cheltaidd yr ugeinfed ganrif.

Fe'i ganwyd yng Ngwauncaegurwen, Morgannwg, 17 Ionawr 1912, yr hynaf o dri phlentyn John R. a Maria Williams. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Ystalyfera, Coleg y Brifysgol, Bangor, Coleg y Brifysgol a Choleg y Drindod, Dulyn, a Cholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala. Ymunodd â staff Adran y Gymraeg, Bangor, yn 1945, a'r flwyddyn ganlynol fe'i priodwyd â Gwen Watkins o Abertridwr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1953. Yn 1965 symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i fod yn Athro cyntaf yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru. Cafodd radd D.Litt.Celt.Er Anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1967 a Phrifysgol Cymru yn 1983, a'i ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1978 ac yn Aelod Mygedol o Academi Frenhinol Iwerddon yn 1989. Fe'i etholwyd yn Llywydd yr Academi Gymreig yn 1988. Ar ôl ymddeol yn 1979 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Arhosodd yn y swydd honno tan 1985. Bu farw 8 Mehefin 1999.

Yr oedd yn awdurdod ar y gwareiddiad Celtaidd ac ysgrifennodd yn helaeth am draddodiadau llenyddol Cymru ac Iwerddon. Ymhlith ei brif gyfraniadau fel ysgolhaig Cymraeg mae ei astudiaethau ar y Gogynfeirdd a llenyddiaeth grefyddol yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion (1973), Canu Crefyddol y Gogynfeirdd (1977) a The Poets of the Welsh Princes (1978). Ysgrifennodd hefyd ar lenyddiaeth mwy diweddar Cymru, gan gynnwys ei astudiaethau o waith Edward Jones, Maes-y-Plwm, geiriadurwyr Cymraeg cyfnod y Dadeni, John Morris-Jones a'i gylch, ac amryw o'r prif lenorion cyfoes, megis Syr T. H. Parry-Williams, Waldo Williams a Saunders Lewis. Fel ysgolhaig Gwyddeleg ei brif gyfraniadau oedd Traddodiad Llenyddol Iwerddon (1958), Y Storïwr Gwyddeleg a'i Chwedlau (1972) a The Court Poet in Medieval Ireland (1972). Roedd yn gyd-awdur The Irish Literary Tradition (1992). Cyhoeddodd gyfieithiadau o storïau Gwyddeleg a Llydaweg, ynghyd ag astudiaethau ieithyddol ar yr ieithoedd hyn a'r Gymraeg. Yn ogystal â golygu cyfrolau fel Llên a Llafar Môn (1963), Llên Doe a Heddiw (1964) a Literature in Celtic Countries (1971), bu'n olygydd Y Traethodydd ac Ysgifau Beirniadol o 1965 ymlaen, Studia Celtica o 1966 a chyfres Llên y Llenor o 1983. Bu'n olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru er 1968, ac yn olygydd Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg (1988) a Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (1994).

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1903-1993

  • n 81068577
  • Person

Yr oedd Gwilym Richard Jones yn fardd a newyddiadurwr. Fe’i ganed yn Nhal-y-sarn, Sir Gaernarfon, ar 24 Mawrth 1903. Bu’n gweithio fel gohebydd ac yn yn 1945 fe’i penodwyd yn olygydd ar Y Faner gan aros yn y swydd nes iddo ymddeol yn 1977. Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi. Ef oedd y cyntaf i ennill y gadair, y goron a’r fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu farw ar 29 Gorffennaf 1993.

Jones, T. Llew (Thomas Llew)

  • n 82120744
  • Person
  • 1915-2009

Ganwyd Thomas Llewelyn Jones (1915-2009), bardd ac awdur llyfrau plant, ym Mhentre-cwrt, sir Gaerfyrddin, ar 11 Hydref 1915. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llandysul a bu'n gwasanaethu yn yr Awyrlu a'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn hyfforddi'n athro. Bu'n brifathro ar ysgolion cynradd Tregroes a Choed-y-bryn, sir Aberteifi. Ym 1940 priododd â Margaret Jones, un o deulu'r Cilie, a thrwy hynny daeth dan ddylanwad beirdd megis Isfoel ac Alun Cilie. Ennillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, 1958, ac yng Nghaernarfon, 1959. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Sŵn y Malu (Llandysul, 1967) and Canu'n Iach! (Llandysul, 1987). Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau poblogaidd i blant, yn eu mysg Y Ffordd Beryglus (Llandysul, 1963), Ymysg Lladron (Llandysul, 1965) and Dial o'r Diwedd (Llandysul, 1968), Barti Ddu (Llandybïe, 1973), Un Noson Dywyll (Llandysul, 1973), Tân ar y Comin (Llandysul, 1975), Dirgelwch yr Ogof (Llandysul, 1977) a Lleuad yn Olau (Llandysul, 1989). Roedd gan T. Llew Jones ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll. Roedd yn aelod o Undeb Gwyddbwyll Cymru, a daeth yn Is-Lywydd ar y mudiad. Rhannodd y diddordeb yma gyda'i fab iau, Iolo Ceredig Jones (g. 1947), a bu'r ddau yn cystadlu dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll. Ei fab hynaf yw Emyr Llewelyn (g. 1941), ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg a garcharwyd ym 1963 yn sgil ffrwydriad yng Nghwm Tryweryn, Bala. Bu farw T. Llew Jones ym Mhontgarreg, Ceredigion, ar 9 Ionawr 2009.

Parry, Robert Williams

  • n 82165695
  • Person
  • 1884-1956

Yr oedd Robert William Parry (1884-1956), bardd a darlithydd o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. sir Gaernarfon, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud i Fangor ac astudio dan John Morris-Jones, gan raddio yn 1908. Yn 1910 enillodd ei awdl 'Yr Haf' Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn. Bu'n athro yn y Barri, Morgannwg, ac wedyn yng Nghaerdydd. Rhwng 1916 a 1918 bu'n gwasanaethu yn y fyddin; ysbrydolwyd ef i lunio llawer soned ynghyd â'i englynion er cof am Hedd Wyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1922 cafodd ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor, sir Gaernarfon, a symudodd i Fethesda, sir Gaernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, 'Yr Haf a Cherddi eraill', yn 1924, gan sicrhau iddo'r bri o fod yn fardd mawr. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, 'Cerddi'r Gaeaf' yn 1952. Priododd Myfanwy Williams Parry (1898-1971) yn 1923.

Davies, Pennar

  • n 83062434
  • Person
  • 1911-1996

Roedd y Parch. Dr William Thomas Pennar Davies (W. T. Pennar Davies, 'Davies Aberpennar', 1911-1996) yn fardd, yn nofelydd ac yn ysgolhaig. Ganwyd yn William Thomas Davies yn Aberpennar, Morgannwg, ar 12 Tachwedd 1911, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Colegau Balliol a Mansfield, Rhydychen, a Phrifysgol Iâl, UDA. Bu'n weinidog yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1943, ac yna yn Athro yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor a Choleg Coffa Aberhonddu, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Coffa Abertawe. Yr oedd yn Brifathro'r Coleg Coffa, 1952-1981, tan ei ymddeoliad. Cafodd ei gysylltu â grŵp o feirdd Cylch Cadwgan o 1939 ymlaen, yn ysgrifennu dan yr enw 'Davies Aberpennar', a mabwysiadodd yr enw 'Pennar' tua 1948.Priododd Rosemarie Woolf yn 1943 ac y mae Meirion Pennar yn un o'i bum plentyn. Bu farw 29 Rhagfyr 1996. Yn ogystal â chyfraniadau i Cerddi Cadwgan (Abertawe, 1953), cyhoeddodd chwe chasgliad o'i farddoniaeth yn cynnwys Cinio'r Cythraul (Dinbych, 1946), Naw Wfft (Dinbych, 1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961) a Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971, Ymhlith ei ryddiaith yr oedd Caregl Nwyf (Llandybïe, 1966), y nofelau Meibion Darogan (Landybïe, 1968 a Mabinogi Mwys (Abertawe, 1979) a gweithiau ysgolheigaidd megis Rhwng Chwedl a Chredo (Caerdydd, 1966).

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967

  • n 83301774

Ganwyd y llenor Edward Tegla Davies yn Llandegla-yn-Iâl ar 31 Mai 1880 yn fab i chwarelwr. Bu’n ddisgybl-athro yn ysgol Bwlchgwyn gan ddod o dan ddylanwad athro ifanc o’r enw Tom Arfor Davies a fu’n gyfrifol am ei ysbrydoli mewn hanes a llenyddiaeth Cymru, Yn dilyn ei dröedigaeth penderfynodd fynd i’r weinidogaeth gan dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg Didsbury ym Manceinion. Bu’n weinidog gyda’r Wesleiaid mewn nifer o eglwysi yng Nghymru a Lloegr. Priododd Jane Eleanor (Nel) Evans yn 1908 a ganwyd tri o blant iddynt – Dyddgu, Arfor a Gwen. Ymddeolodd yn 1946 i Fangor oherwydd salwch ei wriag a bu hi farw yn 1948.

Bu’n olygydd Y Winllan, 1920-1928, Yr Efrydydd, 1931-1935 a Chyfres Pobun, 1944-1950. Ysgrifennodd golofn wythnosol i’r Herald Cymraeg, 1946-1953. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o’i waith fel cyfresi mewn cyfnodolion cyn eu cyhoeddi’n llyfrau a chyhoeddwyd Hunangofiant Tomi, ei lyfr cyntaf, yn 1912.

Bu farw Tegla Davies ar 9 Hydref 1967. Gosodwyd plac er cof amdano yn 1970 ar wal y cartref lle’i ganwyd ef yn Llandegla.

Canlyniadau 21 i 40 o 2971