Dangos 2971 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Kirby, D. P.

  • n 90662265
  • Person
  • 1936-

Elis, Islwyn Ffowc

  • n 91086295
  • Person
  • 1924-2004

Nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis a ddaeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofel boblogaidd, Cysgod y Cryman. Ynghyd â bod yn awdur toreithiog roedd hefyd yn weinidog, yn gynhyrchydd gyda'r BBC, ac yn ddarlithydd.
Fe'i ganed ar 17 Tachwedd 1924 yn Wrecsam, yn fab i Edward Ifor a Catherine Ellis (née Kenrick). Fe'i magwyd ar fferm Aberwiel, Nantyr, yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn y tynnodd llawer o'i ysbrydoliaeth ohono fel awdur. Priododd Eirlys Rees Owen o Dywyn, a ganwyd eu merch, Sian yn 1960.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Nantyr, ac Ysgol Ramadeg Llangollen, cyn ennill gradd BA yn y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1946. Enillodd wobrau yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama yn 1945 a 1946, a bu'n weithgar yn cyfansoddi a chynhyrchu anterliwtiau yn y Coleg. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala lle enillodd radd BD mewn diwinyddiaeth yn 1949.
Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950 a bu'n weinidog gyda'r enwad yn Llanfair Caereinion, a Meifod, Sir Drefaldwyn, ac yn Niwbwrch, Môn, cyn penderfynu gadael y weinidogaeth yn 1956 er mwyn llenydda.
Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1951 am ei gyfrol o ysgrifau, Cyn Oeri'r Gwaed (1952), a dilynwyd y llwyddiant hwn gan dair nofel, sef Cysgod y Cryman (1953), Ffenestri Tua'r Gwyll (1955) ac Yn Ôl i Leifior (1956). Roedd Cysgod y Cryman yn nofel Gymraeg boblogaidd, gyfoes a gafodd dderbyniad brwd.
Symudodd i Fangor yn 1956 i fod yn awdur a chynhyrchydd gyda'r BBC a bu'n ysgrifennu, cynhyrchu a chymryd rhan mewn nifer fawr o raglenni'r BBC. Profodd yn gyfnod cynhyrchiol iddo o ran ysgrifennu nofelau, ac fe gyhoeddwyd ganddo Wythnos yng Nghymru Fydd, (1957), Blas y Cynfyd (1958) a Tabyrddau'r Babongo (1961).
Yn 1963 aeth yn Ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Y Drindod, Caerfyrddin, ac fe fu'r cyfnod a ddilynodd yn gymharol dawel o ran llenydda ond yn brysur yn wleidyddol. Bu'n ymgeisydd Seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Trefaldwyn yn Isetholiad 1962 ac Etholiad Cyffredinol 1964, ac roedd yn weithgar gydag ymgyrchoedd Plaid Cymru. Ef oedd Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau Plaid Cymru o tua 1962 i 1969, a bu'n paratoi llawer o lenyddiaeth wleidyddol ar gyfer Gwynfor Evans.
O 1968 hyd 1971, bu'n Olygydd ac yn Gyfarwyddwr cyfieithiadau gyda'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, ac yn 1968 cyhoeddwyd Y Blaned Dirion, nofel a addaswyd o ddrama radio BBC a ddarlledwyd yn 1959.
Dychwelodd i Wrecsam i fod yn awdur llawn-amser rhwng 1971 a 1975 a chyhoeddodd ddwy nofel, sef Y Gromlech yn yr Haidd, (1971) ac Eira mawr, (1972). Yna yn 1974 cyhoeddodd ddrama am y Diwygiad Methodistaidd, Harris, a chasgliad o storïau byrion, Marwydos.
Yn 1975 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn 1984 fe'i penodwyd yn Ddarllenydd yno, cyn ymddeol yn 1988. Yn dilyn ei ymddeoliad cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon ysgafn Caneuon Islwyn Ffowc Elis (1988), maes yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo rhwng 1945 a 1970. Yn 1993 derbyniodd radd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Roedd yn awdur dra chynhyrchiol, ac fe ysgrifennodd amryw raglenni radio a storïau, ac erthyglau ar grefydd a gwleidyddiaeth. Bu'n gyd-olygydd Y Ddraig Goch, cylchgrawn Plaid Cymru, a Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig. Enillodd nifer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoniaeth, storïau byrion, ysgrifau a dramâu, a bu'n beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau. Bu farw ym mis Ionawr 2004.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • n 93030027
  • Corporate body
  • 1979-

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

James, Evan, 1809-1878

  • n 93106810
  • Person

Evan James, Ieuan ap Iago, (1809-1878), gwehydd wrth ei alwedigaeth, a'i fab James James, Iago ap Ieuan, (1833-1902), o Bontypridd, Morgannwg, y naill ar ôl y llall yn awdur a chyfansoddwr Hen Wlad fy Nhadau, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach yn anthem genedlaethol Cymru. Gweithiai James James gyda'i dad a chadwodd dafarndai ym Mhontypridd ac yn Aberpennar ar ol 1873.

Jones, Tydfor

  • n 95057391
  • Person
  • 1934-1983

Yr oedd Tydfor Jones yn fardd a diddanwr a anwyd ar 2 Medi 1934 yn Nolwylan, Cwmtydu. Yr oedd yn unig blentyn i Evan George a Hetty Jones. Y mae ei enw yn gyfuniad o ‘Tydu’ a ‘môr’. Enw barddol ei Dad oedd ‘Sioronwy’ ac ef oedd y degfed o ddeuddeg plentyn fferm enwog y Cilie. Symudodd y teulu i fferm Y Gaerwen pan oedd Tydfor tua dwy flwydd oed.
Priododd Margaret Ann Jones (Ann Tydfor) ar 28 Mawrth 1978. Yr oedd yn aelod o‘r grŵp Adar Tydfor. Ef oedd yn gyfrifol am y sgriptiau a’r sgetsus gan gyfansoddi geiriau’r caneuon i gyd ac ef hefyd oedd arweinydd y noson. Roedd yn gyn gyfrannwr cyson i’r rhaglen radio ‘Penigamp’ ar ddechrau’r 1970au. Bu farw ar 20 Mehefin 1983 drwy ddamwain dractor ar ei fferm.

Jones, Ieuan Wyn

  • n 97007236
  • Person
  • 1949-

Etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ym Mehefin 1987. Bu'n ymgeisydd yng Ngorllewin Dinbych ym 1979, ac am sedd [Ewropeaidd Gogledd Cymru] ym 1979 ac yna am Sedd Ynys Môn am y tro cyntaf ym 1983. Bu'n Is-gadeirydd Plaid Cymru, 1975-1979, Cadeirydd Plaid Cymru, 1980-1982 a 1990-1992, Aelod o Bwyllgor Dethol Materion Cymreig, 1990-1992 a 1997-1998, a Chwip ei blaid, 1992-1995. Ar 6 Mai 1999 fe'i etholwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel Aelod dros Ynys Môn. Penderfynodd beidio sefyll fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 2001. Daeth yn Arweinydd Plaid Cymru ym mis Awst 2000.

Jones, Bobi, 1929-2017

  • n 97020852
  • Person
  • 1929-2017

Yr oedd Bobi Jones (Robert Maynard Jones) yn fardd, awdur straeon byrion, nofelydd ac ysgolhaig a anwyd ar 20 Mai 1929 yng Nghaerdydd i rieni di-Gymraeg. Dysgodd Gymraeg yn yr ysgol ac enillodd radd Dosbarth Cyntaf yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1949. Bu'n athro yn Llanidloes, sir Drefaldwyn, a Llangefni, sir Fôn cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac wedyn yn ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yn 1966 ymunodd â staff Adran Gymraeg y coleg hwnnw, a bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o 1980 tan ei ymddeoliad yn 1989. Yr oedd yn briod â Beti a ganwyd dau o blant iddynt, Lowri a Rhodri. Fe'i etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu farw Bobi Jones ar 22 Tachwedd 2017.

Canlyniadau 61 i 80 o 2971