Showing 2970 results

Authority record

Cronfa Goffa Saunders Lewis

  • Corporate body

Ym 1989 ffurfiwyd cronfa genedlaethol i goffáu John Saunders Lewis (1893-1985), ysgolhaig a beirniad llenyddol, ac un o wŷr disgleiriaf Cymru ei gyfnod. Ar Mehefin 3ydd cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa Saunders Lewis. Yr ymddiriedolwyr, a swyddogion Pwyllgor Rheoli yr Apêl oedd yr Athro R. Geraint Gruffydd (Cadeirydd), Dr Meredydd Evans (Ysgrifennydd), Ms Ann Ffrancon (Ysgrifennydd Cynorthwyol), a Mr Alun Creunant Davies (Trysorydd), ynghyd â Mr Emyr Humphreys a'r Esgob Daniel Mullins. Ar Hydref 18fed y flwyddyn honno, yn Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd, cynhaliwyd cynhadledd i'r Wasg a oedd hefyd yn gyfarfod lawnsio'r Apêl Ariannol gyda'i nod o gasglu £150,000 ar gyfer amcanion addysgol y Gronfa. Bwriad penodol Ymddiriedolwyr y Gronfa oedd buddsoddi'r arian a gasglwyd er mwyn defnyddio'r llogau i ariannu ysgoloriaethau, gwerth rhwng £14,000 a £16,000 y flwyddyn, a oedd yn agored i Gymry ifainc o dan bymtheg ar hugain mlwydd oed. Yr oedd yr ysgoloriaethau i'w dal am gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer gwaith ymchwil neu waith creadigol yn un o'r meysydd canlynol: cysylltiadau llenyddol, drama, ffilm, y celfyddydau cain ac adeileddau gwleidyddol. Ar gyfer y gwaith hwn yr oedd yn rhaid i'r deiliad dreulio'r cyfan, neu ran, o'r amser yn ymchwilio mewn sefydliadau addysgol neu artistig perthnasol yng ngwledydd Ewrop Gyfandirol. Amod arall oedd i ganlyniadau'r ymchwil gael eu cyflwyno yn Gymraeg. Cyflwynwyd yr ysgoloriaeth gyntaf ym 1993, blwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Saunders Lewis.

Samuel, Harri.

  • Person

Yr oedd y Parch. Harri T. Samuel (m. 1985), Ystalyfera, Morgannwg, llenor, yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Rhaeadr Gwy, sir Faesyfed, o 1957 hyd 1976. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ryddiaith a gyfrannodd at lawer o eisteddfodau.

Stephens, Thomas Llewellyn.

  • Person

Yr oedd Thomas (Tom) Llewellyn Stephens (1897-1959), o Dalgarreg, Ceredigion, llenor a bardd, yn brifathro Ysgol Gynradd Talgarreg ac yn gyfaill i'r bardd a'r llenor David Emrys James ('Dewi Emrys', 1881-1952) a fu'n byw yn Nhalgarreg tua diwedd ei oes.

Jones, Jac, d. 1996

  • Person

Yr oedd Jac Jones (m. 1996), llenor, yn byw yng Ngwauncaegurwen, sir Gaerfyrddin, a bu'n perfformio mewn nifer o'r dramâu a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer Cwmni Drama Cawdor y bu ef yn ysgrifennydd iddo, yng Ngarnant, sir Gaerfyrddin.

Jones, Iorwerth, 1913-1992.

  • Person

Yr oedd y Parch. Iorwerth Jones (1913-1992) yn weinidog Eglwys Annibynnol Pant-teg, Ystalyfera, 1938-1959, a Chapel Als, Llanelli, 1959-1979. Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg, 1975-1985, a golygydd y cyhoeddiadau enwadol Y Dysgedydd, Porfeydd ac Y Tyst.

Results 561 to 580 of 2970