Dangos 38958 canlyniad

Cofnod Awdurdod
Person

Clement, James, Alarch Ogwy, 1862-1943

  • Person

Yr oedd 'Alarch Ogwy', James Clement (1862-1943), o Sgiwen, Castell Nedd, Morgannwg, yn löwr, yn fardd ac yn ddramodydd. Aeth i weithio fel glöwr pan yn 13 mlwydd oed ac ef oedd Cadeirydd cyntaf Cymdeithas Unedig Glofeydd Rhanbarth Gorllewinol Maes glo De Cymru. Roedd yn aelod weithgar yng Ngorffwysfa, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Sgiwen, gan weithredu fel Ysgrifennydd a bu'n flaenor am nifer o flynyddoedd. Roedd hefyd yn aelod o sawl mudiad diwylliannol, yn cynnwys Pwyllgor Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol 1918 a 1932. Roedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd, yn ennill tua phymtheg cadair am ei gyfansoddiadau llenyddol, a bu'n feirniad eisteddfodol. Cyhoeddodd rhai o'i gerddi a'i ddramâu, yn ogystal â dogfennau yn ymwneud â'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw ar 7 Mawrth 1943, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym Mynwent Sgiwen.

Canlyniadau 121 i 140 o 38958