Print preview Close

Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Welsh
Print preview View:

Rhoddion cyffredinol

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1979, yn ymwneud â rhoddion i Lyfrgell y Ganolfan, rhai fel rhan o Apêl Syr Thomas Parry-Williams; a sefydlu'r Llyfrgell; gyda’r papurau yn cynnwys datganiad i’r wasg, [1979]; cofnodion cyfarfod yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd, Aberystwyth (1978); rhestrau o roddion (1978) o gasgliadau Gwasg Gee, Syr Ben Bowen Thomas, a’r Foneddiges Amy Parry-Williams; a llythyrau (1978-1979), oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; A. T. Griffiths; R. Geraint Gruffydd; Herbert Pilch; Rachel Bromwich; Ann Morgan; Gwyneth Vaughan Jones; Ieuan Gwynedd Jones; W. W. Dieneman; a Charles Charman.

Sefydlu'r Llyfrgell

Papurau a gohebiaeth, 1977-1979, a 1981, yn ymwneud â sefydlu Llyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys copi o gyfansoddiad drafft y Ganolfan ([1977]); cofnodion cyfarfod yr Ymgyrch Apelio (1977); manylion rhaglen gwaith y ‘Manpower Services Commission’ ([1977]); amlinelliadau o reolau benthyg (1978); a llythyrau, 1978-1979; 1981; oddi wrth D. B. Lloyd; Glanville Price; T. A. Owen; J. E. Caerwyn Williams; W. W. Dieneman; Brian Howells; John Rhys; Jack Evans; ac R. Geraint Gruffydd.

Seminarau'r Ganolfan

Papurau seminar a rhaglen seminarau, 1989, a llythyrau cysylltiedig (1989) yn trafod y seminarau, oddi wrth Peter Smith; R. Geraint Gruffydd; Joseph F. Eska; Geoffrey J. Wainwright; Medwin Hughes; Morfydd E. Owen; Derec Llwyd Morgan; Liz Fleming; John Davidson; Gwyn Lewis; Glanville Price; a Bobi Jones.

Seminarau'r Ganolfan

Rhaglenni seminar a slipiau ateb, 1990, a llythyrau cysylltiedig (1990) yn trafod y seminarau, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Anne Matonis; John Gillingham; Ffion Jenkins (nawr Hague); David Moore; Geraint Wyn Jones; Brynley F. Roberts; David Kirby; R. R. Davies; Edgar Slotkin; Sioned Davies; Joe Eska; Gwerfyl Pierce Jones; Donald Moore; Herbert Pilch; a D. Simon Evans.

'Tafodieithoedd'

Papurau a gohebiaeth, 1989, yn ymwneud â nawfed Fforwm y Ganolfan, ‘Tafodieithoedd’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; rhestr o aelodaeth Cylch Astudiaethau Tafodieithol Urdd y Graddedigion; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Llinos Young; Richard Crowe; a Peter Wynn Thomas.

'Y Bardd Celtaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1991, yn ymwneud â thrydydd Fforwm ar deg y Ganolfan ‘Y Bardd Celtaidd’ fel un o weithgareddau gŵyl ‘Celtica 1991’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; copi o’r llyfryn ‘Celtica 1991’; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Llinos Roberts-Young; Saunders Davies; Elin M. Jones; D. M. Lewis; Susan Jenkins; Hywel ap Robert; T. Arwyn Watkins; A. O. H. Jarman; Morfydd E. Owen; a Nerys Ann Jones.

'Y Fforwm Gernywaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1988, yn ymwneud â seithfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Cernywaidd’, yn cynnwys y rhaglen; rhestr o fynychwyr; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Brian Murdoch; Oliver Padel; Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Jack Arnell; Gwenan Creunant; Terence McCaughey; E. Evans; Tim Saunders; Bedwyr Lewis Jones; Lauran Toorians; Myrna Harris; a Charles Thomas.

Y Llyfrgell Brydeinig

Papurau a gohebiaeth, 1981-1982, yn ymwneud â chais y Ganolfan am grant i Adran Ymchwil a Datblygiad y Llyfrgell Brydeinig am y prosiect ymchwil arfaethedig ‘The Information Needs of Celtic Scholars’, yn cynnwys copi o’r cais (1981); copi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1980-1981 (1981); nodiadau ([1981]); a llythyrau cysylltiedig yn trafod y cais, 1981-1982, oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; R.C. Snelling; ac M. O’Hare.

Results 161 to 180 of 188