Dangos 57876 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Cymdeithas Edward Llwyd

  • Corporate body

Cymdeithas astudiaethau natur Cymraeg yw Cymdeithas Edward Llwyd, sy'n gweithredu er mwyn hybu ymwybyddiaeth am fyd natur trwy gyfrwng y Gymraeg, i ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru, ac i gefnogi ymchwil yn y meysydd hynny. Fe'i sefydlwyd gan Dafydd Davies, Rhandirmwyn, ym 1978, gan fabwysiadu enw'r naturiaethwr, daearyddwr ac ieithydd Edward Llwyd / Lhuyd (1660-1709). Mae'r Gymdeithas yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a mae hi'n cyhoeddi cylchgrawn achlysurol o'r enw 'Y Naturiaethwr'. Cynhelir darlithiau, gweithgareddau gwarchodaethol a theithiau cerdded yn rheolaidd ledled Cymru, gan ymddiddori ym mhob agwedd o natur ac amgylchedd y wlad. Mae'r Gymdeithas hefyd yn codi arian ar gyfer prosiectau ymchwil, sy'n cael eu cyllido fel arfer trwy gyntundebau cymhorthdal gyda sefydliadau fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Cymdeithas Emynau Cymru.

  • Corporate body

Sefydlwyd Cymdeithas Emynau Cymru yn 1968 er mwyn hybu diddordeb mewn emynau Cymraeg ac emyn-donau. Cynhyrchodd cyhoeddiad blynyddol, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, yn cynnwys adroddiadau ar ymchwil yn y pwnc.

Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

  • Corporate body
  • 1996-

Sefydlwyd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ym mis Mehefin 1996, a chynhaliwyd y cyfarfod cyffredinol gyntaf ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala fis Awst y flwyddyn dilynol. Eirlys Gruffydd oedd ysgrifennydd y Gymdeithas. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas.

Cymdeithas Genedlaethol Hywel Dda.

  • Corporate body

Cynlluniwyd Cofeb Hywel Dda, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, gan yr artist a'r hanesydd celf Peter Lord (g. 1948), a chwblhawyd y gwaith yn 1985. Mae'n coffáu Hywel Dda (bu farw c. 950), y brenin Cymreig a gaiff y clod am roi trefn ar gyfraith frodorol Cymru. Mae'r gofeb, a saif yn Hendy Gwyn ar Daf, sir Gaerfyrddin, yn cynnwys chwe gardd fach sydd yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar y cyfreithiau gyda dyfyniadau o'r cyfreithiau mewn gwahanol gyfryngau ar blaciau llechi. Ceir hefyd canolfan ddeongliadol, a gynlluniwyd gan Peter Lord a Dafydd Thomas o Bartneriaeth Pryd Edwards, Aberystwyth.

Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn.

  • Corporate body

Sefydlwyd Cymdeithas Gyfeillgar y Meibion Llanuwchllyn ar 1 Mawrth 1837. Diben y Gymdeithas oedd darparu cymorth ariannol i'w haelodau mewn amser o salwch neu ddamwain. Roedd cyfraniadau misol yr aelodau yn mynd tuag at gynnig cymhorthdal i'r rheini nad oedd yn medru gweithio oherwydd salwch, neu i gynnig arian yn achos marwolaeth aelod neu ei wraig ar gyfer costau'r gladdedigaeth.

Roedd y Gymdeithas yn cwrdd unwaith bob mis. Cynhaliwyd gwledd flynyddol ym mis Mehefin i ethol aelodau'r Pwyllgor Gweinyddol oedd yn gyfrifol am oruchwylio cyfarfodydd, gwirio'r holl daliadau salwch, ac i godi dirwyon. Derbyniwyd dynion rhwng 16 a 45 mlwydd oed yn unig i'r Gymdeithas, ac, yn ôl y rheolau, yr oedd rhaid iddynt fod yn gorfforol iach ac o gymeriad moesol da. Er nad oedd menywod yn cael eu derbyn fel aelodau, roedd y Gymdeithas yn darparu ar gyfer gweddwon aelodau cyn belled eu bod yn cyfrannu swm bach bob blwyddyn. Yr oedd disgwyl i'r aelodau i ddilyn rheolau'r Gymdeithas a chodwyd dirwyon ar y sawl oedd yn torri'r rheolau.

Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru.

  • Corporate body

Crëwyd Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru c. 1920 gan Undeb Annibynwyr Cymru i hwyluso ymchwil i gychwyniad a datblygiad Eglwysi Annibynnol Cymru. Mae'r Gymdeithas wedi llacio'i chysylltiadau â'r Undeb dros y blynyddoedd. Ers 1923, mae'r Gymdeithas wedi cynhyrchu cylchgrawn, Y Cofiadur, bob blwyddyn fel arfer, a chynnal darlith flynyddol yn ogystal. Sefydlwyd Cronfa'r Cofiadur yn 1977 i godi arian at y Gymdeithas.

Canlyniadau 421 i 440 o 57876