Dangos 57876 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Evans, D. (David), 1814-1891.

  • Person

Roedd David Evans (Dewi Dawel, 1814-1891) yn fardd, teiliwr a thafarnwr. Ganwyd ef 16 Medi 1814 ym Mhen-y-garn, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, yn un o naw o blant Thomas Evans (m. 1833). Priododd Mary Davies (m. 1867) ar 10 Tachwedd 1837 a chawsant deg o blant. Sefydlodd fusnes teiliwr, yn ogystal â siop a thafarn, yng Nghwmdu, Talyllychau; roedd hefyd yn gasglwr trethi yno hyd 1881. Roedd yn gystadleuydd a beirniad rheolaidd mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol lleol, yn ogystal â mynychu amryw weithgareddau eraill. Fel Undodwr, cyfrannodd gerddi yn rheolaidd i'r Ymofynydd. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes plwyf Talyllychau a'r abaty. Cyhoeddwyd ambell i faled, traethawd a cherdd o'i waith. Bu farw David Evans yng Nghwmdu, 20 Rhagfyr 1891. Ymysg ei feibion oedd Thomas Morgan Evans (1838-1892), ysgolfeistr Cwmdu, a William Evans (Gwilym Caradog, 1848-1878); priododd un o'i ferched, Esther (1856-1935), â John Phillips Griffiths (1860-1929) ym 1882.

Evans, D. R. (David Richard), d. 1984

  • Person

Aeth David Richard Evans (?-1984) o Fangor, Sir Gaernarfon, i'r môr yn ifanc, a chasglodd hefyd deunydd yn ymwneud â'i dad yng nghyfraith, Hugh H. Jones, swyddog yn chwarel Dinorwig.

Canlyniadau 901 i 920 o 57876