Showing 2970 results

Authority record

Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg.

  • Corporate body

Sefydlwyd Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg yn 1987 gan Gyd Bwyllgor Addysg Cymru i ddatblygu a chyd-gysylltu addysg yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob sector, megis mewn ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion cyfun, addysg uwch ac addysg i oedolion.

Urdd Gobaith Cymru.

  • Corporate body

Mudiad i blant a phobl ifanc yw Urdd Gobaith Cymru, sydd yn trefnu gwahanol weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922, yn dilyn lansio apêl gan Ifan ab Owen Edwards, y golygydd, (1895-1970) yn Cymru'r Plant. Erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd gan yr Urdd 720 o aelodau, gan gynyddu i dros 5000 erbyn 1927. Trefnwyd yr aelodau lleol yn adrannau ac aelwydydd, a sefydlwyd yr adran gyntaf yn Nhreuddyn, sir y Fflint, yn 1922. Erbyn 1927 yr oedd dros 80 o adrannau. Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed yn awr. Ar y cychwyn gweinyddwyd y cyfan gan Edwards a'i wraig, ac yn 1932 datblygodd yr Urdd yn Gwmni Urdd Gobaith Cymru [Corfforedig] gyda chyhoeddi ei Memorandwm ac Erthyglau Cwmni y flwyddyn honno. Trefnodd yr Urdd ei gwersyll haf gyntaf yn 1928 yn Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Dilynwyd hyn yn 1932 gan sefydlu canolfan breswyl barhaol yn Llangrannog. Ceredigion. Ychwanegwyd ati gan Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid, sir Feirionnydd, yn 1950. O 1932 ymlaen trefnodd yr Urdd gystadlaethau chwaraeon, y cyntaf yn Llanelli. Trefnodd yr Urdd fordeithiau hefyd rhwng 1933 a 1939, y cyntaf yn cludo 500 o aelodau i Sgandinafia. Ers 1925 y mae'r Urdd wedi darlledu Neges Heddwch ac Ewyllys Da oddi wrth Ieuenctid Cymru at Ieuenctid y Byd bob blwyddyn. Datblygiad pwysig a noddwyd gan yr Urdd oedd agor yr Ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Lluest, Aberystwyth, yn 1939, gyda saith disgybl. Erbyn 1945 yr oedd gan yr ysgol 85 o ddisgyblion a phedwar athro. Mae'r Urdd wedi cynhyrchu amryw o gylchgronau a chyfnodolion dros y blynyddoedd. Yn ogystal â Cymru'r Plant, oedd yn dal yn boblogaidd, yr oedd Cymraeg(1954) yn gylchgrawn i ddysgwyr a Cymru (1957) ar gyfer aelodau hŷn. Yn 2003 roedd tri chylchgrawn: Cip, ychwanegiad i Cymru'r Plant, Bore Da a IAW! i ddysgwyr. Efallai mai cyfraniad mwyaf arwyddocaol y mudiad i fywyd yng Nghymru yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghorwen, Meirionnydd, yn 1929. Oddi ar hynny fe'i cynhaliwyd yn flynyddol, mewn lleoliad yn ne a gogledd Cymru bob yn ail, ac mae'n parhau am chwe diwrnod erbyn hyn (2003). Yn ogystal, rhagflaenir yr Eisteddfod Genedlaethol gan eisteddfodau lleol a rhanbarthol i ddewis y cystadleuwyr terfynol. Parhaodd ymlyniad cadarn Ifan ab Owen Edwards â'r Urdd tan ei farwolaeth yn 1970.Yn 1948 ymddeolodd o'i waith fel darlithydd i roi ei amser yn llwyr i'. Ffigwr arall pwysig yn y dyddiau cynnar oedd R. E. Griffith (1911-1975) a ymunodd â'r Urdd fel Trefnydd yn 1932, chael ei ddyrchafu yn Brif Drefnydd yn 1935 a'i apwyntio yn Gyfarwyddwr yn 1959. Ymddeolodd c. 1972. W. J. Williams oedd trysorydd cyntaf y Cwmni yn 1932.

Jones, William Rhys, 1868-1937

  • Person

Ganwyd y Parch. William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn', 1868-1937), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llên-gwerinwr, ym Mron Ceris, Y Fach-wen, Deiniolen, sir Gaernarfon, a mynychodd gapel ac ysgolion yn Dinorwig. Bangor a Lerpwl. Bu'n brentis i deiliwr cyn cofrestru yn Athrofa'r Bedyddwyr yn Llangollen yn 1890. Ar ôl cael ei ordeinio yn 1892, bu'n weinidog yn Horeb, Penrhyn-coch, Ceredigion, 1892-1894, a phriododd Ethel Hilda Rhys Jones (Hughes, gynt,1875-1930)yn 1894; cawsant ddwy ferch. Fe'i penodwyd wedi hynny yn weinidog Jeriwsalem, Penrhiwceibr, Morgannwg, 1894-1912, Seion, Llansanffraid Glynceiriog, sir Ddinbych, 1912-1923, a Calfaria, Tregatwg, Morgannwg,1923-1937. Oherwydd diwydrwydd Jones ym maes crefydd, llên gwerin a llenyddiaeth, awgrymodd ei wraig 'Gwenith Gwyn' (fel yn y gân werin boblogaidd) fel enw barddol iddo ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberpennar yn 1905, pan urddwyd ef yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Bu'n gaplan anrhydeddus Cymdeithas y Meistri Llechi a Chymdeithas y Chwarelwyr, yn aelod o Gymdeithas Llên gwerin Lloegr a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru, a gwasanaethodd hefyd ar ystod eang o bwyllgorau, yn ymwneud ag eglwys y Bedyddwyr, dirwest, ysgolion a cholegau, lles cymdeithasol, llyfrau a llenyddiaeth, ar hyd ei fywyd, yn ogystal â chyfrannu colofnau wythnosol i'r Barry Herald and Vale of Glamorgan Times a'r Barry and District News. Rhwystrwyd 'Gwenith Gwyn' gan afiechyd rhag astudio am radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Eastern University, Philadelphia, UDA, yn 1933 am ei ymchwil ar 'Clasur y Dorth a'r Cwpan'. Claddwyd ef, gyda'i wraig, ym Merthyr Dyfan, y Barri, Morgannwg, yn 1937.

Richards, Brinley.

  • Person

Roedd 'Brinli', Brinley Richards (1904-1981) yn fardd, cyfreithiwr, hanesydd lleol ac archdderwydd Cymru. Ganwyd ar 13 Ebrill 1904 yn Nantyffyllon, Maesteg, Morgannwg, a'i enwi ar ôl y cerddor a'r cyfansoddwr Brinley Richards (1819-1885). Mynychodd Ysgol Ramadeg Maesteg, ac ar ôl blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn brentis at Moses Thomas, Clerc Cyngor Tref Aberafan fel cyfreithiwr. Yn 1930 dychwelodd i Nantyffyllon i sefydlu cwmni o gyfreithwyr, a phriododd Muriel Roberts yn 1941. Roedd yn gynghorwr, yn cynrychioli Nantyffyllon ar Gyngor Maesteg am dros 40 mlynedd fel cynghorydd Annibynnol. Roedd yn aelod gweithgar o Siloh, Capel yr Annibynwyr yn Nantyffyllon, yn ysgrifennydd a thrysorydd, a hefyd yn drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1952. Byddai'n cystadlu'n aml mewn eisteddfodau, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1926 pan enillodd enwogrwydd am ei gerdd ddychanol. Enillodd y gadair yn Llanrwst yn 1951 ar 'Y Dyffryn'. Bu'n beirniadu gwahanol gystadlaethau mewn amryw eisteddfodau. Chwaraeodd ran yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd fel aelod o'r Orsedd ac ysgrifennydd Pwyllgor Llên Eisteddfod 1932 a 1948. Bu'n Archdderwydd o 1972 i 1975. Cyfrannodd Brinli erthyglau i gyfnodolion o'r 1930au ymlaen, gyda cholofn chwarterol yn Y Geninen,1967-1972, a gwaith ar hanes lleol, llenyddiaeth a chrefydd. Cynhyrchodd dwy gyfrol ar Iolo Morganwg (1877, 1979) a History of the Llynfi Valley (cyhoeddwyd ar ôl ei farw, 1982). Ymhlith ei weithiau pwysig eraill mae Cofiant Trefin (1963), Cerddi'r Dyffryn (1967) a Hamddena (1972). Ymddeolodd o'i bractis yn 1973 a bu farw ar 18 Medi 1981 yn Interlaken, y Swistir.

Wil Ifan, 1883-1968.

  • Person

Yr oedd y Parch. William Evans ('Wil Ifan', 1883-1968) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor, ac yn Archdderwydd Cymru. Fe'i ganed yn Llanwinio, sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Parch. Dan Evans. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Manceinion, Rhydychen. Bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr Annibynwyr yn Nolgellau, sir Feirionnydd, 1906-1909, Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, 1909-1917, a Chaerdydd, Morgannwg, 1917-1925. Dychwelodd i Ben-y-bont ar Ogwr, 1925-1949, a chafodd ei wneud yn Weinidog Emeritws yno am weddill ei fywyd. Cyfansoddodd farddoniaeth a rhyddiaith yn ogystal â sawl drama, yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y radio ac yn ddarlledwr. Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill y Goron ar dair achlysur. Yr oedd yn beirniadau mewn eisteddfodau yn gyson a bu'n Archddrwydd Cymru, 1947-1950. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth mewn nifer o gyfrolau, gan gynnwys, yn Gymraeg, Dros y Byth (Y Fenni, 1913), Plant y Babell (Wrecsam, 1922), Y Winllan Las (Caerdydd, 1936) a Difyr a Dwys (1960); ac yn Saesneg, A Quire of Rhymes (Caerdydd, 1943) a Here and There (1953). Casglwyd rhai o'i ysgrifau a'i erthyglau yn Y Filltir Deg (Abertawe, 1954) a Colofnau Wil Ifan (Llandysul, 1962). Priododd Nesta Wyn o Ddolgellau, Meirionnydd, yn 1910, a chwasant bedwar o blant, Elwyn, Mari, Nest a Brian. Bu farw 16 Rhagfyr 1968.

Results 101 to 120 of 2970