Dangos 11925 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Corporate body

Bryn'rodyn (Church : Groeslon, Wales)

  • Corporate body

Codwyd y capel gwreiddiol ym 1789 ar dir fferm Bryn'rodyn ym mhlwyf Llandwrog, Gwynedd. Cychwynwyd ar godi capel newydd ym 1829. Bu'r capel hwn yn sefyll hyd 1867 pan gychwynwyd ar drydydd adeilad ger yr un safle. Agorwyd y trydydd capel ym mis Mehefin 1868 ac ychwanegwyd festri a thŷ'r gweinidog ato ym 1901. Fe'i dymchwelwyd ym 1996 a chynhelir y gwasanaethau bellach yn y festri.

Yn 1838 ffurfiwyd eglwysi Carmel, Bwlan a Bryn'rodyn yn gylchdaith hyd 1857 pan drefnwyd Bryn'rodyn yn daith gyda Phenygroes. Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Clynnog yn Henaduriaeth Arfon.

Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Bwrdd Ffilmiau Cymraeg dan adain Cyngor Celfyddydau Gogledd Cymru o ganlyniad i ysgol breswyl ar Gyfryngau Llenyddol Newydd yng Ngregynog, ger y Trallwng, sir Drefaldwyn, ym mis Gorffennaf 1970. Ei nod oedd annog a hyrwyddo'r gwaith o gynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg, ar adeg pan nad oedd cyfleoedd eraill ar gael i wneuthurwyr ffilmiau Cymraeg eu hiaith, i bob diben. Gweithredai ar y cychwyn dan yr enw Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog, gan newid ei enw dros dro i Bwrdd Ffilmiau'r Gogledd yn 1972, cyn mabwysiadu'r enw Bwrdd Ffilmiau Cymraeg yn fuan wedyn, a bu'n cynhyrchu llawer o ffilmiau yn y Gymraeg cyn cael ei ddiddymu ym mis Medi 1986.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • n 93030027
  • Corporate body
  • 1979-

Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn sefydliad ymchwil sy'n cynnal prosiectau cydweithredol ar hanes, iaith, a llên Cymru, a gwledydd Celtaidd eraill. Roedd Coleg Prifysgol Cymru wedi cydnabod Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ers 1971, sef yr adrannau Cymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Yn 1976, lansiodd Athrawon yr Ysgol apêl er cof am y llenor Syr Thomas Parry-Williams, a fu farw yn 1975, ac i ddathlu’r ysgolheigion ac Athrawon Astudiaethau Celtaidd eraill a ddysgodd yn Aberystwyth, sef (o’r Adran Gymraeg) Timothy Lewis, Thomas Jones, Garfield Hughes, a J.R.F. Piette; ac (o Adran Hanes Cymru) E.A. Lewis, T. Jones-Pierce, David Williams, ac W. Ogwen Williams. Bwriad yr Apêl oedd codi arian er mwyn sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, gyda'i adeilad ei hun a chysylltiad agos gyda'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd yr Apêl yn llwyddiannus, ac agorodd y Ganolfan yn swyddogol yn 1979 yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, gyda'r Athro J.E. Caerwyn Williams fel y Cyfarwyddwr Mygedol gyntaf. Yn 1983 fe wnaeth Coleg Prifysgol Cymru gais llwyddiannus i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion am arian i gyflogi tîm o chwe staff swyddogol yn y Ganolfan, ac yn 1985 apwyntiwyd ei chyfarwyddwr swyddogol cyntaf, Yr Athro R. Geraint Gruffydd. Yn 1988, fe wnaeth y Ganolfan gais llwyddiannus pellach i’r Pwyllgor Grantiau i adeiladu adeilad pwrpasol i gartrefi’r Ganolfan ochr yn ochr ag Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Agorodd yr adeilad newydd yn Aberystwyth, ar bwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn 1993, a chymerodd Yr Athro Geraint H. Jenkins drosodd fel Cyfarwyddwr yn ddiweddarach yr un flwyddyn. Daeth y Geiriadur o dan gyfarwyddiaeth y Ganolfan yn 2007. Ar ôl ymddeoliad Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 2008 apwyntiwyd Yr Athro Dafydd Johnston fel Cyfarwyddwr y Ganolfan tan 2021, pan benododd y Ganolfan ei chyfarwyddwr presennol, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones.

Capel Aberfan (Aberfan, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd Capel Aberfan yn 1876. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth Cwm Cynon a Merthyr). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2002.

Canlyniadau 41 i 60 o 11925