Cardiau Nadolig a phen-blwydd, [1850]-[1945], a dderbyniwyd gan Mathonwy Hughes ac aelodau o’i deulu, gan gynnwys ei ewythr Silyn Roberts, a rhai cardiau coffa. Ceir cerdyn Nadolig hefyd oddi wrth 'Squadron-Leader & Mrs G. ap Silyn-Roberts, Henlow.
Llyfryn a thudalennau rhydd o ddrafftiau a brasluniau o sgorau, gyda nifer o gopïau o 'Carol Benblwydd' [sic.] gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Llyfryn hefyd yn c ynnwys 'Linden Lea' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun.
Carolau Gilmor, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2011 [yr argraffiad cyntaf yn 1991]. Cynnwys: Ganwyd Crist i'r byd; Fe anwyd mab ym Methlem; Hwn yw fy mhlentyn i; Nos Nadolig yw; Carol ben-blwydd; Beth yw'r seren dlos?; Ave Maria; Anwylyn Mair; Goleuni'r byd; Carol Parsal (S.A.T.B. a S.S.A.A.).
Copi o deipysgrif drafft o gyfraniad R. Geraint Gruffydd ‘Where Was Rhaeadr Derwennydd?’ i’r gyfrol 'Celtic Language, Celtic Culture: a festschrift for Eric P. Hamp', a nodiadau, [1988]; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod y 'festschrift', 1984-1985 a 1987-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Daniel F. Melia; R. Geraint Gruffydd; Jean Le Dú; Karl Horst Schmidt; Ann Matonis; V.J. Adlard; Graham Amy; David Badcock; Jean Belcher; L. Crowther; Jeremy Dodd; Richard Harland; D.A.D. Reeve; ac N.J. Ruffle.
Cerddi yn ei law, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Ffynhonnau uchel (2012), ynghyd â 'High Springs' sef cyfieithiad o'r gerdd sy'n dwyn yr un teitl â'r gyfrol a chopi o'r gyfrol hefyd,
Tri llyfr nodiadau, [1935]-[1952] yn cynnwys cerddi ganddi, nifer ar ffurf cwpledi. Ymhlith y cerddi mae cerdd i 'Capel Salem', 1936, a llyfr 'Brynhyfryd Grammar School' yn cynnwys hwiangerddi.
Cerddi, 1937-[1988], gan gynnwys 'Codasom gaer' mewn copi o Tir newydd, Tachwedd 1937; 'Siwrnai'r dewiniaid', trosiad o [Journey of the Magi] gan T. S. Eliot; ‘Cyfarchiad i’r Cymry ar wasgar’ a ‘Mynydd fy mynyddoedd’.