Print preview Close

Showing 219 results

Archival description
Papurau Gilmor Griffiths, File Welsh
Print preview View:

Wasg a'r cyfryngau,

Erthyglau a thoriadau papur ynglŷn â'i waith fel cyfansoddwr ac yn y byd cerddorol yn gyffredinol. Drafft o’r rhagymadrodd 'Wrth y preseb: carolau Nadolig i blant', 1985 a llythyr gan Robat Gruffudd, 'Y Lolfa' at Vera sy'n cyfeirio at 'Garolau Gilmor', 1987.

Wareham,

Copi sgôr 'Wareham', trefniant Gilmor Griffiths o emyn William Knapp, ar gyfer lleisiau merched (S.A.).

Wales is my homeland,

Trefniant o'r alaw 'Wales is my Homeland', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau, lawysgrif a llungopi o gopi sol-ffa.

Wales is my homeland (Cymru fynyddig),

Sgôr mewn llawysgrifau a brasluniau o'r gân 'Wales is my homeland' gan Gilmor Griffiths. Trefniant ar gyfer T.T.B.B., hen nodiant gyda geiriau, tonig sol-ffa, a theipysgrif. Geiriau Saesneg gan Gilmor Griffiths a geiriau Cymraeg gan Dennis Derbyshire.

Tystysgrifau,

Tystysgrif geni byr, 1917; Decree Nisi Absolute (ysgaru), 1975; priodas i Vera Williams, 1975; marwolaeth, 1985.

Tre'r Ceiri,

Copi mewn llawysgrif a llungopi o 'Tre'r Ceiri' ar gyfer S.A.T.B., gan Gilmor Griffiths, geiriau gan John H. Williams, Myfoniog, Llannefydd. Darnau lleisiau yn unig a hefyd sgôr llawn gyda chyfeiliant. Trefniant i eiriau 'Emyn Heddwch' gan John H. Williams, Llannefydd yn yr hen nodiant a sol-ffa. Hefyd geiriau 'Wrth edrych Iesu ar dy groes' gan Mairlyn Lewis.

Trem y dydd,

Sgôr 'Trem y dydd', gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones. Llawysgrif a chopïau gyda nifer o gywiriadau a nodiadau. Trefniant ar gyfer lleisiau T.T.B.B neu S.A.T.B..

Torri record,

Dogfennau, toriadau papur ac yn y blaen sy'n adrodd hanes torri'r record 'Ganwyd Crist i'r Byd' yn 1975. Yn ogystal â rhaglen y '26th St David's National Festival', Royal Albert Hall, Llundain yn 1977 gyda manylion a threfniadau i'r disgyblion.

The thought of you (Dy gofio di),

Dau sgôr llawysgrif wreiddiol, ddyddiedig Mawrth 1943, gyda chopïau gwaith diweddarach o'r alaw 'Dy gofio di' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Saesneg gan Patience Strong. Dewis o gyfieithiad i'r Gymraeg gan I. D. Hooson, Glyndŵr Richards (Y Rhyl) neu E. Wilson Jones (Rhewl), 1984. Ysgrifennwyd 'Rhywle ar y môr'. Tudalen rhydd o sylwadau gan eraill.

The Pedler,

Trefniant o'r alaw draddodiadol Rwsieg, 'The Pedler', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr gyda geiriau Saesneg.

Standchen [ Hwyrgân ],

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Standchen' (Hwyrgan) gan Franz Schubert, y trefniant i S.A.T.B. gyda chyfeiliant a geiriau Cymraeg gan Gilmor Griffiths. Copi yn yr hen nodiant a thonic sol-ffa. Dalen teipysgrif o'r geiriau yn y Gymraeg.

Some enchanted evening,

Trefniant o'r alaw 'Some Enchanted Evening' ar gyfer y 'Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (South Pacific).

Seven veils,

Trefniant o'r alaw 'Seven veils', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr leisiol gyda chyfeiliant ynghyd a thaflen geiriau Saesneg.

Rocking,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r garol 'Rocking', sef cyfieithiad o 'Hajej, nynjej' carol o Tsiecoslofacia yn wreiddiol. Geiriau Saesneg.

Results 21 to 40 of 219