Showing 2970 results

Authority record

Rees, Alwyn D.

  • Person

Roedd Alwyn D. Rees (1911-1974) o Gorseinon, sir Forgannwg, yn gymdeithasegydd. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn cael ei benodi'n diwtor yn 1936 ac yn Gyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol y coleg hwnnw yn 1949. Parhaodd yn y swydd tan ei farwolaeth. Gwelodd y bygythiadau sydd yn wynebu diwylliannau lleiafrifol, ac roedd yn gefnogwr brwd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod cyfnod mwyaf dadleuol ei hanes. Roedd Rees yn un o'r ymgyrchwyr dros sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth. Roedd yn olygydd Barn, 1966-1974, ac Yr Einion rhwng 1949 a 1958. Yn 1950 cyhoeddodd gampwaith ar astudiaethau gwerin Cymru, Life in a Welsh Countryside, am blwyf Llanfihangel yng Ngwynfa yn y 1930au, ac roedd yn gyd-olygydd Welsh Rural Communities. Ysgrifennodd Celtic Heritage yn 1961 gyda'i frawd Brinley Rees.

Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ym mis Tachwedd 1833, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg ac ymdeimlad gwladgarol yn Y Fenni a Sir Fynwy. Yr oedd nifer o gymdeithasau tebyg ar hyd a lled Cymru yn y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn Llundain. Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill Lloegr, ond yr oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn tra rhagori arnynt i gyd yn ei chynnyrch llenyddol a'i henwogrwydd byd eang. Ei phrif ysgogwyr oedd yr hynafiaethwyr Thomas Bevan ('Caradawc y Fenni', 1802-82), y Parch. Thomas Price ('Carnhuanawc', 1787-1848) ac Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer ('Gwenynen Gwent', 1802-96), ac ymhlith yr aelodau yr oedd enwogion megis y gerddores Maria Jane Williams, Aberpergwm (?1795-1873), Arglwyddes Charlotte Guest (1812-95) yr awdures, ac uchelwyr blaenllaw lleol, yn eu plith Syr Charles Morgan, Arglwydd Tredegar (1760-1852), Benjamin Hall, Arglwydd Llanofer (1802-67) a Syr Josiah John Guest (1785-1852). Amcanion penodedig y Gymdeithas oedd casglu llyfrau Cymraeg a dyfarnu gwobrwyon am areithiau, traethodau ysgrifenedig yn y Gymraeg ar themâu amaethyddol, barddonol, crefyddol, gwyddonol, hanesyddol a hynafiaethol, yn ogystal ag ar gerddoriaeth a chelfyddydau cain. Pwysleisiwyd y dylai pob ymddiddan fod yn y Gymraeg, a bu'r Gymdeithas yn gwneud cais am ddefnydd ehangach o'r iaith mewn ysgolion, prifysgolion, yn y llysoedd a'r Eglwys, er bod ei chyfansoddiad yn gofyn i aelodau beidio ag ymhél â phethau a allai arwain at anfoesoldeb, annheyrngarwch i'r wladwriaeth, neu unrhyw ddadl grefyddol neu genedlaethol. Canolbwynt y rhan fwyaf o waith Cymreigyddion y Fenni oedd yr eisteddfodau (a alwyd yn gylchwyliau), a ddechreuodd ar raddfa fechan yn 1834. Profodd y digwyddiadau blynyddol hyn yn boblogaidd iawn, ac fe'u mynychwyd gan filoedd o bobl o bob dosbarth, gan gynnwys ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru, academyddion blaenllaw o Lydaw a'r Almaen, a hyd yn oed llysgenhadon o Ewrop a thywysogion o India. Er gwaethaf ei chryfder ymddangosiadol yn y 1830au, yr oedd hadau distryw y Gymdeithas yn ei thwf. Defnyddid mwy a mwy o Saesneg yn y rhan fwyaf o agweddau ar ei gwaith, gan fod y mwyafrif o'i noddwyr, llawer o'r ymwelwyr, a rhai o'i haelodau, yn methu siarad na deall Cymraeg, ac yr oedd hefyd yn anodd dod o hyd i fan cyfarfod parhaol addas ar gyfer y cylchwyliau cynyddol. Ond y broblem fwyaf arwyddocaol oedd y methiant i gwrdd â goblygiadau ariannol. Dibynnai'r Gymdeithas yn drwm ar gefnogaeth hael bonheddwyr lleol a'r diwydiant gwlân lleol (yr hyrwyddwyd ei chynnyrch yn y cylchwyliau), ond fel yr ai'r amser heibio nid oedd yn gallu denu noddwyr sylweddol newydd i gwrdd â chostau cynyddol ei gweithgareddau. O ganlyniad, bu'n rhaid cwtogi ar amlder y cylchwyliau mor gynnar â 1840, a daeth y Gymdeithas i ben yn 1854.

Urdd Gobaith Cymru.

  • Corporate body

Mudiad i blant a phobl ifanc yw Urdd Gobaith Cymru, sydd yn trefnu gwahanol weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922, yn dilyn lansio apêl gan Ifan ab Owen Edwards, y golygydd, (1895-1970) yn Cymru'r Plant. Erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd gan yr Urdd 720 o aelodau, gan gynyddu i dros 5000 erbyn 1927. Trefnwyd yr aelodau lleol yn adrannau ac aelwydydd, a sefydlwyd yr adran gyntaf yn Nhreuddyn, sir y Fflint, yn 1922. Erbyn 1927 yr oedd dros 80 o adrannau. Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed yn awr. Ar y cychwyn gweinyddwyd y cyfan gan Edwards a'i wraig, ac yn 1932 datblygodd yr Urdd yn Gwmni Urdd Gobaith Cymru [Corfforedig] gyda chyhoeddi ei Memorandwm ac Erthyglau Cwmni y flwyddyn honno. Trefnodd yr Urdd ei gwersyll haf gyntaf yn 1928 yn Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Dilynwyd hyn yn 1932 gan sefydlu canolfan breswyl barhaol yn Llangrannog. Ceredigion. Ychwanegwyd ati gan Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid, sir Feirionnydd, yn 1950. O 1932 ymlaen trefnodd yr Urdd gystadlaethau chwaraeon, y cyntaf yn Llanelli. Trefnodd yr Urdd fordeithiau hefyd rhwng 1933 a 1939, y cyntaf yn cludo 500 o aelodau i Sgandinafia. Ers 1925 y mae'r Urdd wedi darlledu Neges Heddwch ac Ewyllys Da oddi wrth Ieuenctid Cymru at Ieuenctid y Byd bob blwyddyn. Datblygiad pwysig a noddwyd gan yr Urdd oedd agor yr Ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Lluest, Aberystwyth, yn 1939, gyda saith disgybl. Erbyn 1945 yr oedd gan yr ysgol 85 o ddisgyblion a phedwar athro. Mae'r Urdd wedi cynhyrchu amryw o gylchgronau a chyfnodolion dros y blynyddoedd. Yn ogystal â Cymru'r Plant, oedd yn dal yn boblogaidd, yr oedd Cymraeg(1954) yn gylchgrawn i ddysgwyr a Cymru (1957) ar gyfer aelodau hŷn. Yn 2003 roedd tri chylchgrawn: Cip, ychwanegiad i Cymru'r Plant, Bore Da a IAW! i ddysgwyr. Efallai mai cyfraniad mwyaf arwyddocaol y mudiad i fywyd yng Nghymru yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghorwen, Meirionnydd, yn 1929. Oddi ar hynny fe'i cynhaliwyd yn flynyddol, mewn lleoliad yn ne a gogledd Cymru bob yn ail, ac mae'n parhau am chwe diwrnod erbyn hyn (2003). Yn ogystal, rhagflaenir yr Eisteddfod Genedlaethol gan eisteddfodau lleol a rhanbarthol i ddewis y cystadleuwyr terfynol. Parhaodd ymlyniad cadarn Ifan ab Owen Edwards â'r Urdd tan ei farwolaeth yn 1970.Yn 1948 ymddeolodd o'i waith fel darlithydd i roi ei amser yn llwyr i'. Ffigwr arall pwysig yn y dyddiau cynnar oedd R. E. Griffith (1911-1975) a ymunodd â'r Urdd fel Trefnydd yn 1932, chael ei ddyrchafu yn Brif Drefnydd yn 1935 a'i apwyntio yn Gyfarwyddwr yn 1959. Ymddeolodd c. 1972. W. J. Williams oedd trysorydd cyntaf y Cwmni yn 1932.

Jones, William Rhys, 1868-1937

  • Person

Ganwyd y Parch. William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn', 1868-1937), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llên-gwerinwr, ym Mron Ceris, Y Fach-wen, Deiniolen, sir Gaernarfon, a mynychodd gapel ac ysgolion yn Dinorwig. Bangor a Lerpwl. Bu'n brentis i deiliwr cyn cofrestru yn Athrofa'r Bedyddwyr yn Llangollen yn 1890. Ar ôl cael ei ordeinio yn 1892, bu'n weinidog yn Horeb, Penrhyn-coch, Ceredigion, 1892-1894, a phriododd Ethel Hilda Rhys Jones (Hughes, gynt,1875-1930)yn 1894; cawsant ddwy ferch. Fe'i penodwyd wedi hynny yn weinidog Jeriwsalem, Penrhiwceibr, Morgannwg, 1894-1912, Seion, Llansanffraid Glynceiriog, sir Ddinbych, 1912-1923, a Calfaria, Tregatwg, Morgannwg,1923-1937. Oherwydd diwydrwydd Jones ym maes crefydd, llên gwerin a llenyddiaeth, awgrymodd ei wraig 'Gwenith Gwyn' (fel yn y gân werin boblogaidd) fel enw barddol iddo ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberpennar yn 1905, pan urddwyd ef yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Bu'n gaplan anrhydeddus Cymdeithas y Meistri Llechi a Chymdeithas y Chwarelwyr, yn aelod o Gymdeithas Llên gwerin Lloegr a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru, a gwasanaethodd hefyd ar ystod eang o bwyllgorau, yn ymwneud ag eglwys y Bedyddwyr, dirwest, ysgolion a cholegau, lles cymdeithasol, llyfrau a llenyddiaeth, ar hyd ei fywyd, yn ogystal â chyfrannu colofnau wythnosol i'r Barry Herald and Vale of Glamorgan Times a'r Barry and District News. Rhwystrwyd 'Gwenith Gwyn' gan afiechyd rhag astudio am radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Eastern University, Philadelphia, UDA, yn 1933 am ei ymchwil ar 'Clasur y Dorth a'r Cwpan'. Claddwyd ef, gyda'i wraig, ym Merthyr Dyfan, y Barri, Morgannwg, yn 1937.

Richards, Brinley.

  • Person

Roedd 'Brinli', Brinley Richards (1904-1981) yn fardd, cyfreithiwr, hanesydd lleol ac archdderwydd Cymru. Ganwyd ar 13 Ebrill 1904 yn Nantyffyllon, Maesteg, Morgannwg, a'i enwi ar ôl y cerddor a'r cyfansoddwr Brinley Richards (1819-1885). Mynychodd Ysgol Ramadeg Maesteg, ac ar ôl blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn brentis at Moses Thomas, Clerc Cyngor Tref Aberafan fel cyfreithiwr. Yn 1930 dychwelodd i Nantyffyllon i sefydlu cwmni o gyfreithwyr, a phriododd Muriel Roberts yn 1941. Roedd yn gynghorwr, yn cynrychioli Nantyffyllon ar Gyngor Maesteg am dros 40 mlynedd fel cynghorydd Annibynnol. Roedd yn aelod gweithgar o Siloh, Capel yr Annibynwyr yn Nantyffyllon, yn ysgrifennydd a thrysorydd, a hefyd yn drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1952. Byddai'n cystadlu'n aml mewn eisteddfodau, ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1926 pan enillodd enwogrwydd am ei gerdd ddychanol. Enillodd y gadair yn Llanrwst yn 1951 ar 'Y Dyffryn'. Bu'n beirniadu gwahanol gystadlaethau mewn amryw eisteddfodau. Chwaraeodd ran yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd fel aelod o'r Orsedd ac ysgrifennydd Pwyllgor Llên Eisteddfod 1932 a 1948. Bu'n Archdderwydd o 1972 i 1975. Cyfrannodd Brinli erthyglau i gyfnodolion o'r 1930au ymlaen, gyda cholofn chwarterol yn Y Geninen,1967-1972, a gwaith ar hanes lleol, llenyddiaeth a chrefydd. Cynhyrchodd dwy gyfrol ar Iolo Morganwg (1877, 1979) a History of the Llynfi Valley (cyhoeddwyd ar ôl ei farw, 1982). Ymhlith ei weithiau pwysig eraill mae Cofiant Trefin (1963), Cerddi'r Dyffryn (1967) a Hamddena (1972). Ymddeolodd o'i bractis yn 1973 a bu farw ar 18 Medi 1981 yn Interlaken, y Swistir.

Phillips, Edgar, Trefin, 1889-1962.

  • Person

Ganwyd Edgar Phillips ('Trefin', 1889-1962) ar 8 Hydref 1889 yn Nhre-fin, sir Benfro, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd Trefin yn un ar ddeg mlwydd oed, a mynychodd Ysgol Sloper Road yn y ddinas, lle cafodd gyfle i ddysgu elfennau sylfaenol y Gymraeg. Pedair blynedd yn ddiweddarach dychwelodd i Dre-fin yn brentis i deiliwr, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel teiliwr yn Nhreletert a Hendy Gwyn ar Daf. Ar yr un pryd meistrolodd gymhlethdodau astrus y gynghanedd. Yn 1912 aeth i weithio fel teiliwr yn Llundain cyn dychwelyd yn fuan i Gaerdydd i weithio fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas, ac wedyn agorodd ei siop ei hun yn Awst 1914. Ymunodd Trefin â'r Royal Garrison Artillery yn 1915, daeth yn fagnelwr, ond cafodd ei glwyfo'n ddrwg iawn a threuliodd gyfnodau hir yn yr ysbyty. Yn 1921 aeth i Goleg Caerllion ar Wysg lle enillodd dystysgrif athro gydag anrhydedd. Bu'n athro Cymraeg yn ysgol gynradd Pengam o 1923 i 1924 pan gafodd ei benodi'n athro Cymraeg yn Ysgol Eilradd Pontllanfraith ac arhosodd yno weddill ei yrfa tan iddo ymddeol yn 1954. Yr oedd yn un o arloeswyr darlledu yn y Gymraeg. Yr oedd Trefin yn cystadlu'n rheolaidd mewn gwahanol eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Yn 1933, ac yntau eisoes wedi ennill 33 cadair a choron, enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n gwasanaethu fel Ceidwad y Cledd yng Ngorsedd y Beirdd o 1947 hyd 1960 pan gafodd ei benodi'n archdderwydd. Cyhoeddodd sawl cyfrol o'i farddoniaeth a bu farw ar 30 Awst 1962. Bu'n briod dair gwaith. Ei drydedd wraig, a briododd yn Hydref 1951, oedd Maxwell Fraser (Dorothy May Phillips (1902-1980)), yr awdures llyfrau taith adnabyddus. Cyhoeddwyd Cofiant Trefin gan Brinley Richards yn 1963.

Results 161 to 180 of 2970