Dangos 57876 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Cymdeithas Bob Owen.

  • Corporate body

Mae Cymdeithas Bob Owen yn gymdeithas i lyfrgarwyr a chasglwyr llyfrau yng Nghymru. Fe'i henwyd ar ôl Bob Owen (1885-1962), Croesor, Sir Feirionnydd, hanesydd a chasglwr llyfrau. Sefydlwyd y Gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976. Prif weithgaredd y Gymdeithas yw cyhoeddi'r cyfnodolyn, Y Casglwr, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 1977, gyda John Roberts Williams yn olygydd arno hyd 1995.

Cymdeithas Cerdd Dafod.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Y Gymdeithas Gerdd Dafod yn 1976 gan feirdd â diddordeb mewn barddoniaeth Gymraeg yn y mesurau caeth a chynghanedd yn bennaf. Mae'n noddi ymrysonau ac yn cyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth, blodeugerddi a llyfrau perthynol, yn ogystal â'r cylchgrawn Barddas (yn fisol,1976-1997, bob yn ddeufis ar ôl hynny).

Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

  • Corporate body

Mae Cerdd Dant, yn llythrennol 'celfyddyd y tannau', yn cynnwys canu cyfalaw i alaw y delyn. Yn 1934 ffurfiwyd y Gymdeithas a elwir yn Gymdeithas Cerdd Dant er mwyn hyrwyddo'r math yma o ganu. Cynhelir Gwyliau Cerdd Dant mewn gwahanol leoedd trwy Gymru.

Cymdeithas Cofeb Beca.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cofeb Beca er mwyn codi arian i greu cofeb i goffáu Terfysg Beca yn 1839. Lleolwyd Cofeb Beca yn Efailwen, sir Gaerfyrddin (sir Benfro erbyn hyn). Fe'i dadorchuddiwyd gan yr Athro David Williams, Aberystwyth, ym Mai 1964.

Cymdeithas Cyfeillion Ysgol Gyfun Penweddig.

  • Corporate body

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, Ceredigion, yn 1973 fel ysgol Gymraeg. Ffurfiwyd Cymdeithas Cyfeillion Ysgol Gyfun Penweddig yr un flwyddyn.

Cymdeithas Cymry Ariannin.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymru-Ariannin ym 1939 gan bobl â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut, yr Ariannin, i fod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Mae'r Gymdeithas yn trefnu a noddi cyfnewid athrawon, myfyrwyr a gweinidogion yr efengyl rhwng Cymru a'r Ariannin. Mae'n noddi cystadleuaeth lenyddol flynyddol (yn y Gymraeg) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ers 1978. Yn ogystal mae'n noddi unrhyw fyfyriwr o'r Ariannin sydd am ddod i Gymru i ehangu gorwelion eu haddysg. Cafwyd cydweithredu agos â Choleg Harlech. Ymysg y sefydliadau a noddwyd yn y blynyddoedd diweddar mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Ganolfan Gymraeg yn Esquel. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cymdeithas Cymry Wallasey.

  • Corporate body

Roedd Cymdeithas Cymry Wallasey yn weithredol rhwng 1943 a 1992 yn Wallasey, swydd Gaer (Wirral yn awr). Gellid tybio ei bod yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer Cymry Cymraeg yr ardal. Efallai ei bod yn gysylltiedig ag Aelwyd Wallasey, a fu'n weithredol o 1948 i 1967. Ffurfiodd eglwysi Cymraeg Wallasey Undeb Eglwysi Cymraeg Wallasey, a fu'n weithredol o 1952 i 1973.

Canlyniadau 401 i 420 o 57876