Showing 672 results

Authority record
Corporate body

Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ym mis Tachwedd 1833, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg ac ymdeimlad gwladgarol yn Y Fenni a Sir Fynwy. Yr oedd nifer o gymdeithasau tebyg ar hyd a lled Cymru yn y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn Llundain. Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill Lloegr, ond yr oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn tra rhagori arnynt i gyd yn ei chynnyrch llenyddol a'i henwogrwydd byd eang. Ei phrif ysgogwyr oedd yr hynafiaethwyr Thomas Bevan ('Caradawc y Fenni', 1802-82), y Parch. Thomas Price ('Carnhuanawc', 1787-1848) ac Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer ('Gwenynen Gwent', 1802-96), ac ymhlith yr aelodau yr oedd enwogion megis y gerddores Maria Jane Williams, Aberpergwm (?1795-1873), Arglwyddes Charlotte Guest (1812-95) yr awdures, ac uchelwyr blaenllaw lleol, yn eu plith Syr Charles Morgan, Arglwydd Tredegar (1760-1852), Benjamin Hall, Arglwydd Llanofer (1802-67) a Syr Josiah John Guest (1785-1852). Amcanion penodedig y Gymdeithas oedd casglu llyfrau Cymraeg a dyfarnu gwobrwyon am areithiau, traethodau ysgrifenedig yn y Gymraeg ar themâu amaethyddol, barddonol, crefyddol, gwyddonol, hanesyddol a hynafiaethol, yn ogystal ag ar gerddoriaeth a chelfyddydau cain. Pwysleisiwyd y dylai pob ymddiddan fod yn y Gymraeg, a bu'r Gymdeithas yn gwneud cais am ddefnydd ehangach o'r iaith mewn ysgolion, prifysgolion, yn y llysoedd a'r Eglwys, er bod ei chyfansoddiad yn gofyn i aelodau beidio ag ymhél â phethau a allai arwain at anfoesoldeb, annheyrngarwch i'r wladwriaeth, neu unrhyw ddadl grefyddol neu genedlaethol. Canolbwynt y rhan fwyaf o waith Cymreigyddion y Fenni oedd yr eisteddfodau (a alwyd yn gylchwyliau), a ddechreuodd ar raddfa fechan yn 1834. Profodd y digwyddiadau blynyddol hyn yn boblogaidd iawn, ac fe'u mynychwyd gan filoedd o bobl o bob dosbarth, gan gynnwys ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru, academyddion blaenllaw o Lydaw a'r Almaen, a hyd yn oed llysgenhadon o Ewrop a thywysogion o India. Er gwaethaf ei chryfder ymddangosiadol yn y 1830au, yr oedd hadau distryw y Gymdeithas yn ei thwf. Defnyddid mwy a mwy o Saesneg yn y rhan fwyaf o agweddau ar ei gwaith, gan fod y mwyafrif o'i noddwyr, llawer o'r ymwelwyr, a rhai o'i haelodau, yn methu siarad na deall Cymraeg, ac yr oedd hefyd yn anodd dod o hyd i fan cyfarfod parhaol addas ar gyfer y cylchwyliau cynyddol. Ond y broblem fwyaf arwyddocaol oedd y methiant i gwrdd â goblygiadau ariannol. Dibynnai'r Gymdeithas yn drwm ar gefnogaeth hael bonheddwyr lleol a'r diwydiant gwlân lleol (yr hyrwyddwyd ei chynnyrch yn y cylchwyliau), ond fel yr ai'r amser heibio nid oedd yn gallu denu noddwyr sylweddol newydd i gwrdd â chostau cynyddol ei gweithgareddau. O ganlyniad, bu'n rhaid cwtogi ar amlder y cylchwyliau mor gynnar â 1840, a daeth y Gymdeithas i ben yn 1854.

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr ym Mhenmaen-mawr, sir Gaernarfon, yn 1964. Cafodd ysgol feithrin Gymraeg ei sefydlu yn y pentref yn 1965, ond bu ymgyrch y Pwyllgor i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yn aflwyddiannus. Parhaodd y Pwyllgor gyda'i waith i mewn i'r 1980au, ac yn ddiweddarach cafodd ei adnabod fel Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr.

Cymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

  • Corporate body

Mae'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol yn amcanu at hybu ymwybyddiaeth o faterion gwyddonol yng Nghymru, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe'i ffurfiwyd yn 1971 a chaiff ei threfnu ar gynllun ffederal, gyda changhennau yng Ngwynedd, Clwyd, Caerdydd ac Aberystwyth. Mae'r gymdeithas yn trefnu digwyddiadau mewn ysgolion a chynhadledd flynyddol, ac mae'n cynhyrchu llyfrau a defnyddiau printiedig eraill ar gyfer plant ac oedolion, yn cynnwys Cystadleuaeth fathemategol (1983-) a Llyfr cyflwyno plentyn i'r Micro BBC (1986). Mae nawr yn cynhyrchu deunydd i'r we yn Gymraeg ac yn ddwyieithog ar bynciau gwyddonol.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhanbarth Ceredigion.

  • Corporate body

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 i hybu defnydd o'r Gymraeg. Fe'i trefnir yn ganghennau. Sefydlwyd Rhanbarth Ceredigion yn 1964, ac mae'n dal yn weithredol.

Capel Elim (Llanddeiniol, Ceredigion, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1832 gydag eisteddleoedd ar gyfer 213 i addoli. Ailadeiladwyd y capel ym 1899 a bu ysgol Sul arbennig o lewyrchus yno. 'Achubwyd' llawer yn yr ardal yn ystod diwygiad Evan Roberts ym 1904-1905. Gwnaethpwyd llawer iawn o waith atgyweirio drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Mae drysau'r capel yn dal ar agor hyd heddiw.

Capel Bethel (Melin-y-Coed, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Melin-y-Coed, ym mhlwyf Llanrwst, Sir Ddinbych. Codwyd y capel hwn mewn ymateb i lwyddiant yr Ysgol Sul yn yr ardal a ddechreuodd oddeutu 1793.

Yn y blynyddoedd cynnar 'roedd yr Ysgol Sul yn dra symudol nes y penderfynwyd codi cartref parhaol. O'r penderfyniad hwn daeth y syniad o adeiladu capel a agorodd ei ddrysau ym mis Gorffennaf 1827. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Llanrwst yn Henaduriaeth Dyffryn Conwy.

Capel Bethania (Corris, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1854 ar fin y ffordd o Ddolgellau i Fachynlleth yng Nghorris Uchaf, ym mhlwyf Tal-y-Llyn, Sir Feirionnydd. Codwyd yr ail gapel, ar yr un safle wrth dalcen y llall ym 1867, a chaewyd y capel hwnnw tua 1986.

Hyd at 1869, 'roedd Bethania yn rhan o Eglwys Corris (Rehoboth), ond yn y flwyddyn honno fe'i sefydlwyd fel eglwys ar wahân. Ym 1873, daeth y Capel a Chapel Ystradgwyn gyda'i gilydd yn un daith fugeiliol, ac ar ôl ad-drefniad ym 1911 unwyd hwynt â Rehoboth i ffurfio un ofalaeth eglwysig. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Ddwy Afon yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Results 101 to 120 of 672