Print preview Close

Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Welsh
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau rhyddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi'i lleoli ym myd diwydiant; blog dros gyfnod o fis; casgliad o 10 darn ar ffurf llên meicro: 'Ystafelloedd aros'; ysgrif bortread; erthygl newyddiadurol ... ar bwnc llosg; llythyr dychmygol at wleidydd; stori arswyd wedi'i hanelu at bobl ifanc; casgliad o hyd at 30 o anecdotau difyr o'r byd chwaraeon; a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Byw yn y Wladfa heddiw'.

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau rhyddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer: 'Priodas'; ysgrif: 'Ymweld â man arbennig'; blog teithio (gwir neu ddychmygol); tair erthygl ar gyfer papur bro; stori feiddgar; darn newyddiadurol ... ym myd chwaraeon (gwir neu ddychmygol); pymtheg o bytiau crafog ar ffurf colofn Madog Lygadog yn Y Cymro; ymateb i dri o ffotograffau Geoff Charles; ymdriniaeth â 50 o eiriau tafodieithol; casgliad o hyd at 100 o groeseiriau; a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Y pedwar tymor yn y Wladfa'.

Rhyddiaith,

Cyfrolau o erthyglau heb eu cyhoeddi o'r blaen (y fedal ryddiaith); straeon byrion; casgliad o straeon nodweddiadol o hiwmor y Cymro; pedair stori (cyfres) addas i blant o 13 oed i 16 oed sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith; stori ysgol i blant o 9 oed i 12 oed; traethawd: 'Dylanwad diwydiannau newydd ar fywyd cymdeithasol unrhyw ardal yng Nghymru er 1930'; 'Disgrifiad manwl o unrhyw dri o hen chwaraeon Cymru'; a chyfieithiadau o ddetholiad o waith Alun Lewis i'r Gymraeg.

Rhyddiaith,

Nofel fer (y fedal ryddiaith); tair stori fer yn darlunio ymateb tri pherson â chysylltiad agos ag ysgariad; storïau gwyddonias; ysgrifau golygyddol ar gyfer unrhyw bapur bro; dyddiaduron, dros gyfnod byr, person di-waith a chyfrolau : detholiad o nodiadau golygyddol Jennie Eirian Davies.

Rhyddiaith,

Nofel hir heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yn yr Ariannin (Fy nghapel i); tair ysgrif (thema 'Hau a medi'); pedair erthygl addas i gylchgrawn fel Llafar Gwlad; dyddiadur : 'Newid aelwyd'; portread newyddiadurol cyfoes a dwy bennod o nofel wyddonias i rai yn eu harddegau.

Rhyddiaith,

Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); straeon byrion : 'Dim ond heddiw ...' ; stori fer mewn tafodiaith; sgwrs neu ddarlith fer ysgafn; storïau ar gyfer gwasanaeth boreol mewn ysgol gynradd; llyfryn ym mhatrwm cyfres Llafar Gwlad ar Ffynhonnau Canolbarth Cymru; pigion o ddyddiadur mis (i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin) a nofel i blant 9-12 oed â chwaraeon yn gefndir iddi.

Rhyddiaith,

Cofiannau i gymeriad dychmygol (y fedal ryddiaith); cyfres o dair stori fer; tair ysgrif ysgafn; trafodaeth ar syniadau diwinyddol yr Athro J. R. Jones; traethawd ar ddylanwadau gwyddoniaeth ar fywyd cefn gwlad er y rhyfel diwethaf a chasgliadau o tua 30 o anerchiadau crefyddol byrion ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Results 681 to 700 of 2917