Dangos 58003 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Orwig, Dafydd.

  • Person

Ganwyd Dafydd Orwig Jones (1928-96), addysgwr a gwleidydd, yn Neiniolen, sir Gaernarfon. Ar ôl treulio ei flynyddoedd cynnar yn Kilcavan, Swydd Wicklow, Iwerddon, derbyniodd ei addysg ym Mrynrefail, sir Gaernarfon, ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aeth yn athro Daearyddiaeth mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Ffestiniog a Bethesda, sir Gaernarfon, cyn mynd yn ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor. Yn genedlaetholwr ymroddedig, roedd yn danbaid dros addysg, llyfrau Cymraeg a chyhoeddi, ac ymddeolodd yn y 1970au hwyr er mwyn canolbwyntio ar ei weithgareddau diwylliannol a gwleidyddol. Bu'n ymgyrchydd a threfnydd gweithgar dros Blaid Cymru gydol ei fywyd, a safodd fel ymgeisydd y blaid yng Nghaernarfon yn etholiad cyffredinol 1959. Roedd yn aelod o nifer o bwyllgorau, yn cynnwys Cydbwyllgor Addysg Cymru, Cyngor Llyfrau Cymraeg a Phwyllgor y Deyrnas Unedig o Fiwro Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai. Gwasanaethodd ar Gyngor Sir Gwynedd a bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg y cyngor.

Owain Lleyn, 1786-1867.

  • Person

Yr oedd 'Owain Lleyn', Owen Owen (1786-1867), o Fodnithoedd, Botwnnog, sir Gaernarfon, yn fardd. Ganwyd yn 1786 yn ffermdy Bodnithoedd, yn fab i Gruffudd Owen, ac addysgwyd ef yn Ysgol Botwnnog. Cyfansoddai farddoniaeth i ddifyrru ei ei hun a'i gyfeillion, ond ambell dro byddai'n cystadlu'n llwyddiannus mewn eisteddfodau. Yr oedd hefyd yn beirniadu yn aml mewn eisteddfodau lleol. Priododd Dorothy, merch David Evans, Nantlle, a chawsant wyth o blant, yn cynnwys David Evan Owen a John Owen, pob un wedi'i fagu ym Modnithoedd. Bu farw Owain Lleyn ar 21 Awst 1867, yn 81 mlwydd oed. Yn 1909 cyhoeddwyd blodeugerdd o'i waith, Gwaith Barddonol Owain Lleyn (Pwllheli,1909), dan olygiad Myrddin Fardd.

Owain, O. Llew (Owain Llewelyn), 1877-1956.

  • Person

Yr oedd Owain Llewelyn Owain (1878-1956), o Gaernarfon, yn newyddiadurwr ac awdur. Bu'n gweithio yn y chwareli lleol am gyfnod cyn cychwyn ar ei yrfa gyda Y Genedl Gymreig fel gohebydd i ddechrau, ac wedyn fel golygydd. Bu hefyd yn athro cerddoriaeth ac yn feirniad eisteddfodol yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon. Cyhoeddodd amryw o gofiannau pwysig yn cynnwys un i T. E. Ellis, 1915, a llyfrau eraill ar fywyd llenyddol Caernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol, Hanes y Ddrama yng Nghymru, 1850-1943, yn 1948.

Owen, Bob, 1885-1962.

  • Person

Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.

Canlyniadau 1941 i 1960 o 58003