Showing 2970 results

Authority record

Jones, J. W. (John William), 1883-1954.

  • Person

Yr oedd John William Jones (1883-1945) yn awdur, bardd gwerin, cyhoeddwr a chasglwr. Ganwyd yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sir Feirionnydd, ar 5 Mawrth 1883, yn fab i David Jones (?1848-1922), saer a oedd yn barddoni dan yr enw 'Glan Barlwyd'. Mynychodd Ysgol Gynradd Glan-y-pwll ac Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog. Aeth i weithio yn chwarel Oakley, Blaenau Ffestiniog, yn bedair ar ddeg oed, a bu yno am 53 mlynedd. Fel bardd, cyfrannai'n gyson i amryw o bapurau wythnosol Gymraeg a chyfnodolion. O 1940 ymlaen cyfrannodd golofn wythnosol boblogaidd o'r enw 'Y Fainc Sglodion' i'r Cymro. Golygodd a chyhoeddodd waith beirdd eraill oedd yn gysylltiedig â Blaenau Ffestiniog gan gynnwys: Ap Alun Mabon, Gwrid y Machlud (Blaenau Ffestiniog, 1941), Ioan Brothen, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942), Gwilym Deudraeth, Yr Awen Barod (Llandysul, 1943), Rolant Wyn, Dwr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), a Caneuon R. R. Morris (Lerpwl, 1951).

Roberts, Kate, 1891-1985

  • Person

Ganwyd Kate Roberts (1891-1985), un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, yn Rhosgadfan, Llanwnda, pentref yn ardal y chwareli yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn nofelydd, yn awdur storiâu byrion ac yn newyddiadurwraig lenyddol. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu'n astudio o dan Syr John Morris-Jones a Syr Ifor Williams. Wedi hynny bu'n athrawes Gymraeg yn Ystalyfera ac Aberdâr, ac yn 1928 priododd Morris T. Williams a phrynodd y ddau Wasg Gee, cyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn 1946, parhaodd i redeg y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd arall. Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau a storiâu byrion o 1925 hyd 1937 ac o 1949 hyd 1981. Yr oedd hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Genedlaethol Cymru a chyfrannodd yn rheolaidd i bapur newydd misol y blaid, Y Ddraig Goch. Mae nifer o'i gweithiau yn adlewyrchu cymdeithas y chwarel y magwyd Kate Roberts ynddi. Mae rhai o'i gweithiau yn ymwneud â gwragedd neu hen bobl yn byw ar eu pennau eu hunain. Yr oedd hefyd yn awdures llyfrau ar gyfer ac am blant. Yr oedd themâu ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys pynciau llenyddol, gwleidyddol a theuluol.

Davies, Alun Talfan, 1913-2000.

  • Person

Yr oedd Syr Alun Talfan Davies (1913-2000) yn fargyfreithiwr, barnwr a chyhoeddwr. Fe'i ganwyd yng Ngorseinon, Abertawe, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt. Fe'i galwyd at y Bar yn Gray's Inn yn 1939 ac i'r Fainc yn 1969 ac enillodd enw iddo'i hun fel arbenigwr mewn achosion diwydiannol. Safodd fel ymgeisydd mewn sawl etholiad, fel ymgeisydd Annibynnol yn isetholiad Prifysgol Cymru yn 1943, ac fel Rhyddfrydwr yn sir Gaerfyrddin, 1959 a 1964, a Dinbych yn 1966. Bu'n Gofiadur Merthyr Tudful, 1963-1968, Abertawe,1968-1969, Caerdydd, 1969-1971, a Llys y Goron,1972-1985, ac yr oedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter Sir Aberteifi, 1963-1971. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1977-1980, ac yr oedd yn aelod o Lys Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yr oedd yn gyfarwyddwr cwmni HTV, 1967-1983, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cronfa Trychineb Aberfan, 1969-1988, a chadeirydd Banc Brenhinol Cymru o1991. Gyda'i frawd hyn Aneirin (1909-1980) sefydlodd Gwasg y Dryw, Llandybïe,a chyfrannodd yn sylweddol at waith y wasg honno, gan gyhoeddi cyfrolau llenyddol pwysig yn y Gymraeg. Wedi hynny daeth ei fab Christopher yn berchennog ar y cwmni. Priododd Eiluned Christopher Williams yn 1942 a chawsant un mab a thair merch. Fe'i hurddwyd yn farchog yn Ionawr 1976. Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg, ar 11Tachwedd 2000.

Results 141 to 160 of 2970