Showing 2969 results

Authority record

Jones, Rhiannon Davies

  • n 79073922
  • Person

Yr oedd Rhiannon Davies Jones yn nofelydd hanesyddol. Fe’i ganwyd ar 3 Tachwedd 1921 yn Llanbedr, Sir Feirionydd. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor a bu’n athrawes cyn mynd i ddarlithio yng Ngholeg Caerllion ac wedyn yn y Coleg Normal ym Mangor lle arhosodd tan ei hymddeoliad. Enillodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith - am ei nofel Fy hen lyfr cownt yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 ac am Lleian Llanllŷr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964. Ysgrifennodd ddeg o nofelau hanesyddol. Bu farw ar 22 Hydref 2014.

Roberts, John, 1910-1984

  • n 78039489
  • Person

Yr oedd John Roberts (1910-1984), Llanfwrog, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd. Fe'i ganed yn Nhŷ'r Cae bach, Llanfwrog, Llanfaethlu, sir Fôn. Addysgwyd ef yn ysgol Caergybi a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1931-1937. Bu'n weinidog Carneddi, Bethesda, sir Gaernarfon, [1937]-1944, Capel y Garth, Porthmadog, sir Gaernarfon, 1945-1957, Capel Tegid, Bala, sir Feirionnydd, 1957-1962, a Moriah, Caernarfon, tan ei ymddeoliad yn 1975. Dychwelodd i Lan-yr-Afon. Priododd Jessie, nyrs, yn 1938 a chawsant tair merch. Roedd yn enwog am ei bregethu, a chyfansoddodd farddoniaeth ac emynau (gyda George Peleg Williams). Enillodd dwy gadair am farddoniaeth yn eisteddfod Dyffryn Ogwen, ac am ryddiaith yn 1949 a 1973 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd llawer o'i gerddi cynnar yn y gyfrol Cloch y Bwi (Dinbych, Gwasg Gee, 1958).

Bowen, Zonia

  • n 78011758
  • Person
  • 1926-

Ganwyd Zonia M. Bowen yn Norfolk a'i magu yn Swydd Efrog ac fe ddysgodd Cymraeg wedi iddi symud i Gymru i fyw. Bu'n ffigwr blaenllaw yn hanes sefydlu Merched y Wawr ac yn weithgar fel yr Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf, 1967-1970, golygydd Y Wawr, 1968-1975, ac fel Llywydd Anrhydeddus hyd nes iddi ymddiswyddo yn 1975 yn dilyn dadl rhyngddi hi ac aelodau eraill ynglŷn â lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol y Mudiad.
Sefydlwyd Merched y Wawr yn Y Parc, ger Y Bala, ym mis Mai 1967 yn dilyn anghydfod ynglŷn â'r iaith rhwng Sefydliad y Merched Y Parc a swyddogion sirol y Sefydliad yn Rhagfyr 1966. Er bod aelodau cangen Y Parc yn cynnal eu cyfarfodydd a'u gweithgareddau oll drwy'r Gymraeg, yr oedd disgwyl i holl ddogfennau'r Sefydliad fod yn y Saesneg. Codwyd y mater gan Zonia M. Bowen, Ysgrifennydd y Sefydliad ar y pryd, ond gwrthododd swyddogion sirol y Sefydliad wrando ar ei chwynion. Yn y diwedd, er nad oeddynt wedi bwriadu ar hyn yn wreiddiol, torrodd aelodau Y Parc i ffwrdd o Sefydliad y Merched gan benderfynu parhau i gwrdd bob mis yn annibynnol.
Wedi ychydig fisoedd, awgrymodd Zonia M. Bowen wrth aelodau Y Parc y dylid cychwyn mudiad newydd i ferched Cymru oedd yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg. Y bwriad oedd dechrau'r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ond, wedi i'r wasg adrodd y stori, fe sefydlwyd cangen gyntaf Merched y Wawr yn Y Parc ym mis Mai 1967. O fewn wythnos yr oedd cangen arall wedi'i sefydlu yn Y Ganllwyd, ger Dolgellau, a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ychydig yn ddiweddarach.

Plaid Cymru

  • n 50075658
  • Corporate body
  • 1925-

Ffurfiwyd Plaid Cymru ar 5 Awst 1925 mewn cyfarfod ym Mhwllheli. Ei nod ar y cychwyn oedd hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Erbyn y 1930au yr oedd y blaid yn mabwysiadu agenda gwleidyddol ehangach gyda pholisïau economaidd a chyda'r bwriad o sicrhau newid cyfansoddiadol, a ddisgrifiwyd i gychwyn fel 'statws dominiwn'. Ymladdodd y blaid ei hetholiad gyntaf yn 1929, pan enillodd Lewis Valentine 609 o bleidleisiau yn sir Gaernarfon. Wrth i gefnogaeth i'r Blaid gynyddu, cyflwynwyd mwy o ymgeiswyr a dechreuodd ennill seddi ar gynghorau lleol. Gwynfor Evans oedd AS cyntaf Plaid Cymru, trwy ennill isetholiad Caerfyrddin yn 1966. Yn 1970 ymladdodd y blaid pob sedd yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol, gan ennill dros 175,000 o bleidleisiau. Yn 1974, enillodd y blaid dwy sedd, Caernarfon a Meirionnydd. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2001 yr oedd ganddi bedair sedd. Dioddefodd ymgyrch datganoli y blaid ergyd dirfawr yn dilyn ei threchu yn Refferendwm 1979. Er hynny, agorodd Refferendwm 1997 y ffordd i Gynulliad Cymru. Enillodd Plaid Cymru 17 o'r 60 sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999, i'w gwneud yr ail grŵp fwyaf yn y Cynulliad. Hefyd yn 1999, enillodd Plaid Cymru dwy o'r pum sedd yn yr Etholiadau Ewropeaidd. Trefnir y blaid yn lleol yn ganghennau a phwyllgorau a elwir yn rhanbarthau, sydd yn cyfateb i etholaethau San Steffan neu ffiniau llywodraeth leol, a ffurfir o gynrychiolwyr o'r canghennau. Mae'r strwythur cenedlaethol yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol, y Cyngor Cenedlaethol, a ffurfir o gynrychiolwyr y canghennau a'r rhanbarthau, a Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol, sydd yn rheoli cyllid a gweinyddiaeth y blaid. Cyflogir chwe aelod o staff, yn cynnwys ei phrif weithredwr, yn swyddfa genedlaethol Plaid Cymru yng Nghaerdydd,. Mae wyth swyddfa gyflogedig arall ar hyd a lled Cymru ynghyd â swyddfeydd etholaethol. Llywydd cyntaf Plaid Cymru oedd Lewis Valentine, a olynwyd gan Saunders Lewis, 1926-1939, J.E. Daniel, 1939-1945,Gwynfor Evans,1945-1981, Dafydd Wigley, 1981-1984 a 1991-2000, Dafydd Elis Thomas, 1984-1991, Ieuan Wyn Jones, 2000-2003 a Dafydd Iwan ers 2003. J. E. Jones (1905-1970) oedd yr ysgrifennydd cyffredinol a threfnydd, 1930-1962, ac ymunodd Elwyn Roberts ag ef ar ôl Yr Ail Ryfel Byd. Teitl swyddogol y blaid (ers 1999) yw is Plaid Cymru - The Party of Wales.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

  • n 50032994
  • Person

Cylchgrawn Chwarterol Cymraeg a gyhoeddai weithiau llenyddol o safon uchel oedd Y Llenor, 1922-1955. W. J. Gruffydd oedd golygydd y cylchgrawn ar hyd y cyfnod y cyhoeddwyd ef, ond yn 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd â W. J. Gruffydd. Cyfrannodd Y Llenor yn helaeth i lenyddiaeth ac ysgolheictod Cymraeg y dydd, a bu yn llwyfan i nifer o awduron, beirdd ac ysgolheigion.

Williams, Glanmor

  • n 50015759
  • Person
  • 1920-2005

Glanmor Williams, historian, was born in Dowlais, Glamorgan, 5 May 1920. In 1945 he was appointed lecturer in history at the University of Wales, Swansea, and was Professor of History from 1957 until his retirement in 1982. Glanmor Williams was Chairman of the Ancient Monuments Board (Wales), 1986-1990.

His main field of research has been the Protestant establishment in Wales during the Reformation, and his volume The Welsh Church from Conquest to Reformation was published in 1962 and Welsh Reformation Essays in 1966. He was regarded as 'the chief authority on early modern Wales' and was the general editor of Glamorgan County History. Glanmor Williams was appointed a Fellow of the British Academy in 1986, was presented with a medal of the Honourable Society of Cymmrodorion in 1991, and knighted in 1995. He died 24 February 2005.

Edwards, Emyr

  • n 2002117522
  • Person

Mae Emyr Edwards yn awdur dramâu a dramâu cerdd, ynghyd ag astudiaethau ar y theatr ac ef oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr Cwmni Theatr yr Urdd. Bu’n brif arholwr lefel A Drama gyda CBAC am bum mlynedd ar hugain.

Results 121 to 140 of 2969