Showing 2970 results

Authority record

Williams, John, 1826-1898.

  • Person

Roedd y Parch. John Williams (1826-1898), Aberystwyth, yn fab i John Williams, masnachwr, a'i wraig Mary (1795-1875). Daeth yn ddirwestwr mawr a sefydlodd 'Band of Hope' yng Nghapel y Tabernacl, Aberystwyth, ym 1852. Daeth yn flaenor yn y capel hwnnw ym 1860 a chafodd ei ordeinio yn weinidog ym 1868. Roedd yn flaenllaw mewn amryw o weithgareddau yn Aberystwyth. Roedd gan John Williams ddwy ferch, yr Athro Mary Williams (?1882-1977) a Jane (neu Jennie) Williams (yn ddiweddarach Ruggles-Gates) (m. 1971), ac un mab, John. Bu farw ar 31 Rhagfyr 1898.

Williams, John Ellis, 1901-1975

  • Person

Dramodydd, nofelydd, ysgrifwr ac awdur straeon byrion a straeon plant oedd John Ellis Williams. Cafodd ei eni ym Mhenmachno, Sir Gaernarfon ar Ebrill 19, 1901. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sir Llanrwst yn 1912 cyn mynd yn athro ym Mhenmachno a Phenmaenrhos. Mynychodd Goleg Normal Bangor rhwng 1919 ag 1921. Bu'n athro ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn gorffen ei yrfa yn brifathro Ysgol Gynradd Glanypwll, Blaenau Ffestiniog. Ymddeolodd yn 1961 gan symud i fyw yn Llanbedr, Meirionnydd ac yna i Gaerwen, Môn. Bu yn y fyddin rhwng 1940 a 1946.

Bu'n golofnydd i'r Herald Cymraeg, 1946-1975, ac i'r South Caernarvon & Merioneth Leader (Yr Arweinydd), 1947-1953. Bu hefyd yn ysgrifennu ysgrifau i'r Darian, Y Faner, Y Brython, Y Ddraig Goch, Y Gloch, Cymru a Cymru'r Plant. Bu'n olygydd Y Rhedegydd yn ystod y blynyddoedd 1950-1951. Ysgrifennodd hefyd nifer o nofelau a gweithiau eraill, yn cynnwys y gyfrol Tri Dramâydd Cyfoes.

Ysgrifennodd nifer fawr o ddramâu, a throsi nifer eraill o'r Saesneg. Ymysg ei ddramâu enwocaf y mae Taith y Pererin, Y Ffon Dafl, Ceidwad y Porth, Y Pwyllgorddyn, Y Llaw Gudd a Porth Ewyn. Bu hefyd yn ysgrifennu dramâu ar gyfer darllediadau radio, yn eu mysg y trosiad 'Dychweledigion', a'r cyfresi, 'Llwybrau Cam' a 'Drwy Ddŵr a Thân'. Yn ogystal ag ennill nifer o gystadlaethau mewn Eisteddfodau ledled Cymru roedd yn feirniad cystadlaethau drama mewn Eisteddfodau a Gwyliau Drama. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd y llun llafar cyntaf yn y Gymraeg yn 1935, Y Chwarelwr. Ef hefyd oedd awdur y ddrama hir Gymraeg gyntaf i ymddangos ar deledu o stiwdio drama deledu Caerdydd, Y Gymwynas Olaf; a'i gyfaddasiad ef oedd y ddrama hir Saesneg gyntaf o'r un stiwdio, Jinny Morgan. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Inc yn fy Ngwaed, yn 1963. Ymddangosodd hefyd ar y teledu a bu'n gadeirydd y rhaglen 'Garddio'.

Priododd ei wraig Cadi yn Medi 1922. Cawsant ddwy ferch, Haf a Men. Yn ystod plentyndod Haf yr ysgrifennwyd y straeon plant Haf a'i Ffrindiau. Roedd yn aelod o'r Seiri Rhyddion yng Nghyfrinfa'r Moelwyn. Yn 1962 cafodd radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ac yna MBE yn rhestr Nadolig Anrhydeddau'r Frenhines yr un flwyddyn. Bu farw ar 7 Ionawr, 1975.

Results 121 to 140 of 2970