Showing 2970 results

Authority record

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr ym Mhenmaen-mawr, sir Gaernarfon, yn 1964. Cafodd ysgol feithrin Gymraeg ei sefydlu yn y pentref yn 1965, ond bu ymgyrch y Pwyllgor i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yn aflwyddiannus. Parhaodd y Pwyllgor gyda'i waith i mewn i'r 1980au, ac yn ddiweddarach cafodd ei adnabod fel Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr.

Y Parch. W. J. Griffiths

Yr oedd y Parch. W. J. Griffith yn weinidog yr Annibynwyr, gyda gofalaethau yn Aberfan a Llanelli.

Y Parch. Huw Wynne Griffith.

Yr oedd y Parch. Huw Wynne Griffith (1915-93) yn weinidog Seilo, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Aberystwyth, am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yn ymwneud ag eciwmeniaeth yng Nghymru. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Ecwmenaidd Cymru, bu'n gadeirydd ac yn ysgrifennydd arni, a hefyd yn ysgrifennydd y Cydbwyllgor ar Gyfamodi.

Results 21 to 40 of 2970