Ty Hen, Llangwnnadl. Diolch am gynnwys cerdd goffa ei wraig yn y 'Manion' ond nid oedd Carneddog wedi cynnwys y chweched pennill. Anfon cerdd yn disgrifio llongddrylliad y 'Monk' mewn ateb i ymholiad Carneddog (cerdd yn eisiau).
Blaenau Ffestiniog. Diolch i Carneddog am ei gyfeiriadau ato yn yr Herald. Sôn ychydig am ei waith yn paratoi noddfeydd i blant ysgol Glanypwll, ac am Ioan Brothen. Ceir englyn i 'Hedd y Wlad'.
Mayfields, Coddington, Ledbury. Cyflwyno ei hun ac egluro cysylltiad ei wraig â theulu Pennant a Bodwrdda. Ar ôl cyfarfod disgynnydd arall, wedi penderfynu holi Carneddog am unrhyw wybodaeth ar y teulu. Gofyn iddo holi Bob Owen.
4 Fronfelan, Abermaw. Amgau llythyr i'r 'Manion' (yn eisiau). Cyflwyno ei hunan a sôn ychydig am ei theulu a'r Bermo. Nid yw am i'w henw iawn a'i chyfeiriad i ymddangos yn y papur.
14 Cudworth Road, St Anne's on Sea. Llythyr personol yn trafod y 'Manion'. Sôn am ei fam. Crybwyll cael Gorsaf Radio Gymraeg. Ceir ôl-nodyn yn trafod camfeydd a thafodiaith.
14 Cudworth Road, St Anne's on Sea. Sôn am ddynladdiad ger Llanustumdwy. Hanes rhai o hen frodorion Beddgelert a'r cylch - ar gyfer y 'Manion'. Mynegi barn ar dai haf.