Dangos 57876 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Evans, Emlyn, 1923-

  • no2004110175
  • Person

Yr oedd Emlyn Evans yn rheolwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965, a Gwasg Gee, Dinbych, 1978-2001. Fe’i ganwyd ar 4 Rhagfyr 1923 yn y Carneddi, Bethesda. Mynychodd Goleg y Brifysgol, Bangor gan ddilyn cwrs gradd mewn Peirianwaith Trydan, Ffiseg a Mathemateg Bur. Priododd Eileen Morley Jones yn Llundain yn 1947 a ganwyd dau o blant iddynt Dafydd a Morfudd. Sefydlodd Gymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain ac ef oedd yr ysgrifennydd, 1953-1957. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Barn a bu’n olygydd am y ddwy flynedd gyntaf (1962-64). Bu’n athro economeg a mathemateg hefyd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, 1965-1978. Cyhoeddodd hunangofiant O’r niwl a’r anialwch yn 1991 a chyfres o erthyglau, Rhwng cyfnos a gwawr, yn 2012. Bu farw Emlyn Evans ar 13 Tachwedd 2014.

Evans, Ennis, 1953-1982

  • Person

Ysgrifennodd Ennis Evans (1953-82) o Dreffynnon, sir y Fflint, draethawd ymchwil ar fywyd a gwaith y nofelydd Daniel Owen (1836-1895). Cyhoeddwyd ei rhestr o gerddi Owen yn Llên Cymru, 15, 1987-1988, ar ôl ei marwolaeth. Cyhoeddodd hefyd Y Gri Unig (Llandysul, 1975) a Pruddiaith: Storiâu Byrion (Llandysul, 1981).

Evans, Gwynne D. (Gwynne David), 1908-

Ganwyd Gwynne David Evans ar 9 Medi 1908 yng Nghefneithin. Bu’n brifathro ar Ysgol Gynradd Nantygroes ger Rhydaman ac roedd yn ddramodydd a enillodd nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfieithiodd sgript y ffilm Grand Slam (1978) i’r Saesneg. Yr oedd yn un o awduron cynnar Pobol y Cwm yn 1974. Bu’n cynhyrchu Under Milk Wood am nifer o flynyddoedd i’r Laugharne Players yn Saesneg ac yn ddiweddarach yn Gymraeg. Bu farw yn 1988.

Canlyniadau 921 i 940 o 57876