- Person
Roedd Dafydd Peate (1936-1980) yn fab i Iorwerth a Nansi Peate. Priododd ag Eirlys Rees yn 1964 a ganwyd merch iddynt, Ann. Bu'n gweithio i'r BBC.
Roedd Dafydd Peate (1936-1980) yn fab i Iorwerth a Nansi Peate. Priododd ag Eirlys Rees yn 1964 a ganwyd merch iddynt, Ann. Bu'n gweithio i'r BBC.
Roedd Morris Peat (1813-1898) yn frawd i David Peat(e). Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1848, a bu'n byw ym Mhensylfania ac Iowa. Bu ei ŵyr, Maurice Pate, yn Gyfarwyddwr UNICEF.
Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988.
Yr oedd Sarah Winifred (Winnie) Parry (1870-1953) yn awdures a golygydd. Fe'i ganed yn y Trallwng, yn ferch i Hugh Thomas a Margaret Parry. Bu'n byw gyda'i mam yn Croydon tan i honno farw yn 1876, ac yna gyda'i thaid, John Roberts (marw 1903) yn y Felinheli, sir Gaernarfon. Erbyn 1882 yr oedd ei thad yn byw yn Ne'r Affrig. Dechreuodd gyfrannu i gyfnodolion fel Cymru, Cymru'r Plant ac Y Cymro yn 1893, gan gynnwys y gyfres 'Catrin Prisiard', 1896. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gohebu â J. Glyn Davies. Casglwyd rhai o'i chyfraniadau i gyfnodolion a'u cyhoeddi, sef Sioned (Caernarfon, 1906), Cerrig y rhyd (Caernarfon, 1907) a Y ddau hogyn rheiny (Llundain: Storfa Gymreig cwmni Foyle, 1928). Yn 1908 ymunodd â'i thad oedd wedi dychwelyd i Croydon, a bu'n gweithio fel ysgrifenyddes yno. Rhwng 1908 a 1912 bu'n olygydd Cymru'r Plant. Bu Mrs Dora Davies yn ymdrin ag ychydig ohebiaeth fywgraffyddol ar ôl marwolaeth Winnie Parry.