Dangos 2970 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Capel Penuel (Ferndale, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Penuel, Ferndale, yn 1878, gydag estyniad yn 1904. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth y Rhondda). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2003.

Capel Gorffwysfa (Penrhyndeudraeth, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd y capel yn 1880. Yr oedd dau gapel, Nasareth a'r Pant, ym Mhenrhyndeudraeth eisoes ond oherwydd twf yn y boblogaeth, yn enwedig yng ngwaelod y pentref, rhwng 1870 a 1880 gwelwyd yr angen am drydydd capel. Penderfynwyd adeiladu'r capel newydd ar dir Adwy-ddu a roddwyd gan Mrs A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw David Williams, AS, am brydles o 999 mlynedd. Gosodwyd y garreg sylfaen gan A. Osmond Williams, Castelldeudraeth. Cafwyd lle i eistedd pum cant, ynghyd ag ystafell ddosbarth a festri.

Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Meirionnydd.

Capel Seion (Capel Seion, Ceredigion, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd y capel yn 1823, ar dir fferm Pwllclai. Cafwyd prydles ar y tir am 99 mlynedd. Ymhen rhyw bum mlynedd prynodd John Davies, Blaengors, saer coed ac un o arweinwyr yr achos, y tir, ynghyd â thyddyn Brynsion a darn o fferm Pwllclai. Yn ei ewyllys gadawodd y tir y saif y capel arno a thir ar gyfer mynwent i'r eglwys.

Yn 1845 helaethwyd y capel ac yn 1873 fe'i ail-adeiladwyd. Fe'i adnewyddwyd eto yn 1908.

Eglwys Engedi (Ffestiniog, Wales)

  • Corporate body

Rhwng 1874 a 1881 cafwyd twf yn y boblogaeth yn ardal Ffestiniog oherwydd llwyddiant y diwydiant llechi. Yr oedd Capel Peniel gan yr enwad yn barod ond yr oedd angen lle o addoliad arall i gwrdd ag anghenion y bobl. Agorwyd Eglwys Engedi ar 15 Mai 1881 a'i sefydlu yn eglwys ar 23 Mai 1881. Daeth 160 o aelodau Peniel yn aelodau yn Engedi. Roedd lle i 500 eistedd yn yr addoldy. Yn 1898 codwyd tŷ i'r gweinidog ac yn 1904 cafwyd trydan yn y capel. Yn 1905 cynhaliwyd Sasiwn yno. Unwyd Eglwysi Peniel ac Engedi yn un ofalaeth yn 1920. Atgyweiriwyd Engedi yn 1925 a derbyniwyd gwahoddiad i gyd-addoli yn Eglwys Peniel yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bu'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd a chredir iddo gau yn 1948 gan nad yw'n cael ei gynnwys yn Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Dyddiadur am 1949.

Cymdeithas Cyfeillion Ysgol Gyfun Penweddig.

  • Corporate body

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, Ceredigion, yn 1973 fel ysgol Gymraeg. Ffurfiwyd Cymdeithas Cyfeillion Ysgol Gyfun Penweddig yr un flwyddyn.

Bethania (Church : Aberdare, Wales).

  • Corporate body

Dechreuwyd adeiladu Capel Bethania, Aberdâr, yn 1853. Roedd cant o aelodau yn bresennol yn yr agoriad ym mis Ebrill 1854. Ym mis Gorffennaf 1885 ail-agorwyd Capel Bethania wedi cyfnod o ymestyn ac adnewyddu'r adeilad. Caewyd y Capel yn y 1990au cynnar.

Capel Ebeneser (Borth-y-Gest, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos yng nghapel Ebeneser (a elwir hefyd yn gapel Borth), yn Borth-y-Gest, plwyf Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon yn 1881. Cyn hyn cynhaliwyd Ysgol Sul a chyfarfod gweddi mewn adeilad a alwyd yn 'Llofft y Sied'. Yn 1874 adeiladwyd capel yng ngwaelod Mary St. a dechreuwyd addoli yno ym mis Hydref. Gan fod yr achos mor llewyrchus, adeiladwyd capel mwy o faint yn 1880 a gostiodd fil o bunnoedd. Galwyd y Parch. Griffith Parry yn fugail yno yn 1889, ac ef a fu'n weinidog yno tan ei farwolaeth yn 1937. Unwyd dwy eglwys y Borth a Morfa Bychan yn un ofalaeth yn 1893. Mae Capel Borth-y-Gest yn Nosbarth Tremadog, Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Capel Penmaen (Dolgellau, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Salem, Dolgellau yn 1808. Yn 1877 sefydlwyd dwy eglwys allan ohoni, sef Bethel a'r Eglwys Saesneg a adeiladwyd yn y dref. Yna cychwynnwyd ysgol arall gan aelodau Salem yn Nhynygraig, tua thair milltir o'r dref. Symudwyd yr achos i bentref Penmaen a chodwyd ysgoldy yno ar dir a gafwyd gan Mrs Jones, Penmaenisaf.

Adeiladwyd capel Penmaen yn 1870 ar fin y ffordd fawr rhwng Llyn Penmaen ac Arthog. Unwyd Penmaen yn achos gydag eglwys Salem, ac yn 1899 fe'i corfforwyd hi'n eglwys. Roedd Eglwys Penmaen yn Nosbarth Dolgellau, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Am un cyfnod yr oedd y tair eglwys - Bethel, Penmaen a Salem yn un ofalaeth dan ofal un gweinidog, a'r eglwys Saesneg ar ei phen ei hun. Ond erbyn tua 1928 yr oedd y pedair eglwys wedi eu rhannu'n ddwy ofalaeth fugeiliol, sef Salem a'r Penmaen; Bethel a'r capel Saesneg. Caewyd y capel yn 1967.

Bethel Chapel (Talsarnau, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd yr achos ym Methel, Talsarnau, ym mhlwyf Llanfihangel-y-traethau, Sir Feirionnydd, yn 1797. Yr oedd tair cangen i'r eglwys - Yr Ynys a godwyd yn 1868, Bryntecwyn yn 1902 a Peniel yn 1903. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1812 a'r ail yn 1865. Ychwanegwyd galeri yn 1887.

Bu Bethel yn rhan o Ddosbarth y Dyffryn yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd tan y caewyd y capel yn [1980], a chysegrwyd Yr Ynys fel eglwys yn dilyn hyn. Datgorfforwyd Capel Yr Ynys yn 1986. Erys Capel Bryntecwyn, Llandecwyn, ar agor.

Canlyniadau 621 i 640 o 2970