Showing 2970 results

Authority record

Eglwys Abergeirw (Llanfachreth, Wales)

  • Corporate body

Tŷ o'r enw Brynygath oedd cartref cyntaf yr achos yn Abergeirw, a sefydlwyd yr eglwys yno tua 1790. Adeiladwyd Capel Abergeirw yn [1820]. Cafodd ei adnewyddu yn 1873.

Eglwys Babell (Pont Siôn Norton, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd eglwys Babell, Pont Siôn Norton, ym mis Mawrth 1906.

Cynhelid cyfarfodydd gweddi ac Ysgol Sul ym Mhont Siôn Norton mor gynnar â'r flwyddyn 1886, a hynny dan nawdd eglwys Penuel, Pontypridd. Ond pan gychwynnwyd yr achos yng Nghilfynyddd yn 1887, peidiodd yr Ysgol Sul ym Mhont Siôn Norton am gyfnod. Adeiladwyd capel Bethel, Cilfynydd, yn 1888, ac yn 1904 cododd yr eglwys honno ysgoldy gwerth £500 ym Mhont Siôn Norton.

Yn ystod Diwygiad 1904-1905 arferai rhai o drigolion Cilfynydd fynd i Bont Siôn Norton i gynnal cyfarfodydd gweddi. Ymunodd nifer fawr â'r Ysgol Sul yno, ac anfonodd eglwys Bethel gais i'r Cyfarfod Misol am ganiatâd i sefydlu eglwys yno. Caniatawyd y cais ac awdurdodwyd y Parch. William Lloyd, Bryntirion, a Mri. Robert Jenkins, Cilfynydd, a John Morgan, Gyfeillion, i wneud y gwaith. Cyflwynodd eglwys Bethel yr ysgoldy a adeiladwyd yn 1904 i'r achos, a sefydlwyd eglwys Babell, 8 Mawrth 1906.

Eglwys Bethel (Tanygrisiau, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd Capel Bethel, Tanygrisiau yn 1838. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 36. Erbyn 1840 roedd y nifer wedi codi i 100 ac roedd y capel cyntaf bellach yn rhy fach. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail gapel yn 1840 ac fe'i agorwyd yn 1841. Yn 1864 adeiladwyd trydydd capel mwy o faint, a'r flwyddyn ddilynol adeiladwyd Tŷ'r Capel. Cafwyd ychwaneg o newidiadau i'r capel, sef gosod galeri yn 1870, tŷ newydd i'r Gweinidog yn 1896 ac adeiladu festri yn 1906, a agorwyd yn 1907.

Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr (Water Street, Wales)

  • Corporate body

Pentre bychan rhwng Margam a'r Pîl yw Heol Tre-Dŵr neu Water Street. Cyn i'r capel gael ei godi, byddai'r aelodau wedi mynychu Capel y Pîl, ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, penderfynwyd sefydlu achos lleol yn y pentref. Cynhaliwyd Ysgol Sul i gychwyn yng nghartref un William Hugh ar ddechrau pum degau'r ganrif honno, ac yn fuan wedyn cafwyd yr hawl gan Eglwys y Pîl i godi capel yn y pentref. Caewyd y Capel ym 1994 o ganlyniad i fandaliaeth cynyddol a thân i'r adeilad.

Eglwys Carmel (Llanilar, Wales).

  • Corporate body

Ni wyddys pryd yn union y rhoddwyd yr enw Carmel ar yr Eglwys. Fe'i cofrestrwyd fel 'Llanilar Chapel' yn y llys esgobol yn 1817 ac fel lle o addoliad yn 1852. Ychwanegwyd galeri, stabl ac ysgoldy yn 1851. Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yn Llanilar tua 1798 ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd pedair Ysgol Sul sef Carmel, Pantglas, Cilcwm a'r Dyffryn. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol ar 20-21 Medi 1880 i ddathlu codi'r capel newydd.

Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales)

  • Corporate body

Moreia oedd yr unig Eglwys Fethodistaidd yn nhref Caernarfon tan 1842. Dechreuwyd adeiladu addoldy newydd yn 1841 ac fe agorwyd Eglwys Engedi ar 19 a 20 Mehefin 1842. Erbyn chwedegau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd galw am adeilad mwy oherwydd fod y niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol unwaith yn rhagor. Yn Ionawr 1867 agorwyd Eglwys newydd a gynlluniwyd gan Richard Owen, Lerpwl. Yn 1881 gwariwyd ar atgyweirio'r capel ac i ychwanegu is-ystafelloedd. Yn 1886 codwyd Capel Beulah. Agorwyd ysgol ddyddiol yn y seler o dan y capel ar gyfer tlodion y gymdogaeth, 'Ysgol y Seler', yn fuan wedi agor Eglwys Engedi ac yn 1893 fe'i symudwyd i Ysgol Genhadol Mark Lane. Prynwyd y Tŷ Capel yn 1923 a gwnaethpwyd gwelliannau i'r organ hefyd.

Ar 19 Mai 1996 sefydlwyd y Parchedig Harri Parri yn Weinidog Gofalaeth Eglwysi Caernarfon. Derbyniwyd rhai o aelodau Eglwys Beulah gan Eglwys Engedi wedi iddi gau yn 1997. Er bod yr adeilad mewn cyflwr truenus ni lwyddwyd i sicrhau'r cyllid digonol i fedru gwneud y gwaith angenrheidiol. Penderfynodd yr aelodau na fedrent gwrdd â'r gost enfawr ac i ymuno gyda Eglwys Seilo i wneud un Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg yn y dref o ddechrau Ionawr 1999 ymlaen. Bwriadwyd cynnal oedfa olaf Eglwys Engedi ym mis Rhagfyr 1998 ond penderfynwyd yn erbyn hyn oherwydd cyflwr yr adeilad.

Results 661 to 680 of 2970