Showing 2 results

Archival description
Papurau F. Wynn Jones Jones, Derwyn
Print preview View:

T. Gwynn Jones: cyfansoddiadau

Ymhlith y papurau mae llythyr oddi wrth R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1970; grŵp o lythyrau oddi wrth Derwyn Jones, Llyfrgell y Brifysgol, Bangor, 1968-1970; torion o Papur Pawb, 1907; llythyr oddi wrth L. Haydn Lewis, 1965, gyda cherddi teyrnged a luniodd i T. Gwynn Jones; ac adysgrifau gan F. Wynn Jones o'i gerddi. -- Ceir hefyd daflenni a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac a gyfieithwyd gan T. Gwynn Jones, [1942]-[1943], yn y cyfresi 'Dig for Victory' a 'Growmore'.

Jones, R. Brinley

Llythyrau F. Wynn Jones

Llythyrau a dderbyniodd F. Wynn Jones ar achlysur ei anrhydeddu gydag OBE yn 1957. Ymhlith y gohebwyr mae Arthur ap Gwynn, Syr Wynn Wheldon, John Cecil-Williams. Llythyrau amrywiol, [?1872]-1974, oddi wrth J[ohn] Morris Jones [?at T. Gwynn Jones], Bob [Robert] Richards (at [F.] Wynn [Jones]), William Eames (at Mrs Gwynn [Jones]) ac E. Morgan Humphreys (at F. Wynn Jones). Ceir llythyrau hefyd at Mrs Eluned Wynn Jones. -- Ceir hefyd lythyrau a chardiau o gydymdeimlad, 1970-1971, a anfonwyd at ei deulu wedi marwolaeth F. Wynn Jones yn 1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Goronwy Daniel, Cassie Davies, Norah Isaac, Dafydd Jenkins, Dora Herbert Jones, Derwyn Jones, A. O. H. Jarman, E. D. Jones, Ieuan Gwynedd Jones, Yr Athro Thomas Jones, Beverley Smith, Ben [Bowen Thomas], Gwilym R. Tilsley, J. E. Caerwyn Williams, J. Tysul Jones, D. Tecwyn Lloyd, Thomas Parry, Iorwerth Peate a Brinley Thomas.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987