Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Hughes, D. G. Lloyd.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Ganwyd a magwyd Dafydd Glyn Hughes (g. 1921) ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Mynychodd Ddosbarth y Babanod ac Ysgol Elfennol Troed-yr-allt ac Ysgol y Sir, Pwllheli. Treuliodd ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil, yn Llundain i gychwyn, ond hefyd mewn gwahanol ardaloedd ar draws Cymru a Lloegr. Bu'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, 1960-1966, a symudodd i Ben-bre, sir Gaerfyrddin, yn 1966, ac yna i New Inn, Pencader, Dyfed, ym 1985. Cynhyrchodd lawer o lyfrau ac erthyglau ar hanes lleol Pwllheli, ardal Llanelli a New Inn, ysgrifennodd ar gyfer Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Y Casglwr, Llanw Llyn, Llafar Gwlad, Barn, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal รข chyfrannu erthyglau i gyfrolau Cyfres y Cymoedd ar Gwm Aman (Llandysul, 1996) a Merthyr a Thaf (Llandysul, 2001).