Dangos 57876 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Eglwys Pensarn (Llandysiliogogo, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel yn 1794 ar ddarn o dir yn perthyn i fferm Tirgwyn ger Caerwedros ym mhlwyf Llandysiliogogo. Cafwyd y tir gan Llewelyn Parry, Gurnos, ar brydles o 99 o flynyddoedd, am 8s. y flwyddyn. Ceir tystysgrif yn cadarnhau'r adeilad fel man addoli yn 1853. Yn 1894 prynwyd y capel, y tŷ a'r tir am £172 10s. Cyn ei gau yn 1966 roedd y capel yn perthyn i Ddosbarth Ceinewydd, Henaduriaeth De Aberteifi.

Eglwys Philadelphia (Morriston, Wales)

  • Corporate body

Codwyd Eglwys Philadelphia yn 1802. Eglwys anenwadol ydoedd hi y pryd hynny. Derbyniwyd Philadelphia yn aelod llawn gan y Methodistiaid yn 1804.

Cafwyd adeilad newydd yn 1829 a chredwyd y gallai ddal 800 o bobl. Un o weinidogion amlycaf Philadelphia oedd y Parchedig Thomas Levi. Adnewyddwyd y capel yn 1935 pan osodwyd pedair ffenest gwydr lliw yn y capel. Rhestrwyd Capel Philadelphia gan CADW fel adeilad cofrestredig ar raddfa II. Ym mis Mai 2002 cynhaliwyd cyfarfodydd dathlu dau canmlwyddiant yr achos. Ar 19 Ionawr 2003 cynhaliwyd gwasanaeth datgorffori'r eglwys.

Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth Llansamlet yn Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg.

Eglwys Siloam (Llanfrothen, Wales)

  • Corporate body

Dechreuodd yr achos yn Siloam yn 1757 gyda nifer fechan yn ymgynnull ym Mhandy'r Ddwyryd. Dechreuodd yr Ysgol Sul tua 1796 yn Hafodty, ond cafodd cartref sefydlog rhwng 1814 ac 1834 yn adeilad yr ysgol oedd yn yr Hen Felin. Tua 1815 sefydlwyd eglwys yno ac yn 1833 prynwyd tir ac adeiladwyd capel. Yn 1858 ehangwyd y capel. Wedi i'r adeilad fynd yn rhy fach adeiladwyd capel newydd ac fe'i hagorwyd ym Mehefin 1866. Caeodd y capel yn 1993.

Eglwys Siloh (Rhydymain, Wales)

  • Corporate body

Cyn adeiladu capel yn Rhydymain, roedd Methodistiaid yr ardal yn teithio i Gapel Carmel, [Bont Newydd], i addoli. Oherwydd i Gapel Carmel fynd yn rhy llawn penderfynwyd sefydlu eglwys yn Rhydymain. I ddechrau cafodd ei gynnal mewn ffermdy o'r enw Dirlwyn, yna symudodd i ffermdy o'r enw Carleg. Ymhen ychydig flynyddoedd penderfynwyd adeiladu capel iawn ac agorwyd Capel Pantypanel yn 1841, ar dir tyddyn o'r enw Pantypanel. Yn 1868 prynwyd darn ychwanegol o dir er mwyn ychwanegu at y capel a chael mynwent. Codwyd capel arall a agorodd yn 1874, a rhoddwyd yr enw Siloh arno.

Eglwys Tabernacl (Blaengarw, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd Eglwys Tabernacl, Katie Street, Blaengarw, sir Forgannwg, ym mis Mai 1885. Tabernacl oedd capel Cymraeg Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Mlaengarw: y capel Saesneg oedd Trinity. Caewyd Tabernacl ar 27 Mehefin 2002.

Eglwys y Garth (Porthmadog, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd capel cyntaf y Garth, Moriah, yn 1845. Cyn hyn nid oedd yna gapel Methodistaidd ym Mhorthmadog, ac felly mynychai Methodistiaid y dre yr eglwys Fethodistaidd yn Nhremadog. Tua 1840 sefydlwyd eglwys Sabothol ym Mhorthmadog. I ddechrau y man cyfarfod oedd mewn gweithdy ar y Grisiau Mawr ym Mhencei. Yna symudodd i fod mewn ystafell mewn tŷ ar y ffordd i Benclogwyn. Adnabuwyd hwn fel yr Ysgoldy Bach. Gyda thwf y dre aeth Capel Tremadog yn rhy fach a gwelwyd yr angen i adeiladu capel ym Mhorthmadog. O ganlyniad, adeiladwyd Capel Moriah yn y Garth. Tybir bod tri capel arall wedi tyfu allan o'r Garth, gan nad oedd y capel yn ddigon mawr i'r holl aelodau. Yn 1856 agorwyd capel Morfa Bychan; yn ail, yn rhannol yn sgïl diwygiad 1859, cafwyd capel y Tabernacl, a agorodd yn 1862; ac yn drydydd daeth capel y Borth (capel Borth y Gest a agorwyd yn 1874). Fodd bynnag, ymhen amser cafwyd bod capel y Garth yn parhau i fod yn rhy fach, er gwaethaf gwaith i'w helaethu, a phasiwyd i adeiladu capel newydd yn 1893. Prynwyd darn o dir yn Bank Place yn 1895 ac agorwyd y capel newydd yn 1898.

Eglwys y Tabernacl (Porthmadog, Wales)

  • Corporate body

Erbyn 1859 yr oedd galw am gapel mwy o faint na'r Garth oherwydd y twf mewn poblogaeth a masnach ym Mhorthmadog. Ystyriwyd ehangu'r Garth ond penderfynwyd yn hytrach i godi capel newydd mewn rhan arall o'r dref. Yn Ionawr 1860 prynwyd darn o dir o Ystad Tremadog am brydles o 99 mlynedd ac agorwyd Capel y Tabernacl yn Ionawr 1862. Dewisodd 140 o aelodau'r Garth i symud i'r addoldy newydd. Nid oedd galeri i'r capel i ddechrau ond codwyd un yn 1866 a newidiwyd safle'r pulpud ac adrefnwyd yr eisteddleoedd. Yn 1881 codwyd ysgoldy y tu cefn i'r capel i ddal 300. Roedd yna lyfrgell eang er mwyn rhoi cyfle i'r werin bobl ehangu eu gorwelion. Yn 1889 codwyd Tŷ Capel. Newidiwyd tu blaen y capel yn 1924 a chafwyd organ newydd.

Dymchwelwyd Capel y Tabernacl, Porthmadog, yn 2000 a chodwyd capel newydd ar y safle, ond cadwyd yr ysgoldy a'r festrïoedd. Ym mis Mehefin 2001 agorwyd Eglwys y Porth. Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth Tremadog yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Canlyniadau 721 i 740 o 57876