Ffeil / File AC/6 - Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts ac R. Williams Parry = Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and R. Williams Parry

Identity area

Reference code

AC/6

Title

Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts ac R. Williams Parry = Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and R. Williams Parry

Date(s)

  • 1913-1930 (Creation)

Level of description

Ffeil / File

Extent and medium

1 amlen / envelope

Context area

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Gohebiaeth, 1913-1928, yn bennaf at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth y bardd a'r darlithydd prifysgol R. Williams Parry, y llythyrau cynharaf wedi'u hanfon tra 'roedd Williams Parry yn athro yn ysgol Cefnddwysarn ger y Bala a'r rhan helaeth o'r ohebiaeth ddilynol yn olrhain ei hynt yn y fyddin yn ystod Rhyfel 1914-18. 'Roedd Williams Parry ar y cychwyn yn hynod anhapus yn ei yrfa milwrol ac mae'n erfyn ar Silyn, yn sgîl ei swydd fel ysgrifennydd Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, i'w symud i gatrawd sy'n cynnwys milwyr Cymreig (ceir tystiolaeth o ymgais Silyn i gyflawni ei ddymuniad). Cafodd Williams Parry air o'r diwedd (llythyr dyddiedig 24 Ebrill 1917) ei fod am gael ei drosglwyddo i'r '1st Welsh (Caernarvon) Battery Royal Garrison Artillery'. Serch annedwyddwch Williams Parry, ceir enghreifftiau yn ei lythyrau o farddoniaeth a ysgrifennodd ar faes y gâd, sy'n cynnwys ei englynion coffa i'w gyfaill Robert Pritchard Evans (1884-1917) (llythyr dyddiedig 26 Ebrill 1917) a'i soned 'Mater Mea' (llythyr dyddiedig 3 Rhagfyr 1917). Yn ei lythyr dyddiedig 11 Tachwedd 1918, mae Williams Parry yn datgan ei orfoledd ar derfyn y rhyfel. Arwyddir sawl un o'r llythyrau oddi wrth Williams Parry â'r enw 'Llion', sef y ffugenw a ddefnyddiodd ar gyfer ei ymgais lwyddiannus i gipio cadair Eisteddfod Genedlaethol 1910. Arnodir dau lythyr yn llaw Mary Silyn Roberts.
Ceir hefyd y canlynol:
Llythyr, 1 Mai 1915, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth W. J. Williams (1878-1952), sy'n ymddangos fel pe bai'n adrodd hanes dyfarnu cymhwyster R. Williams Parry ac eraill ar gyfer gwaith rhyfel.
Copi o lythyr, 10 Ionawr 1917, oddi wrth Robert (Silyn) Roberts at Capten Hamlet Roberts, 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol, mewn ymgais i drosglwyddo R. Williams Parry i gatrawd Gymreig.
Llythyrau, Ebrill 1917, rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r bardd Eingl-Gymraeg, llenor ac addysgwr Arthur Glyn Prys-Jones (1888-1987) ynghylch cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Eingl-Gymreig; yn un llythyr, ceir barn Silyn ar feirdd Cymreig cyfoes.
Llythyr, 3 Gorffennaf 1918, oddi wrth 'Kitty' yn Llundain, yn holi am gyhoeddiadau'n ymwneud ag R. Williams Parry ac â'r addysgwraig Lydewig Marie Souvestre (1830-1905).
Cerdyn post, 16 Mai 1930, wedi'i gyfeirio at Robert (Silyn) Roberts ond sydd â rhan helaeth ohono wedi'i dorri'i ffwrdd.

Ynghyd ag atodiad teipysgrif: 'Datganiad gan Angharad Tomos [un o roddwyr y casgliad] Mai 2022', sy'n cynnig sylwadau ynghylch llythyrau R. Williams Parry at Robert (Silyn) Roberts.

= Correspondence, 1913-1928, largely to Robert (Silyn) Roberts from the poet and university lecturer R. Williams Parry, the earliest letters sent whilst Williams Parry was teaching at Cefnddwysarn school, near Bala, with subsequent correspondence following, in the main, his military career during the First World War. Williams Parry's wartime experience was initially extremely unhappy and he begs Silyn, as secretary of the Welsh Appointments Board of the University of Wales, to transfer him to a regiment which includes Welsh soldiers (there is evidence of Silyn's attempts to fulfil his wishes). Williams Parry would finally receive word (letter dated 24 April 1917) of his transfer to the 1st Welsh (Caernarvon) Battery Royal Garrison Artillery. However, despite his melancholy, the war letters contain poetry written at the time by Williams Parry, which includes his commemorative 'englynion' (strict-metre verses) to his friend Robert Pritchard Evans (1884-1917) (letter dated 26 April 1917) and his sonnet 'Mater Mea' (letter dated 3 December 1917). Williams Parry expresses his joy at the end of the war in a letter dated 11 November 1918. Many of Williams Parry's letters are signed 'Llion', which was the pseudonym he used in his successful attempt to win the bardic chair at the 1910 National Eisteddfod. Two letters are annotated in the hand of Mary Silyn Roberts.
The following are also included:
Letter, 1 May 1915, to Robert (Silyn) Roberts from W. J. Williams (1878-1952), which appears to relate an account of how R. Williams Parry and others were assessed for war work.
Copy of a letter, 10 January 1917, from Robert (Silyn) Roberts to Captain Hamlet Roberts of the 6th Battalion of Royal Welsh Fusiliers in an attempt to obtain R. Williams Parry's transfer to a Welsh regiment.
Letters, April 1917, between Robert (Silyn) Roberts and the Anglo-Welsh poet, author and educator Arthur Glyn Prys-Jones (1888-1987) regarding the publication of a volume of Anglo-Welsh poetry; in one letter, Silyn expresses his opinion of contemporary Welsh poets.
Letter, 3 July 1918, from 'Kitty' in London, enquiring about publications relating to R. Williams Parry and to the Breton educator Marie Souvestre (1830-1905).
Postcard, 16 May 1930, addressed to Robert (Silyn) Roberts, a substantial part of which has been torn away.

Together with a typescript supplement comprising a statement made May 2022 by Angharad Tomos, one of the donors of the collection, containing observations on R. Williams' Parry's letters to Robert (Silyn) Roberts.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Trefnwyd deunydd dyddiedig yn ôl dyddiad. Cedwir deunydd annyddiedig mewn amlen wedi'i nodi. = Dated material arranged chronologically. Undated material kept in marked envelope.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • English
  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Gweler, er enghraifft, bbc.co.uk/cymrufyw/57994906; dyffrynnantlle.360.cymru/2021/canfod-llythyrau-coll-williams-parry/; https://nation.cymru/culture/hidden-wartime-letters-of-one-of-wales-most-notable-20th-century-poets-discovered-under-false-name/
= See, for example, bbc.co.uk/cymrufyw/57994906; dyffrynnantlle.360.cymru/2021/canfod-llythyrau-coll-williams-parry/; https://nation.cymru/culture/hidden-wartime-letters-of-one-of-wales-most-notable-20th-century-poets-discovered-under-false-name/

Am R. Williams Parry, gweler hefyd, er enghraifft, Saunders Lewis MSS; NLW MS 22329C; Barddoniaeth amrywiol; Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams; a Papurau W. J. Gruffydd yn LlGC. = For R. Williams Parry, see also, for example, Saunders Lewis MSS; NLW MS 22329C; Barddoniaeth amrywiol; Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams; and Papurau W. J. Gruffydd at NLW.

Gweler hefyd Llythyr oddi wrth R. Williams Parry at Y Dinesydd Cymreig, a chyfeiriad at R. Williams Parry yn Llythyrau at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth W. J. Gruffydd = See also Letter from R. Williams Parry to Y Dinesydd Cymreig, and a reference to R. Williams Parry in Letters to Robert (Silyn) Roberts from W. J. Gruffydd

Related descriptions

Notes area

Note

Ganed y bardd a'r darlithydd prifysgol Robert Williams Parry yn Nhal-y-sarn, sir Gaernarfon, yn fab i Robert a Jane Parry, a'i addysgu yng Ngholegau Prifysgol Cymru Aberystwyth a Bangor. Bu'n athro ysgol mewn sawl man, gan gynnwys Brynrefail, Cefnddwysarn, y Barri a Chaerdydd. Gwasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf o Dachwedd 1916 hyd Rhagfyr 1918. Ym 1922 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor, ac yno y bu hyd ei ymddeoliad ym 1944. Ystyrir R. Williams Parry yn un o feirdd disgleiriaf Cymru'r ugeinfed ganrif. Ennillodd glod ac adnabyddiaeth pan gipiodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 gyda'i awdl 'Yr Haf' (dan y ffugenw 'Llion'). Cyhoeddodd ddau gasgliad o gerddi, sef Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cherddi'r Gaeaf (1952). Rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yw 'Y Llwynog', 'Eifionydd' ac 'Englynion Coffa Hedd Wyn'. (Am Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), gweler hefyd dan y pennawd Cerddi'r Bugail o fewn yr archif hon.)
= The poet and university lecturer Robert Williams Parry was born in Tal-y-sarn, Caernarvonshire, the son of Robert and Jane Parry, and was educated at University Colleges of Wales Aberystwyth and Bangor. He taught at several schools, including Brynrefail, Cefnddwysarn, Barry and Cardiff. He served in the First World War from November 1916 until December 1918. In 1922, he was appointed lecturer at the University College of Wales Bangor, where he remained until his retirement in 1944. R. Williams Parry is considered one of the outstanding Welsh poets of the twentieth century. He won widespread acclaim and recognition on winning the Chair at the 1910 National Eisteddfod with his lengthy strict-metre poem' Yr Haf' ('Summer') under the pseudonym 'Llion'. He published two volumes of poetry: Yr Haf a Cherddi Eraill (1924) and Cerddi'r Gaeaf (1952). Some of his most well-known poems include 'Y Llwynog' ('The Fox'), 'Eifionydd' and 'Englynion Coffa Hedd Wyn' ('Commemorative Englynion [strict-metre verses] to Hedd Wyn'. (For Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), see also under the heading Cerddi'r Bugail within this archive).

Note

Nodyn iaith: Ambell ymadrodd yn Ffrangeg. = Language note: A few phrases in French.

Alternative identifier(s)

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related people and organizations

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: AC/6 (Box 1)