Showing 1865 results

Authority record
Person

Roberts, John, 1910-1984

  • n 78039489
  • Person

Yr oedd John Roberts (1910-1984), Llanfwrog, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd. Fe'i ganed yn Nhŷ'r Cae bach, Llanfwrog, Llanfaethlu, sir Fôn. Addysgwyd ef yn ysgol Caergybi a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1931-1937. Bu'n weinidog Carneddi, Bethesda, sir Gaernarfon, [1937]-1944, Capel y Garth, Porthmadog, sir Gaernarfon, 1945-1957, Capel Tegid, Bala, sir Feirionnydd, 1957-1962, a Moriah, Caernarfon, tan ei ymddeoliad yn 1975. Dychwelodd i Lan-yr-Afon. Priododd Jessie, nyrs, yn 1938 a chawsant tair merch. Roedd yn enwog am ei bregethu, a chyfansoddodd farddoniaeth ac emynau (gyda George Peleg Williams). Enillodd dwy gadair am farddoniaeth yn eisteddfod Dyffryn Ogwen, ac am ryddiaith yn 1949 a 1973 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd llawer o'i gerddi cynnar yn y gyfrol Cloch y Bwi (Dinbych, Gwasg Gee, 1958).

Dyfnallt, 1873-1956.

  • Person

Yr oedd John Dyfnallt Owen (1873-1956) o Lan-giwg, Morgannwg, yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn Archdderwydd Cymru. Magwyd ef gan rieni ei dad ar ôl marwolaeth ei fam pan oedd yn flwydd oed. Ar ôl gweithio am gyfnod byr yn y lofa, aeth i Athrofa Parcyfelfed ac i Goleg Bala-Bangor. Bu'n weinidog Sardis, Pontypridd, rhwng 1905 a 1910. Yn 1907 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Priododd a chawsant ddau blentyn. Daeth yn weinidog Stryd Lammas Caerfyrddin yn 1910. Yn 1916 aeth yn gaplan yn Bethune, Ffrainc, ar ran y YMCA. Un o'i ddiddordebau pennaf oedd ymchwilio i hanes achos yr Annibynwyr yng Nghymru. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927, lle y cafodd rhwydd hynt i fynegi ei farn ar Gristnogaeth a heddwch. Teithiodd ar y cyfandir, gan gynnwys Gwlad Pwyl, y Swistir a Bafaria. Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd yn Danzig pan gyhoeddodd amryw o erthyglau.

Results 101 to 120 of 1865