Ffeil / File AA/1 - Gohebiaeth rhwng Mary a Robert (Silyn) Roberts = Correspondence between Mary and Robert (Silyn) Roberts

Identity area

Reference code

AA/1

Title

Gohebiaeth rhwng Mary a Robert (Silyn) Roberts = Correspondence between Mary and Robert (Silyn) Roberts

Date(s)

  • 1897-1930 (Creation)

Level of description

Ffeil / File

Extent and medium

1 amlen / envelope

Context area

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Llythyr, 22 Medi 1897, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Mary Parry (wedyn Mary Silyn Roberts), Balmoral House, Neuadd Alexandra, Aberystwyth, lle 'roedd Mary (yn ugain oed) yn lletya tra'n darlithio ym Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyfeiria at ei bywyd a'i gwaith yn Aberystwyth; at ei hewyrth, y Parchedig John Williams, Corwen [arnod yn llaw Mary Silyn Roberts: 'Rev. J. Wms Corwen'], a'i wraig, a fu'n gwmni iddi hyd Amwythig; at Tom, ei chefnder; ac yn gresynu nad oes cyfle ganddi ar hyn o bryd i gyfarfod â Silyn, ac y byddai'n well ganddi na fyddai ef yn dod i Aberystwyth i'w gweld. = Letter, 22 September 1897, to Robert (Silyn) Roberts from Mary Parry (afterwards Mary Silyn Roberts), Balmoral House, Alexandra Hall, Aberystwyth, where Mary (aged twenty) was staying while lecturing at Aberystwyth University. References to her life and work in Aberystwyth; to her uncle, the Reverend John Williams, Corwen [annotation in Mary Silyn Roberts' hand: 'Rev. J. Wms Corwen'], and his wife, who accompanied her on her journey as far as Shrewsbury; to her cousin Tom; and regrets that she has no opportunity to meet up with Silyn for a while, and that it would be best if he didn't visit her at Aberystwyth.

Llythyr, 14 Mai 1899, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Mary Parry (wedyn Mary Silyn Roberts), Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn cyfeirio at nodiadau llenyddol a fenthycwyd iddi gan Silyn, at iechyd Silyn, ac at ei ddewisiadau gyrfäol yn ôl capeli a cholegau; yn poeni am iechyd meddwl un 'R. C. Allen'; cyfeiriad at fynychu darlith dan ofal yr Athro Syr Edward Anwyl (1866-1914) ac at ei gwaith academaidd; ei dymuniad i ddysgu chwarae tennis; cyfeiriad at ei brodyr, Evan a Henry, yn arbennig beth a ddylai cam nesaf Evan fod o ran astudiaeth a gyrfa. Arnodiad yn llaw Mary Silyn Roberts. = Letter, 14 May 1899, to Robert (Silyn) Roberts from Mary Parry (afterwards Mary Silyn Roberts), University College of Wales, Aberystwyth. References to literary notes lent her by Silyn, to Silyn's health, and to his career choices in terms of chapels and colleges; her concern for the mental health of one 'R. C. Allen'; her attendance at a lecture given by Professor Sir Edward Anwyl (1866-1914), and her academic work; her wish to learn to play tennis; mentions her brothers, Evan and Henry, with particular reference to Evan's study and career options. Annotation in the hand of Mary Silyn Roberts.

Dau gopi o lythyr, 15 Chwefror 1925, a ysgrifennwyd gan Robert (Silyn) Roberts at ei wraig Mary Silyn Roberts. Cyfeirir at gynhadledd [?Cymdeithas Addysg y Gweithwyr] y bu Silyn yn rhan ohoni ym Mae Colwyn, a sut y ffurfiwyd pwyllgor yno i greu cangen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas yn rhanbarth annibynnol, gyda Silyn yn ysgrifennydd iddo. Awgryma geiriau clo Silyn nad oedd Mary wedi bod yn dda yn ddiweddar. Ceir mân wahaniaethau rhwng y ddau gopi, ond mae hanfod y llythyr yn aros yr un fath. Gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Two copies of a letter, 15 February 1925, written by Robert (Silyn) Roberts to his wife Mary Silyn Roberts, referencing a [?Workers' Educational Association] conference in which he took part, and the formation there of a committee to establish the North Wales branch of the WEA as an independent district, with Silyn as its secretary. Silyn's closing words suggest that Mary had recently been unwell. There are some minor differences between the two copies, but the essence of their contents remains the same. See also Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Nodiadau ynghylch gwaith gweinyddol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ysgrifennwyd, 1 Gorffennaf 1930, gan Mary Silyn Roberts at ei gŵr Robert (Silyn) Roberts ar gyfer ei ddychweliad o daith i Rwsia, tra 'roedd hithau ar fîn cychwyn ar daith i Ddenmarc, ynghyd â chyfeiriadau Mary Silyn Roberts tra byddai'n aros yn Nenmarc. Bu farw Silyn ar y 15fed o Awst y flwyddyn honno. Gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Notes regarding administrative work relating to the Workers' Educational Association (WEA) written, 1 July 1930, by Mary Silyn Roberts to her husband Robert (Silyn) Roberts, to be read on his return from a visit to Russia, while she was about to depart for a visit to Denmark, together with a note of Mary Silyn Roberts' addresses during her stay in Denmark. Silyn died on 15th August of that year. See also Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Trefnwyd yn ôl dyddiad. = Arranged chronologically.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Am Evan Parry, gweler hefyd Llythyr at Mary Silyn Roberts oddi wrth M. Samuel a Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Evan Parry = For Evan Parry, see also Letter to Mary Silyn Roberts from M. Samuel and Letter to Robert (Silyn) Roberts from Evan Parry.

Related descriptions

Notes area

Note

Nodyn iaith: Peth Saesneg. = Language note: Some English.

Note

Daeth yr ysgolhaig Celtig Syr Edward Anwyl (1866-1914) yn Athro Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1892, ac, yn ddiweddarach, yn Athro Ieitheg Gymharol yno yn ogystal. = The Celtic scholar Sir Edward Anwyl (1866-1914) became Professor of Welsh at the University College of Wales, Aberystwyth in 1892, later also becoming Professor of Comparative Philology there.

Note

Bu Evan Parry, brawd Mary Silyn Roberts, yn feddyg yn Llundain cyn ymfudo i barhau â'i yrfa yn Brisbane, Awstralia, lle bu farw yn naw ar hugain oed. = Mary Silyn Roberts' brother Evan Parry was a doctor in London prior to emigrating to continue his career in Brisbane, Australia, where he died aged twenty-nine years.

Note

Wedi cyfnod o astudiaeth yn Llundain, cymhwysodd Henry Parry, brawd Mary Silyn Roberts, fel peiriannydd teliffon. = Following a period of study in London, Mary Silyn Roberts' brother Henry qualified as a telephone engineer.

Alternative identifier(s)

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: AA/1 (Box 1)