Showing 2970 results

Authority record

Untitled

Cychwynwyd ar y gwaith o ysgrifennu Sothach a Sglyfath yn ystod cyfnod o dri mis a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl ym Mharc Glynllifon gan ddechrau ym mis Medi 1991.

Untitled

Er nad yw Angharad Tomos mor adnabyddus fel awdur sgriptiau ag yw hi fel awdur nofelau a llyfrau darllen i blant, bu'n ysgrifennu sgriptiau'n gyson ers diwedd y 1980au. Yn ystod 1991 fe'i cyflogwyd am flwyddyn fel awdur preswyl yn gweithio i gwmnïau theatr Hwyl a Fflag, y Frân Wen ac Arad Goch.

Dinorwig (Church : Dinorwic, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos ym 1825 mewn ysgoldy bach yn ymyl chwarel Dinorwig a godwyd, yn ôl pob tebyg, gan oruchwylwyr y chwarel. Daeth 35 o aelodau a 15 o blant draw o'r Capel Coch pan sefydlwyd yr eglwys. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelodau yn ystod diwygiad 1832 ac yn dilyn y tŵf yma adeiladwyd capel newydd ym 1833. Bu'n rhaid ymestyn yr adeilad ym 1849 yn sgîl cynnydd yn y boblogaeth. Yn Chwefror 1862 agorwyd Capel Fachwen ac roedd y mwyafrif o'i 67 o aelodau yn gyn-aelodau Capel Dinorwig. Serch hynny, nifer aelodaeth yr eglwys erbyn 1866 oedd 235.

Yn Awst 1874 agorwyd capel newydd ar gost o £1600 ac ym 1880 cofrestrwyd y capel i weinyddu priodasau. Roedd Hugh Jones ('Huw Myfyr'), John Puleston Jones a Ieuan Bryn Williams ymhlith y gweinidogion a wasanaethodd yn y Capel. Tybiwyd mai Ysgol Sul Dinorwig, a gychwynnodd tua 1790, oedd y cyntaf yn Arfon.

Caewyd Capel MC Dinorwig yn 2000. Roedd yn rhan o Ddosbarth Eryri a Henaduriaeth Arfon yr adeg honno.

Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr (Water Street, Wales)

  • Corporate body

Pentre bychan rhwng Margam a'r Pîl yw Heol Tre-Dŵr neu Water Street. Cyn i'r capel gael ei godi, byddai'r aelodau wedi mynychu Capel y Pîl, ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, penderfynwyd sefydlu achos lleol yn y pentref. Cynhaliwyd Ysgol Sul i gychwyn yng nghartref un William Hugh ar ddechrau pum degau'r ganrif honno, ac yn fuan wedyn cafwyd yr hawl gan Eglwys y Pîl i godi capel yn y pentref. Caewyd y Capel ym 1994 o ganlyniad i fandaliaeth cynyddol a thân i'r adeilad.

Results 541 to 560 of 2970