Fonds GB 0210 RHYSMWYN - Archif Rhys Mwyn = Rhys Mwyn Archive

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 RHYSMWYN

Teitl

Archif Rhys Mwyn = Rhys Mwyn Archive

Dyddiad(au)

  • 1979-2019 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

4 bocs mawr (0.114 m³) + 1 bocs maint arbennig = 4 large boxes (0.114 m³) + 1 special-sized box

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Hanes archifol

Ffynhonnell

Rhoddwyd gan Rhys Mwyn, Caernarfon, Mawrth 2023 ac Ebrill 2024. = Donated by Rhys Mwyn, Caernarfon, March 2023 and April 2024.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau'r cerddor, archaeolegydd, awdur a darlithydd Rhys Mwyn, sy'n cynnwys:

PAPURAU MAWRTH 2023

BOCS 1
Ffotograffau a sleidiau lliw a du-a-gwyn o'r gantores Gymreig-Gernyweg Gwenno a'r bandiau Cymreig Gogz a Carlotta. Dim dyddiad.
.
Posteri gigiau Anhrefn a grypiau eraill yn ystod y 1980au a'r 1990au, y gigiau'n cynnwys Pesda Roc 1984 a digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith. 1984-1993

Torion o'r wasg a chylchgronau yn ymwneud â'r gyfres deledu S4C Er Mwyn Roc a Rôl, a fu'n dilyn Rhys Mwyn dros gyfnod o flwyddyn wrth iddo drefnu gŵyl roc flynyddol Porthmadog, Miri Madog. 2001

Torion o weisg Cymreig, Gwyddelig ac Ewropeaidd yn ymwneud ag Anhrefn a cherddorion eraill Cymreig. Deunydd gwreiddiol a llungopïau. 1979-2019.

Torion o'r wasg yn cynnwys colofn wythnosol Rhys Mwyn yn Yr Herald Cymraeg, 2005-2008.

BOCS 2
Torion o'r wasg yn cynnwys colofn wythnosol Rhys Mwyn yn Yr Herald Cymraeg, 2009-2018.

BOCS 3
Deunydd yn ymwneud â'r albwm Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers (1995; rhyddhawyd fersiwn wedi'i ail-gymysgu gan gwmnïau recordio V2/Blue Rose yn 1997), gan gynnwys gohebiaeth yn bennaf rhwng Rhys Mwyn/Recordiau Crai a Blue Rose; posteri a delweddau; adroddiadau ac adolygiadau yn y wasg a sylwadau ar yr albwm gan leoliadau cerddoriaeth (e.e. clybiau nos) a siopau recordiau; ffurflenni caniatâd ar gyfer artistiaid; deunydd yn ymwneud â recordio fersiwn gwreiddiol yr albwm (1994-1995); manylion ynghylch gigiau; a chytunebau rhwng Rhys Mwyn/Land of my Mothers a Blue Rose. Gweler hefyd Papurau Ebrill 2024
1994-1998

BOCS 4
'Fanzines' roc amrywiol, yn cynnwys Macher (rhifynnau 2-4), Crud (rhif 5), Y Dyfodol Dyddiol (rhifynnau 1 & 4), Live from the Foxes (rhifyn 2), Amser Siocled (rhifynnau 2-5) a Data Kill (rhifyn 1), yn ogystal â rhifyn o Dom Deryn, cylchgrawn aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantâf. [1980au]

Ffotograffau lliw a du-a-gwyn o Anhrefn ar lwyfannau Cymru, Iwerddon ac Ewrop. 1980au a 1990au.

Gohebiaeth at Rhys Mwyn oddi wrth, ymysg eraill, y gantores Lleuwen Steffan (2018, 2019); y delynores Llio Rhydderch (dim dyddiad); y cerddor David Edwards o'r band Datblygu (2012-2018); cymdeithasau hanes/llenyddol; y cyfryngau; a darllenwyr Yr Herald Cymraeg. Deunydd pellach yn llaw David Edwards a deunydd yn ymwneud â'r band Datblygu; deunydd gan neu'n ymwneud â Llio Rhydderch.
Cardiau penblwydd Rhys Mwyn yn 50 oed. (2012)

Posteri'n hysbysebu digwyddiadau lle bu Rhys Mwyn yn annerch, tywys neu'n perfformio. 2010-2017

Cytundebau rhwng Anhrefn a Recordiau Sain. 1990-1991

Erthyglau Rhys Mwyn yn Y Faner. 1984-1986

Gohebiaeth rhwng Rhys Mwyn a chwmnïau cyhoeddi Y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch. 1991-1992

Torion o'r wasg yn ymwneud â Thaith Popty (taith bandiau pop Cymreig o amgylch ysgolion Cymru) 2003.

Deunydd yn ymwneud ag arddangosfa deithiol o waith yr arlunydd gweledol Jamie Reid. 1991

Copi o'r CMJ New Music Report sy'n cynnwys deunydd ynghylch Anhrefn. 1987.

Deunydd yn ymwneud â'r gryno-ddisg Marching Songs of the Free Wales Army, a gynhyrchwyd gan label recordiau Anhrefn. 2008

Deunydd yn ymwneud â thaith y grŵp Albanaidd Nyah Fearties trwy Gymru, a drefnwyd ac a hyrwyddwyd gan Rhys Mwyn. 1993

PAPURAU EBRILL 2024

BOCS 1 (1 bocs)
Papurau newydd a chylchgronau sy'n cynnwys adolygiadau o'r albwm Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers. 1995-1998 Gweler hefyd Papurau Mawrth 2023 Bocs 3

= Papers of the musician, archaeologist, author and lecturer Rhys Mwyn, comprising:

MARCH 2023 PAPERS

BOX 1
Colour and black-and-white photographs and slides of the Welsh-Cornish singer Gwenno and of the Welsh bands Gogz and Carlotta. No date.

Gig posters of Anhrefn and other bands of the 1980s and 1990s, the gigs including Pesda Roc 1984 and Cymdeithas yr Iaith events. 1984-1993.

Press cuttings and magazines relating to the S4C television series Er Mwyn Roc a Rôl, which followed Rhys Mwyn over the course of a year while he was organising Porthmadog's annual rock festival Miri Madog. 2001

Cuttings from the Welsh, Irish and European press relating to Anhrefn and other Welsh musicians. Originals and photocopies. 1979-2019

Press cuttings comprising Rhys Mwyn's weekly column in Yr Herald Cymraeg newspaper. 2005-2008.

BOX 2
Press cuttings comprising Rhys Mwyn's weekly column in Yr Herald Cymraeg newspaper. 2009-2018

BOX 3
Material relating to the album Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers (1995; remixed version released by record companies V2/Blue Rose in 1997), which includes correspondence primarily between Rhys Mwyn/Crai Records and Blue Rose; posters and images; press reports and reviews and comments on the album by music venues and sales outlets; artist consent forms; gig details; material relating to the original recording of the album (1994-1995); and contracts between Rhys Mwyn/Land of my Mothers and Blue Rose. 1994-1998 See also April 2024 papers

BOX 4
Various rock fanzines, comprising Macher (issues 2-4); Crud (issue 5); Y Dyfodol Dyddiol (issues 1 & 4); Live from the Foxes (issue 2); Amser Siocled (issues 2-5) and Data Kill (issue 1), together with an issue of Dom Deryn, the magazine of Cymdeithas yr Iaith members/supporters at Glantâf Welsh Comprehensive School. [1980s]

Colour and black-and-white photographs of Anhrefn onstage in Wales, Ireland and Europe. 1980s and 1990s

Correspondence addressed to Rhys Mwyn from, amongst others, singer Lleuwen Steffan (2018, 2019), harpist Llio Rhydderch (no date); musician David Edwards of the band Datblygu (2012-2018); historical/literary societies; the media; and readers of Yr Herald Cymraeg. Further material by David Edwards and material relating to the band Datblygu; material by or relating to Llio Rhydderch.
50th birthday cards sent to Rhys Mwyn. 2012

Posters/flyers advertising events at which Rhys Mwyn lectured, tour-guided or performed. 2010-2017

Contracts between Anhrefn and Sain Records. 1990-1991

Articles by Rhys Mwyn published in Y Faner newspaper. 1984-1986

Correspondence between Rhys Mwyn and publishing companies Y Lolfa and Gwasg Carreg Gwalch. 1991-1992

Press cuttings relating to 'Taith Popty' (a tour of Welsh pop bands around Welsh schools). 2003

Material relating to a travelling exhibition by visual artist Jamie Reid. 1991

Copy of the CMJ New Music Report, which includes material relating to Anhrefn. 1987

Material relating to the CD Marching Songs of the Free Wales Army, produced on the Anhrefn record label. 2008

Material relating to a Welsh tour by Scottish band Nyah Fearties, which was organised and promoted by Rhys Mwyn. 1993

APRIL 2024 PAPERS

BOX 1 (1 box)
Newspapers and magazines containing reviews of the album Hen Wlad fy Mamau/Land of my Mothers. 1995-1998 See also March 2023 papers Box 3

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen. = Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Mae'r archif hefyd yn cynnwys eitemau yn yr ieithoedd canlynol: Tsiecaidd, Almaeneg, Ffriseg, Ffrangeg a Basgeg. = The archive also includes items in Czech, German, Frisian, French and Basque.

Cyflwr ac anghenion technegol

Rheolau hawlfraint arferol mewn grym. = Usual copyright laws apply.

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Trosglwyddwyd posteri a chasetiau yn ymwneud â'r archif hon i Adrannau Graffeg a Sgrîn a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle gellir cael mynediad iddynt trwy gais.
Cyfeirnod: 995063603702419.

= Posters and cassette tapes relating to this archive have been transferred to the National Library of Wales's Graphic and Screen and Sound Departments, where they may be accessed on request.
Reference number: 995063603702419.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Lawnsiwyd gyrfa Rhys Mwyn fel lleisydd a chwaraewr gitâr fâs gyda'r band roc/pync Cymraeg Yr Anhrefn, a sefydlwyd ym 1982. Y flwyddyn ganlynol fe gyd-ffurfiodd label recordiau Recordiau Anhrefn gyda'i frawd Siôn Sebon er mwyn hybu cerddoriaeth ei fand newydd a bandiau eraill. Yn ddiweddarach, daeth yn rheolwr y label recordiau Crai, dan yr hwn y cynhyrchwyd yr albwm electronig Hen Wlad Fy Mamau (1995). Bu'n asiant i sawl cerddor a band Cymraeg a pharha i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg. Yn gyn-aelod o staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys, mae'n awdur sawl llyfr hanesyddol, gan gynnwys Cam i'r Gorffennol: Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) a Real Gwynedd (Seren Books, 2021), yn ogystal â hunangofiant, Cam o'r Tywyllwch (Y Lolfa, 2006), a bu am sawl blwyddyn yn ysgrifennu colofn hanesyddol/archaeolegol i bapur wythnosol Yr Herald Cymraeg. Bellach, mae hefyd yn gyflwynydd radio a theledu, yn ymgynghorwr treftadaeth, yn arweinydd teithiau Bathodyn Glas ac yn ddarlithydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a chyrsiau Addysg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor. (https://www.ylolfa.com/awduron/635/rhys-mwyn; https://www.serenbooks.com/seren-author/rhys-mwyn/). = Rhys Mwyn launched his musical career as vocalist and bassist of Welsh punk rock band Yr Anhrefn, formed in 1982. In 1983, he and his brother Siôn Sebon co-founded the record label Recordiau Anhrefn in order to promote both Anhrefn's music and that of other bands. He later managed Crai record label, which produced the electronic album Hen Wlad Fy Mamau (1995). He acted as agent to several Welsh musicians and bands and continues to promote Welsh music. Having formerly worked for the Clwyd Powys Archaeological Trust, he is the author of several historical interest books, which include Cam i'r Gorffennol: Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) and Real Gwynedd (Seren Books, 2021) as well as an autobiography titled Cam o'r Tywyllwch (Y Lolfa, 2006), and for a number of years published a weekly newspaper column on historical/archaeological subject matters in Yr Herald Cymraeg. He has since worked as a radio and television presenter, a heritage adviser, a Blue Badge tour guide and a lecturer with the Workers' Educational Association and Adult Learning at Bangor University.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Alma system control number

994609105502419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, Chwefror 2025, gan ddefnyddio deunydd o ffynonellau uniongyrchol a ffwythiannau chwilio arlein.

= Description compiled by Bethan Ifan, February 2025, utilising primary source materal and online search engines.

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig