Showing 25 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh literature -- 20th century.
Print preview View:

Papurau J. Gwyn Griffiths,

  • GB 0210 JGWYNG
  • fonds
  • 1926, 1933-2001 /

Papurau personol, proffesiynol a llenyddol J. Gwyn Griffiths, 1926-2001, gan gynnwys llythyrau oddi wrth gyfeillion, ysgolheigion a llenorion. Ceir papurau'n ymwneud â'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac fel adolygydd llyfrau, ynghyd â rhai o bapurau ei wraig Kate Bosse-Griffiths a'i frawd D. R. Griffith.

Griffiths, John Gwyn.

Papurau Harri Gwynn,

  • GB 0210 HGWYNN
  • fonds
  • 1924-1997 /

Papurau Harri Gwynn, 1924-1997, yn cynnwys gohebiaeth gynnar rhyngddo a'i wraig Eirwen Gwynn; llythyrau oddi wrth lenorion; cerddi Harri Gwynn gan gynnwys cyfieithiadau i'r Saesneg a Sbaeneg o'i bryddest 'Y Creadur' a chyfieithiadau o ganeuon; sgriptiau radio; personalia; papurau'n ymwneud â'r Mudiad Gwerin; ynghyd â llythyrau a chardiau cydymdeimlad a anfonwyd i'w deulu; a theyrngedau iddo. = Papers of Harri Gwynn, 1924-1997, comprising early correspondence between him and his wife; letters from literary figures; poems by Harri Gwynn including English and Spanish translations of his poem in free metre (pryddest) 'Y Creadur' ('The Creature') and translations of his songs; radio scripts; personalia; papers relating to the movement Gwerin (Folk); together with letters and sympathy cards sent to his family; and tributes to him.

Gwynn, Harri, d. 1985.

Papurau'r Parch. W. R. Pelidros Jones

  • GB 0210 PELIDROS
  • Fonds
  • 1878-1958

Papurau Pelidros yn cynnwys barddoniaeth, drafftiau cerddi, libreto a thorion papur newydd o'i farddoniaeth cyhoeddedig,1903-1933; rhyddiaith, yn cynnwys dramâu, dadleuon, bywgraffiadau, darlithoedd, traethodau ac anerchiadau,1904-1932; llawysgrifau, nodiadau a thorion papur newydd o'i bregethau, 1906-1938; llythyrau ato ef a'i deulu, 1878-1928; dyddiaduron,1906-1958; a phapurau personol a theuluol, 1904-1958 = Papers of Pelidros comprising poetry, drafts of poems, libretto and newspaper cuttings of published poetry, 1903-1933; prose, comprising dramas, debates, biographies, lectures, essays and addresses, 1904-1932; manuscripts, notes and newspaper cuttings of sermons by him, 1906-1938; letters to him and his family, 1878-1928; diaries, 1906-1958; and personal and family papers, 1904-1958.

Jones, W. R. (William Richard), Pelidros, 1877-1958

Papurau Islwyn Jones

  • GB 0210 ISLNES
  • Fonds
  • 1885-2015 (gyda bylchau)

Papurau Islwyn 'Gus' Jones, 1885-2015 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, sgriptiau, darlithiau llenyddol, darlithiau Saesneg a sgyrsiau; cerddi; ei atgofion cynnar; papurau'n deillio o'i gyfnod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a llythyrau oddi wrth lenorion yn ymwneud â chyhoeddiadau a olygwyd ganddo.

Jones, Islwyn, 1931-2015

Eisteddfod Genedlaethol Cymru: cyfansoddiadau a beirniadaethau

  • GB 0210 CYFANS
  • Fonds
  • 1887-2019 (gyda bylchau)

Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2019. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, englynion, englynion ysgafn, baledi, sonedau, straeon byrion, blogiau, llên meicro a dramâu. Ceir gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith, Gwobr Daniel Owen, Ysgoloriaethau Emyr Feddyg a Geraint Morris, ynghyd ag emyn-donau a chyfansoddiadau Tlws y Cerddor a chyfansoddi dawns. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid a chystadleuaeth y gadair a thlws rhyddiaith i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2018, including odes and poetry in free metre, ballads, short stories, blogs, micro literature and plays. Entries for the Prose Medal, Daniel Owen Memorial Prize, Emyr Feddyg and Geraint Morris Scholarships, together with musical compositions such as the Musicians' Medal, hymn-tunes and dance composition are also included. Competitions for young people, Welsh learners including a chair and prose competition and a competition for those who have lived in Patagonia throughout their lives have been introduced.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Results 21 to 25 of 25