Showing 672 results

Authority record
Corporate body

Capel Penmaen (Dolgellau, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Salem, Dolgellau yn 1808. Yn 1877 sefydlwyd dwy eglwys allan ohoni, sef Bethel a'r Eglwys Saesneg a adeiladwyd yn y dref. Yna cychwynnwyd ysgol arall gan aelodau Salem yn Nhynygraig, tua thair milltir o'r dref. Symudwyd yr achos i bentref Penmaen a chodwyd ysgoldy yno ar dir a gafwyd gan Mrs Jones, Penmaenisaf.

Adeiladwyd capel Penmaen yn 1870 ar fin y ffordd fawr rhwng Llyn Penmaen ac Arthog. Unwyd Penmaen yn achos gydag eglwys Salem, ac yn 1899 fe'i corfforwyd hi'n eglwys. Roedd Eglwys Penmaen yn Nosbarth Dolgellau, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Am un cyfnod yr oedd y tair eglwys - Bethel, Penmaen a Salem yn un ofalaeth dan ofal un gweinidog, a'r eglwys Saesneg ar ei phen ei hun. Ond erbyn tua 1928 yr oedd y pedair eglwys wedi eu rhannu'n ddwy ofalaeth fugeiliol, sef Salem a'r Penmaen; Bethel a'r capel Saesneg. Caewyd y capel yn 1967.

Capel Pentyrch (Llanfair Caereinion, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd a sefydlwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Pentyrch, Four Crosses, Llanfair Caereinion, yn 1834. Gelwid y capel weithiau yn gapel y Gelli am ei fod wedi cael ei adeiladu ar dir y Gelli. Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Llanfair, Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf.

Capel Penuel (Ferndale, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Penuel, Ferndale, yn 1878, gydag estyniad yn 1904. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth y Rhondda). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2003.

Capel Pen-uwch (Penuwch, Wales).

  • Corporate body

Codwyd capel cyntaf Pen-uwch yn 1839 a'r ail gapel yn 1867. Ychwanegwyd oriel yn 1888. Ar 16 Mai 1962 cynhaliwyd dathliad agor y capel ar ôl ei adnewyddu. Y mae yn Nosbarth Aeron ac yn Henaduriaeth De Aberteifi ac fe'i rhestrir yn Y Blwyddiadur ar gyfer 2005.

Capel Seilo (Johnstown, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel tua diwedd 1893 ar y ffordd o Riwabon i Wrecsam yn Johnstown, ym mhlwyf Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, ac fe'i hagorwyd ym mis Chwefror y flwyddyn ddilynol. Ym 1898 adnewyddwyd yr adeilad oll y tu fewn a hefyd ychwanegwyd ysgoldy ac ystafell bwrpasol ar gyfer dosbarthiadau darllen ac yn y blaen.

Yn y cychwyn bu sefydlu'r achos yn gydweithrediad rhwng y Capel Mawr a'r Eglwys Saesneg, Hill Street, ac 'roedd gwasanaethau'r capel yn y ddwy iaith bob yn ail Sul yn ystod y blynyddoedd cynnar. Tua 1896 penderfynwyd sefydlu eglwys hollol Gymraeg yn y Capel, ac ymunodd aelodau o gapeli eraill megis y Capel Mawr, Hill Street a Phonciau (Bethel). Ym 1999 penderfynodd aelodau'r Capel i ddwyn yr achos i ben ac yn y flwyddyn honno unodd yr Eglwys â'r Capel Mawr (Jerusalem). 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Rhos yn Henaduriaeth Dwyrain Dinbych.

Capel Seion (Capel Seion, Ceredigion, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd y capel yn 1823, ar dir fferm Pwllclai. Cafwyd prydles ar y tir am 99 mlynedd. Ymhen rhyw bum mlynedd prynodd John Davies, Blaengors, saer coed ac un o arweinwyr yr achos, y tir, ynghyd â thyddyn Brynsion a darn o fferm Pwllclai. Yn ei ewyllys gadawodd y tir y saif y capel arno a thir ar gyfer mynwent i'r eglwys.

Yn 1845 helaethwyd y capel ac yn 1873 fe'i ail-adeiladwyd. Fe'i adnewyddwyd eto yn 1908.

Capel Seion (Gyrn Goch, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1826 wrth droed y Gyrn Goch, yn ymyl y ffordd rhwng Clynnog-fawr a Llanaelhaiarn. Cyn hynny roedd yr eglwys yn cyfarfod yn nhŷ Griffith Williams, Hen Derfyn, a oedd ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog-fawr a Llanaelhaiarn. Cafwyd tir ar brydles am gant ac un o flynyddoedd am chwe swllt y flwyddyn ar gyfer adeiladu capel a thŷ capel. Roedd capel Seion yn daith gyda'r Capel Uchaf a Brynaerau, yn Nosbarth Clynnog, Arfon, ond pan gychwynnodd achos yn y Pentref aeth Seion yn daith gyda'r Pentref a Chapel Uchaf. Adeiladwyd capel a thŷ diweddarach ar y safle yn 1875. Caewyd y capel yn 2000.

Capel Seion (Ysbyty Ifan, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Seion, Ysbyty Ifan, Tir Ifan, yn 1803, ac fe ailadeiladwyd y capel yn 1855. Mae Capel Seion, a elwir hefyd yn Capel Mawr, yn perthyn i Ddosbarth Machno, Henaduriaeth Dyffryn Conwy.

Results 121 to 140 of 672