Llythyrau, [1951]-[1960]. Ymhlith y gohebwyr mae Bertrand Russell, Dyfnallt [Owen] (2), Gwilym R. [Jones], Kate Roberts, Saunders Lewis, D. J. [Williams], Raymond Garlick a Bobi [Jones].
Llythyrau, 1960-1963. Ymhlith y gohebwyr mae Gomer M. Roberts, Alwyn D. Rees (2), T. E. Nicholas, Gwenallt, ynghyd â llythyrau'n deilio o'r cyfnod y dewiswyd ef i fod yn ymgeisydd dros Llanelli yn Etholaeth Llanelli yn 1964.
Llythyrau, 1964-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Roland Mathias (2), [D.] Jacob [Davies], Islwyn [Ffowc Elis], J. E. [Jones], D. J. [Williams] (3), a Carwyn [James]. Ceir llythyrau'n ymwneud â'i benderfyniad i ymddiswyddo fel Llywydd Eglwysi Rhyddion Cymru yn 1967 a llythyrau yn ei wahodd i annerch mewn rali yng Nghefn Brith, ac mewn cyfarfod o Gymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969.
Llythyrau, 1982-1988, 1992, gan gynnwys llythyr oddi wrth Saunders Lewis, Gwynfor [Evans] (2) a Neville Masterman, ynghyd â llythyr oddi wrth Phyllis Kinney (ar ran Ffilmiau Scan) yn ei wahodd i ymddangos yn y gyfres 'Mwynhau'r Pethe' a Bobi Jones ac eraill yn ei longyfarch pan ddyfarnwyd gradd DD er anrhydedd iddo yn 1987.
Manylion bywgraffyddol am ei yrfa academaidd a'i gynnyrch llenyddol ar gyfer Who's who in the world?, 1978, ac ar gyfer cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru (Awduron mewn ysgolion), [1977]-1991, ynghyd â'i anerchiad etholiadol fel ymgeisydd etholaeth Llanelli, [etholiad cyffredinol 1966] a 'Rhagolygon wedi ymddeol'.
Llyfryn yn cynnwys cyflwyniad y Parchedig Dr Gwilym H. Jones adeg ei anrhydeddu â'r radd gan Brifysgol Cymru yn 1987, ynghyd â thorion o'r wasg amdano, 1977-1983. Hefyd ceir llyfryn pan y'i derbyniwyd yn Gymrawd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1986.
Papurau, 1945, y'n ymwneud â threfnu darllediad gan y BBC o wasanaeth yn yr Eglwys ar gyfer cynulleidfa yn Awstralia a Seland Newydd gan gynnwys trefn y gwasanaeth, 9 Medi 1945, llythyrau a'r sgript.
Papurau, 1977-1981, yn ymwneud â'r Coleg Coffa yn Abertawe a sefydlu'r Ysgol Ddiwinyddiaeth newydd, gan gynnwys llythyrau oddi wrth R. Tudur Jones (2), a chofnodion cyfarfodydd yr ysgol arfaethedig, 1978-1981.
Llythyrau, 1974-1976, oddi wrth gefnogwyr yn ymwneud â'r cais i gyflwyno Rhydwen Williams gyda gradd MA er anrhydedd. [Yr oedd yn un o sylfaenwyr y cylch].
Anerchiadau gan gynnwys 'Safle merched yng Nghymru', [c.1945]; 'Crefydd a Cymru Fydd'; ''Yr Ysgol Sul', [c.1956]; 'Seiliau crefyddol cenedlaetholdeb', [c.1950]; 'The Church's task in Wales', [1946]; The Christian Tradition of Wales', [1946, yn cynnwys cyfeiriadau hunangofiannol]; 'Cristnogaeth a chymdeithas', [1950] a 'The Church in the Bible', [1955]-[1956].
Sgriptiau, [1944]-[1959], gan gynnwys 'Welsh or Anglo? Discussion between Davies Aberpennar and Keidrych Rhys', 1945; 'Llyfrau’r flwyddyn', 1945; 'Munudau gyda’r beirdd (Gwenallt a Saunders Lewis)', 1946; 'Welsh Muse (Alun Lewis)', 1946; 'Imaginary conversation. Keidrych Rhys and Dafydd ap Gwilym', 1947; a 'A Welshman’s book list', 1948.