Dangos 57999 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Williams, Griffith, d. 1977.

  • Person

Ganwyd Griffith Williams yn Y Rhondda ond fe'i magwyd ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin. Gweithiodd i'r Western Mail, ymysg nifer o gyhoeddiadau eraill, fel newyddiadurwr a beirniad celf. Er iddo ymddeol yn 1969, bu'n gyfrannwr rheolaidd i dudalennau celf papur newydd wythnosol Plaid Cymru, Welsh Nation, yn y blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Ynghyd â'i waith fel newyddiadurwr, yr oedd hefyd yn ysgrifennu nofelau, dramâu a cherddi. Cyhoeddwyd ei nofel Sands of Speed yn 1973. Priododd ei wraig Marion Eames yn 1955. Bu farw ar 28 Mawrth 1977.

Williams, Ffowc, of Llandudno.

  • Person

Yr oedd Ffowc Williams, o Landudno, sir Gaernarfon, yn brifathro Ysgol Ganol Llandudno, 1933-1954. Derbyniodd radd MA gan Brifysgol Cymru am ei draethawd ymchwil, 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' yn 1929. Bu'n cynnal dosbarthiadau ar y pwnc hwn yn 1942 ac ar Seicoleg yn 1931 a 1938. Yn y 1960au a'r 1970au bu'n gwasanaethu ar Gyd bwyllgor Addysg Cymru a Phwyllgor Cymru'r Cyngor Ysgolion. Yr oedd yn ddarlledwr cyson ar y radio ar sioe banel 'Byd Natur' rhwng 1952 a 1972. Yr oedd yn aelod gweithgar o adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy o Undeb Cymru Fydd yn y 1940au, ac yn aelod o bwyllgor Aelwyd Llandudno o Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd hefyd yn aelod o Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, yn aelod o sawl bwyllgor ar gerddoriaeth eglwysig, a chasglodd deunydd yn ymwneud â gŵyl gerddorol 'Y Gymanfa Fawr', sef Cymanfa Gerddorol Annibynwyr Sir Gaernarfon.

Canlyniadau 161 i 180 o 57999