Showing 691 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file
Print preview View:

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y frwydr'; pryddestau : 'Wynebau'; cywyddau moliant i Faldwyn; englynion : 'Y ffynnon'; englynion ysgafn : 'Deryn'; sonedau : 'Mae gen i freuddwyd'; telynegion : 'Y bwrdd'; hir a thoddeidiau : 'Dolwar Fach'; cerddi yn y wers rydd : 'Muriau'; cyfres o wyth o limrigau gwreiddiol ar bynciau cyfoes; deg o epigramau ar ffurf cwpled; carolau plygain a darn i gôr adrodd.

Drama a dysgwyr,

Drama hir; dramâu byrion; gwaith dramatig addas i'w gyflwyno gan blant 8-10 oed; cyflwyniad dramatig i ddysgywr; sgriptiau sylfaenol i ffilm chwarter awr ar gyfer plant; drama fer wedi'i throsi o'r Ffrangeg neu'r Sbaeneg; gwaith arbrofol i'w gyflwyno yn Theatr Fach y Maes; dyddiaduron byr o waith cymeriad amlwg yn hanes Cymru a deuddeg erthygl amrywiol ar gyfer dysgwyr.

Dysgwyr,

Dyddiaduron wythnos; sgyrsiau dros y ffens; llythyrau cwyno; cerddi: 'Yfory'; straeon arswyd; cywaith grŵp (y profiad o ddysgu Cymraeg); gêm fwrdd ar gyfer teuluoedd sy'n dysgu Cymraeg; paratoi cardiau fflach; a pharatoi tâp sain ar gyfer gwrando arno yn y câr.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniannau lleisiol neu offerynnol o un alaw neu gainc werin Gymraeg draddodiadol; emyn-donau; unawd piano neu delyn; darn byr i organ bib; gosodiad o salm i gôr merched; carol Nadolig; gosodiad Cymraeg o'r Magnificat a'r Nunc Dimitis ar gyfer côr cymysg SATB; symudiad byr (heb fod yn hwy na 7 munud) ar gyfer cerddorfa lawn; un symudiad ar gyfer ensemble offerynnol; Tlws y Cerddor; ffolio o waith amrywiol i gynnwys dim mwy na 5 o ddarnau (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol dan 19 oed); a chyfansoddi cân (Adran Dinistr).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cerdd dant: dau osodiad cyferbyniol; emyn-dôn i eiriau'r Parchedig John Pinion Jones; amrywiadau ar unrhyw garol plygain allan o lyfr Geraint Vaughan Jones ar gyfer y delyn; ensemble offerynnol, addas i'w berfformio yn yr arholiad TGAU; trefniant modern o unrhyw gân werin ar gyfer llais ac unrhyw gyfuniad o offerynnau; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; unawd wreiddiol yn defnyddio un o emynau Ann Griffiths; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer band pres; Tlws y Cerddor; a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (ieuenctid dan 19 oed).

Rhyddiaith,

Braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer ar y testun: 'Tair'; cyfansoddi darn o ryddiaith yn ymateb i unrhyw ddarn o gelfyddyd; erthygl goffa; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; dyddiadur dychmygol ysgafn i oedolion wedi'i selio ar fywyd mewn swydd neu waith arbennig; darn o ryddiaith ddychanol: 'Gweledigaeth uffern'; darn o ryddiaith greadigol: 'Y daith'; nofel i blant tua 7-9 oed (comisiynu); a dyddiadur dychmygol ysgafn i oedolion wedi'i selio ar fywyd o ddydd i ddydd mewn swydd neu waith arbennig (comisiynu).

Results 101 to 120 of 691