Print preview Close

Showing 691 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru: cyfansoddiadau a beirniadaethau file Welsh
Print preview View:

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); stori ddeng munud addas i'r radio ar y thema celwydd golau; erthyglau ar waith unrhyw fardd neu lenor o fro'r eisteddfod; portread o wleidydd; casgliad o straaeon yn ymwneud â chwarae triciau (cystadleuaeth i'r rhai sydd wedi cael eu geni yn y Wladfa ac yn dal i fyw yno); pigion o ddyddiadur mis person ifanc yng Nghymru Fu neu yng Nghymru Fydd; casgliad o hanesion unrhyw fro ar un thema a llawlyfr i ddarpar rieni neu lawlyfr priodas.

Rhyddiaith,

Straeon byrion wedi eu selio ar ddigwyddiad hanesyddol; ysgrif : portead o unrhyw berfformiwr o dras Cymreig; pedair sgwrs ar batrwm 'Munud i feddwl'; dyddiadur dychmygol dros wythnos yr eisteddfod; stori fer dafodieithol; nofel fer neu gyfrol o straeon sy'n addas ar gyfer bechgyn yn eu harddegau a chasgliad o groeseiriau.

Rhyddiaith,

Straeon byrion (agored); casgliad o 10 stori fer ar ffurf llên meicro; erthygl ar naill ai: oblygiadau datblygiadau diweddar ym myd geneteg, neu: cynhesu byd eang; deuddeg llythyr rhwng dau/dwy yn ymateb i sefyllfa neu ddigwyddiad a chasgliad gwreiddiol o storïau neu sgyrsiau cyfoes i'w cyflwyno mewn gwasanaeth boreol ysgol uwchradd.

Rhyddiaith,

Cyfrol o ryddiaith gyda chysylltiad amaethyddol (y fedal ryddiaith).stori fer neu stori fer dafodieithol: hunanddewisiad; cyfrol o storïau gwreiddiol amser gwely i blant; erthygl hyd at 5,000 o eiriau: 'Mab Darogan'; dyddiadur wythnos newyddiadurwr/wraig; a chasgliad o ddywediadau ffraeth.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Gollwng'; casgliad o lên meicro: 'Gwastraff'; ysgrif ar unrhyw agwedd o fyd chwaraeon; dyddiadur dynes ddwâd; pennod gyntaf cofiant/bywgraffiad; erthygl grafog; gohebiaeth rhwng dau berson o ddwy genhedlaeth; cardiau nabod (set o 30) ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn null cardiau Top Trumps a Dr Who; a chasgliad o sloganau slic.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Yfory'; casgliad o ddeg darn ar ffurf llên micro: 'Gafael'; ysgrrif yn ymwneud â byd natur; pennod gyntaf llyfr ar hanes unrhyw glwb neu gymdeithas; erthygl ar gyfer papur bro ar y thema: 'Dilyn afon' neu 'Taith trên'; portread (agored); stori ffantasi i bobol ifainc; erthygl: paratoi cinio i dri chymeriad hanesyddol neu lenyddol ...; erthygl am un o gewri chwaraeon Cymru a fyddai'n addas i'w chyhoeddi mewn cylchgrawn fel Barn neu Taliesin; cyfrol bwrdd coffi: 'Bro'; a a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Fy mhlentyndod - hyd at 15 oed'.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Sbectol'; ysgrif: 'Canrif'; portread o gynefin neu fro; erthygl olygyddol mewn papur bro; erthygl neu erthyglau papur bro; dyddiadur; rhyddiaith greadigol ar unrhyw ffurf: 'Coch'; a chyflwyniad cryno o hanes o leiaf chwe addoldy Cymreig y Dyffryn a'r Andes ar gyfer ymwelwyr (cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin).

Rhyddiaith (stori fer-llyfr o chwedlau),

Straeon byrion; tair erthygl i gylchgrawn neu bapur wythnosol; traethodau : 'Yr athrawiaeth Gristnogol am ddyn; traethawd : 'Yr ymateb i adroddiad Syr David Hughes Parry ar statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg'; traethawd : 'Hanes datblygiad Addysg i Oedolion yn unrhyw ardal yng Nghymru y ganrif hon'; a llyfr o chwedlau traddodiadol Cymreig wedi'u trefn ar gyfer plant o dan 11 oed.

Results 181 to 200 of 691