Dangos 57876 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi; Gwyl Fawr Aberteifi..

Cynhaliwyd Gŵyl Fawr Aberteifi, a alwyd yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi, am tro cyntaf yn Aberteifi yn 1953. Mae'n ŵyl ddiwylliannol ac eisteddfod flynyddol, a gynhelir ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden y dref. Yn ogystal â dau ddiwrnod o gystadlu a chadeirio'r bardd ceir sioe adloniant ysgafn a chyngerdd. Bu Owen M. Owen yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gerdd, 1953-1955 ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr Ŵyl, 1955-1990. Ceir cymorth Ymddiriedolaeth Pantyfedwen gyda chynnal yr ŵyl.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

  • Corporate body

Cyfeirir at yr Eisteddfod Genedlaethol fel ‘prif ŵyl ddiwylliannol y Cymry’ yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 ac yn 1890 sefydlwyd Rheolau’r Gymdeithas. Cytunodd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1922 i roi cartref i’r cyfansoddiadau a beirniadaethau a gynigiwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1937 ffurfiwyd Cyngor yr Eisteddfod drwy uno Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn 1952 disodlwyd y Gymdeithas gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddwyd i gynnal eisteddfod bob blwyddyn ac eithrio 1914 a 1940 (Eisteddfod Radio). Cyflwynwyd cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 1937, Tlws y Ddrama yn 1961 (daeth i ben yn 1993), Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978 a Thlws y Cerddor yn 1990. Bellach mae’r Orsedd hefyd yn rhan o seremoni’r Fedal Ryddiaith.

Canlyniadau 741 i 760 o 57876