Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.