Print preview Close

Showing 238 results

Archival description
Papurau Norah Isaac, Welsh
Print preview View:

Rhaglenni nodwedd

Rhaglenni nodwedd, 1951-1985 (gyda bylchau), a baratowyd ar gyfer cyrsiau gan gynnwys 'Gwaith llafar a chyd-adrodd', Cwrs Penwythnos Urdd Gobaith Cymru, 1951, a 'Dros y Mynydd Du i Frynaman', Gŵyl Gyhoeddi Drama'r Urdd, 1985; ynghyd â sgript Gŵyl Ddewi yn Neuadd Albert, Llundain, 1958, yn arwain at eitem Coleg y Drindod sef meim, a sgriptiau pasiant hanes Sir Frycheiniog, 1958. Syniad Norah Isaac oedd hwn a wreiddiwyd mewn cwrs i athrawon cynradd y sir yn 1957. Ceir hefyd ddramodigau, [1957]-[1962], gan gynnwys rhai o'r Beibl a'i nodiadau ar gyfer llunio rhaglen mewn cwrs ym Mhlasty'r Cilgwyn, 1957.

Rhaglenni amrywiol gan gynnwys Profion Terfynol Cystadlaethau'r Dramâu, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Y Bala 1954 (217), pan berfformiwyd 'Tri Chryfion ...,

Rhaglenni amrywiol gan gynnwys Profion Terfynol Cystadlaethau'r Dramâu, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Y Bala 1954 (217), pan berfformiwyd 'Tri Chryfion Byd' gan Aelwyd Y Barri, NI oedd y cynhyrchydd; Molawd Morgannwg, ar achlysur cyfarfod blynyddol yr Urdd, Caerdydd, 1954 (218); Rhaglen ddramatig Gyl Ddewi 1956, Coleg y Barri (219); Cyfarfod Cenedlaethol i anrhydeddu Syr Ifan ab Owen a Lady Edwards, Neuadd y Brenin, Aberystwyth, 1956 (220); Gyl Genedlaethol Dewi Sant, Neuadd Albert, Mawrth 1958, pan berfformiwyd 'molawd mewn meim a chân' ar Ddewi Sant gan fyfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin (gw. hefyd rhif 72) (221); Blodeuwedd, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, 1958, NI oedd y cynhyrchydd (222); Cyngerdd Dathlu, Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, Neuadd y Brenin, Aberystwyth, 1960 (223); Fel y tybiwch y mae, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, 1961 (224); Gwledd Genedlaethol Cymry Llundain, Gyl Ddewi 1964 (225); Gyl y Celfyddydau: Coleg y Drindod Caerfyrddin: 1965, pan berfformiwyd 'Priodas Waed', NI oedd y cynhyrchydd (226); The Cavern gan Jean Anouilh, Theatr y Strand, 1965 (227); Cyfraniad D. Gwenallt Jones, bardd a llenor, i Gymru, rhaglen deyrnged dan nawdd yr Academi Gymreig, Aberystwyth, 1969, gyda NI yn un o'r darllenwyr (228); Siwan, Gyl Gelfyddyd Coleg y Drindod, Caerfyrddin, 1971, NI oedd y cynhyrchydd (229); Cadwyn Cenedl gan fyfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Gyl Lyfrau Cymru 1972 (230); Cof Cenedl gan fyfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Gyl Lyfrau'r Gorllewin 1973 (231); Thomas Halliwell 1900-1982, gwasanaeth yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 1983 (233); David Charles, 1988, ynghyd â thorion o'r wasg (gw. hefyd rhif 32) (234); Agoriad swyddogol Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 1989, gan NI (235); Y Tad a'r Mab, NI oedd y cynhyrchydd, heb ddyddiad (236).

'Priodas waed'

Sgript 'Priodas waed', cyfieithiad o ddrama Federico Garcia Lorca, a gyflwynwyd gan Gwmni Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn [Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965], ynghyd â manylion am y cynhyrchiad o [Raglen y Dydd]. [Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan John Davies a John Rowlands a'i golygu gan Gareth Alban Davies].

Results 81 to 100 of 238