- A/2
- File
- 1956-1960
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif a wnaed gan Walter Rees Jones o'r golofn 'Welsh Notes' a ymddangosodd yn y Birkenhead News and Advertiser rhwng Mehefin 1956 ac Awst 1960.
Mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif a wnaed gan Walter Rees Jones o'r golofn 'Welsh Notes' a ymddangosodd yn y Birkenhead News and Advertiser rhwng Mehefin 1956 ac Awst 1960.
Ceir o fewn y ffeil bapurau a thorion papur newydd yn ymdrin â chyflwyno tysteb i Walter Rees Jones i gydnabod ei wasanaeth diflino fel ysgrifennydd Eisteddod y G'lomen Wen, Birkenhead, ers 1919. Cyflwynwyd y tysteb iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn ysgoldy Capel Parkfield, 3 Ionawr 1930.
Mae'r ffeil yn cynnwys taflenni angladdol Cymry o ardal Lerpwl a Phenbedw ynghyd â thorion papur newydd a llythyrau a chardiau oddi wrth aelodau o'u teuluoedd.
'Spotlight on Wales in Birkenhead'
Mae'r gyfrol yn cynnwys toriadau o'r golofn 'Spotlight on Wales in Birkenhead' a luniwyd gan Walter Rees Jones ac a ymddangosodd yn y Birkenhead News rhwng Medi 1947 a Chwefror 1956. Ceir o fewn y gyfrol hefyd ychydig o dorion amrywiol eraill a nifer fechan o lythyrau at W. Rees Jones yn ystod yr un cyfnod.
Papurau Walter Rees Jones (Birkenhead)
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion amrywiol a gasglwyd ynghyd gan Walter Rees Jones (ynghyd ag ambell eitem a etifeddodd oddi wrth ei dad Rees Jones) yn ymdrin â bywyd Cymraeg Birkenhead. Ceir yn eu plith cofnodion eglwysi anghydffurfiol, 1883-1997; papurau'n ymwneud ag eisteddfodau, 1918-1969; cofnodion Cymdeithas Cymry Birkenhead, 1968-2001; a thorion papur newydd a theipysgrifau o'r wasg, 1947-1960, a theyrngedau a thaflenni angladdol, 1953-2001.
Jones, Walter Rees, 1922-2001
Papurau amrywiol Eglwys Parkfield
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau amrywiol, llawer yn ymdrin ag eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Parkfield, Birkenhead. Yn eu plith ceir llyfryn ar hanes yr achos, 1834-1934, gan P. H. Jones, a theipysgrifau yn Gymraeg a Saesneg ar 'Hanes Dechreuad Achosion y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg yn Birkenhead' gan Walter Rees Jones, 1996-1997.
Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd Parkfield (Liverpool, England)
Mae'r grŵp yn cynnwys torion a theipysgrifau o golofnau o'r wasg, 1947-1960, ynghyd â thaflenni angladdol, teyrngedau a phapurau cysylltiedig, 1953-2001.
Llyfr cyfrifon Eisteddfod y G'lomen Wen
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrifon cynnal Eisteddfodau'r G'lomen Wen, 'the Birkenhead Children's Eisteddfod', rhwng Mawrth 1918 ac Awst 1956.
Llyfr cofnodion Eisteddfod Cymry Birkenhead
Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a rhestr testunau Eisteddfod Cymry Birkenhead rhwng Gorffennaf 1963 a Medi 1969. Ceir hefyd rhestr swyddogion, 1964 a 1969, cyfrifon, cyfraniadau at yr Eisteddfod a phapurau amrywiol.
Eisteddfod Cymry Birkenhead
Llyfr cofnodion eglwysi Cymraeg Birkenhead
Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion gofalaeth eglwysi Salem, Birkenhead, a Wallasey, 1974-1981, gan gynnwys eglwysi Ellesmere Port, 1981; ynghyd â chofnodion gofalaeth y Glannau: eglwysi Salem, Stanley Road, Waterloo a Wallasey, 1984-1985.
Eglwys Bresbyteraidd Cymru Salem (Birkenhead, England)
Mae'r ffeil yn cynnwys lluniau du a gwyn o eglwys Parkfield, Lerpwl.
Mae'r ffeil yn cynnwys copi mewn llawysgrif gan Richard Williams, 1883, 'Ychydig o hanes Dechreuad a Chynnydd achos crefyddol y Methodistiaid Calfinaidd yn Birkenhead'.
Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion yn ymdrin â gweithgareddau Cymdeithas Cymry Birkenhead, yn eu plith rhaglenni blynyddol, 1968-2001, rhaglenni cymanfaoedd canu undebol a gwasanaethau o fawl, 1980-2001, rhaglenni cinio dathlu Gŵyl Ddewi, 1983-2001, trefn oedfaon crefyddol, 1983-2001, cylchlythyrau at aelodau'r Gymdeithas, 1969-2000, a chyfrifon ariannol, 1989-2000.
Cymdeithas Cymry Birkenhead
Colofnau coffa a thaflenni angladdol
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr lloffion o deyrngedau i Gymry o ardal Lerpwl a Phenbedw a fu farw rhwng 1955 a 2001, ynghyd â nifer o daflenni angladdol.
Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion Eisteddfod y G'lomen Wen, 1918-1956, ynghyd â chofnodion Eisteddfod Cymry Birkenhead, 1963-1969.
Eisteddfod y G'lomen Wen
Cofnodion Cymdeithas Cymry Birkenhead
Mae'r grŵp yn cynnwys papurau amrywiol, 1883-1997, yn ymdrin â hanes yr achos anghydffurfiol yn Birkenhead.
Mae'r ffeil yn cynnwys anerchiad a gyflwynwyd i Walter Rees Jones, 3 Ionawr 1930, i gydnabod ei waith fel ysgrifennydd Eisteddfod y G'lomen Wen.
Adroddiad blynyddol eglwys Parkfield
Ceir o fewn y ffeil dau lungopi o Adroddiad Blynyddol eglwys y Trefnyddion Calfinaidd Parkfield, Lerpwl, ar gyfer y flwyddyn 1899.
Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd Parkfield (Liverpool, England)