Showing 3783 results

Archival description
file
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Erthyglau Saesneg

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Saesneg, megis drafftiau o 'Treorchy', 'Mabon's Day' a 'The qualities of a Sunday school teacher'. Cyhoeddwyd 'Treorchy', 'Mabon's Day' a 'The qualities of a Sunday school teacher' yn David Bowen, Blagur Awen Ben Bowen, Caernarfon, 1915.

Barddoniaeth 1897

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o 'Durtur y Deffro' a gyhoeddwyd yn 1897 a llyfrau nodiadau yn cynnwys 'Y Ffurfafen'. 'Gardd Gethsemane', 'Yr Iesu a wylodd' a marwnadau.

Papurau yn ymwneud â chymdeithasau a gweithgareddau'r Bedyddwyr

Mae'r ffeil yn cynnwys llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, 1950, llyfr nodiadau 'Storiau'r Plant' yn cynnwys erthyglau llawysgrif a thoriadau papur newydd a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul, a phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb y Bedyddwyr Ieuanc Cymru, 'Seren y Plant', a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.

Baptist Union of Wales

Toriadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau ar amrywiol bynciau gan gynnwys ysgrifau coffadwraeth i Lizzie Bowen, gwraig David Bowen, toriadau yn ymwneud â Chapel Horeb, Pump-Hewl, Llanelli a rhai emynau printiedig.

Horeb, Eglwys y Bedyddwyr (Five Roads, Wales)

Llythyrau at David Bowen, A-H

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan Euros Bowen, Hannah Bowen (gwraig gyntaf David Bowen), Lizzie Bowen (ail wraig David Bowen), Rhiannon Bowen (merch David Bowen), Thomas Orchwy Bowen (brawd David Bowen), Ifan ab Owen Edwards, O. M. Edwards, T. I. Ellis, D. Emrys Evans, Wil Ifan, W.R.P. George, R. E. Griffiths, J. Gwyn Griffiths a D. Hopkin.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Llythyrau,

Llythyrau, 1930-[1945], gan gynnwys nifer a dderbyniodd gan ei deulu yn ystod y cyfnod y bu'n astudio yng Ngholeg Iâl, yr Unol Daleithiau ac yn ymwneud â'r gymrodoriaeth. Ceir llythyrau hefyd oddi wrth William R. Rutland a llythyrau oddi wrth Mrs Fitzgerald, ei noddwraig.

Rutland, William R, (William Rutland).

Llythyrau,

Llythyrau, 1934-[1947], gan gynnwys llythyr oddi wrth Iorwerth Peate yn sôn am ei onestrwydd wrth wneud sylwadau am waith Pennar Davies a llythyrau oddi wrth Keidrych Rhys (7) yn ymwneud â chyfraniadau llenyddol i'r cylchgrawn Wales.

Peate, Iorwerth Cyfeiliog, 1901-1982

Llythyrau,

Llythyrau, [1935]-[1962]. Ymhlith y gohebwyr mae Kate Roberts, Saunders Lewis (3) a Keidrych [Rhys].

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau,

Llythyrau, 1935-1993. Ymhlith y gohebwyr mae Gwilym R. [Jones] (3), Kate Roberts, Gwenallt, Jennie [Eirian Davies] ac aelodau'r teulu. Ceir llythyrau yn ei longyfarch ar ei benodi'n Brifathro Coleg Coffa, Aberhonddu, yn 1952.

Jones, Gwilym R. (Gwilym Richard), 1903-1993

Llythyrau,

Llythyrau, 1940-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth Keidrych Rhys (5), Alun [Llewelyn Williams] (5) , Aneirin [Talfan Davies] (2), llythyrau oddi wrtho at ei rieni, [1940], ynghyd â llythyr, 1942, yn ei wahodd i dderbyn galwad i Eglwys Minster Road a llyfr yn llaw'r Parch. J. Penry Thomas yn rhoi'r 'Charge to Minster Rd's New Minister - July 21 1943' iddo yn ei wasanaeth ordeinio. Ceir papurau, 1945, yn ymwneud ag Ap, 1945.

Rhys, Keidrych

Llythyrau,

Llythyrau, [1948]-[1959], gan gynnwys rhai oddi wrth Raymond Garlick a Kate Roberts (3).

Garlick, Raymond

Results 281 to 300 of 3783