Showing 2970 results

Authority record

Williams, Eunice Bryn, 1919-1991.

  • Person

Yr oedd Eunice Bryn Williams (m. 1991) yn gysylltiedig â gwaith Cymdeithas Alawon Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Meredith, David

  • Person

Sefydlwyd Yr Amserau yn 1843 gan William Rees (Gwilym Hiraethog) a John Jones (1790-1855). Newyddiadur pythefnosol oedd Yr Amserau a oedd yn gryf o blaid hawliau anghydffurfiaeth a radicaliaeth ac a ddaeth yn boblogaidd iawn pan ddechreuodd Rees gyhoeddi'r golofn 'Llythyrau 'Rhen Ffermwr'. Yn 1859, prynwyd Yr Amserau gan Thomas Gee a'i uno gyda'i bapur ef, Baner Cymru, a sefydlwyd ddwy flynedd cyn hynny, i greu Baner ac Amserau Cymru, neu Y Faner fel y'i gelwid yn ddiweddarach. Daeth y papur i gael dylanwad cryf ar fywyd crefyddol, gwleidyddol a llenyddol Cymru trwy gydol ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn rhyddfrydol ei ogwydd ac yn amddiffyn anghydffurfiaeth yn erbyn yr Eglwys Sefydledig, yn ogystal â bod yn gefn i'r werin mewn achosion radicalaidd megis dirwest a phwnc y tir. Yn ystod ugain mlynedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, dirywiodd y papur a hynny hyd nes daeth E. Prosser Rhys yn olygydd yn 1923. Bu ef yn olygydd ar Y Faner hyd at ei farwolaeth yn 1945. Yn 1935, prynodd Kate Robers a'i gŵr gwmni cyhoeddi Gwasg Gee, ac argraffwyd llawer o erthyglau ac adolygiadau'r awdur yn Y Faner. Gyda Gwilym R. Jones yn olygydd y papur wedi'r rhyfel a Mathonwy Hughes yn is-olygydd, 1949-1977, newidiodd y papur ei berchennog ddwywaith ac fe'i prynwyd yn 1956 gan Wasg y Sir, y Bala, oddi wrth Huw T. Edwards.

Yn ystod y 1960au a'r 1970au, dirywiodd y cylchrediad ac yr oedd y papur mewn perygl am ei fodolaeth, nes, yn 1977, gyda chymhorthdal oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, newidiwyd diwyg y papur i ffurf cylchgrawn wythnosol. Parhaodd Y Faner i chwarae rhan bwysig yng Nghymru fel un o'r ddau wythnosolyn Cymraeg â chylchrediad o tua thair mil. Daeth bygythiad arall i'r Faner pan benderfynodd Cyngor Celfyddydau Cymru yn erbyn adnewyddu grant Y Faner yn sgîl arolwg o'i nawdd i gyfnodolion. Prynwyd y papur gan Luned Meredith a'i gŵr David Meredith a wnaeth ymdrech i'w achub, dan olygyddiaeth Hafina Clwyd, ond er ymgyrchu caled, methwyd â gwneud hynny, a bu'n rhaid dirwyn Y Faner i ben yn 1992. Daeth y rhifyn olaf o'r wasg ar 17 Ebrill 1992.

Bryn'rodyn (Church : Groeslon, Wales)

  • Corporate body

Codwyd y capel gwreiddiol ym 1789 ar dir fferm Bryn'rodyn ym mhlwyf Llandwrog, Gwynedd. Cychwynwyd ar godi capel newydd ym 1829. Bu'r capel hwn yn sefyll hyd 1867 pan gychwynwyd ar drydydd adeilad ger yr un safle. Agorwyd y trydydd capel ym mis Mehefin 1868 ac ychwanegwyd festri a thŷ'r gweinidog ato ym 1901. Fe'i dymchwelwyd ym 1996 a chynhelir y gwasanaethau bellach yn y festri.

Yn 1838 ffurfiwyd eglwysi Carmel, Bwlan a Bryn'rodyn yn gylchdaith hyd 1857 pan drefnwyd Bryn'rodyn yn daith gyda Phenygroes. Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Clynnog yn Henaduriaeth Arfon.

Eglwys Bethel (Tanygrisiau, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd Capel Bethel, Tanygrisiau yn 1838. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 36. Erbyn 1840 roedd y nifer wedi codi i 100 ac roedd y capel cyntaf bellach yn rhy fach. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail gapel yn 1840 ac fe'i agorwyd yn 1841. Yn 1864 adeiladwyd trydydd capel mwy o faint, a'r flwyddyn ddilynol adeiladwyd Tŷ'r Capel. Cafwyd ychwaneg o newidiadau i'r capel, sef gosod galeri yn 1870, tŷ newydd i'r Gweinidog yn 1896 ac adeiladu festri yn 1906, a agorwyd yn 1907.

Untitled

Bu i ŵr busnes lleol o'r enw Robert Roberts adael £3000 i dlodion Tanygrisiau yn ei ewyllys, gyda'r llôg i'w rannu yn ôl penderfyniad ymddiriedolwyr yr ardal, oedd yn swyddogion ym Methel.

Results 521 to 540 of 2970