Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon
- Corporate body
Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon
Cymdeithas Lenyddol Llanbrynmair
Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl, Porthmadog
Cymdeithas Llên a Chân Eglwys Seilo, Llandudno.
Mae Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf. yn grŵp cyhoeddi a leolir yn Aberystwyth, Ceredigion. Cyhoeddir llyfrau Cymraeg ganddynt yn bennaf, yn cynnwys llyfrau i blant a llyfrau o ddiddordeb lleol. Prynodd y cwmni Welsh Teldisc Ltd, c. 1974.
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion -- Archives.
Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystyd a Llangwyryfon.
Sefydlwyd Cymdeithas Telynau Cymru yn 1962 a'i diddymu yn 1983. Ei nod oedd hybu a datblygu canu'r delyn yng Nghymru trwy ddarparu cyfleusterau atgyweirio a chyflenwi tannau a cherddoriaeth telyn. Trefnwyd hefyd ddigwyddiadau megis Rali Byd y Delyn, 1977. Ymhlith pobl flaenllaw y Gymdeithas yr oedd y trysorydd, H. P. Richards, o Gaerffili, sir Forgannwg, yr ysgrifennydd, Gwennant Gillespie o Aberystwyth, a'r llywydd, Dr E. D. Jones, 1966-[1983].
Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol.
Mae'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn amcanu at hybu ymwybyddiaeth o faterion gwyddonol yng Nghymru, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe'i ffurfiwyd yn 1971 a chaiff ei threfnu ar gynllun ffederal, gyda changhennau yng Ngwynedd, Clwyd, Caerdydd ac Aberystwyth. Mae'r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion a chynhadledd flynyddol, ac mae'n cynhyrchu llyfrau a defnyddiau printiedig eraill ar gyfer plant ac oedolion, yn cynnwys Cystadleuaeth fathemategol (1983-) a Llyfr cyflwyno plentyn i'r Micro BBC (1986). Mae nawr yn cynhyrchu deunydd i'r we yn Gymraeg ac yn ddwyieithog ar bynciau gwyddonol.
Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol -- Archives.
Bu Cymdeithas y Bedol yn weithgar yn Aberystwyth, Ceredigion, ers 1944. Grŵp cymdeithasol ydyw, yn cynnal darlithiau a cinio blynyddol.
Cymdeithas y Bedol -- Archives.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg -- Archives
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhanbarth Ceredigion.
Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 i hybu defnydd o'r Gymraeg. Fe'i trefnir yn ganghennau. Sefydlwyd Rhanbarth Ceredigion yn 1964, ac mae'n dal yn weithredol.