Hanes ymweliad ag arddangosfa yn Llundain. Gellir gwario £20 y dydd yno. Bwriada weld arddangosfa o dân gwyllt. Sôn am ei bwriad i newid ysgol. Saesneg/English.
Bu'n gweithio'n galed yn y caeau o chwech y bore tan saith yr hwyr a bu'n rhy flinedig i ysgrifennu. Cafodd freuddwyd am KR. Ni chafodd lawer o hanes eu cydfyfyrwyr. Mae'n llongyfarch KR ar ei llwyddiant tua'r Coleg. Mae'n gofyn os yw hi'n bwriadu dychwelyd i ddysgu yn Llanberis. Disgrifia ei gartref fel "lle di-enaid, di-eneth". Cafodd gip ar Cissie Owen, gynt o Ysgol Sir Caernarfon ac yr oedd yn cofio at KR. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 160-1.
Awgrymu llyfr ar ddysgu Llydaweg i Kate Roberts. Ceir cyfeiriad at M. Vallée, St Brieuc, y gramadegydd Llydaweg. Dylai ysgrifennu, yn Gymraeg, at M. P. Mocaer, Brest. Ni ddylai brynu geiriadur ar hyn o bryd gan eu bod yn annibynadwy a bod un gwell i'w gyhoeddi wedi'r Rhyfel Mawr. Mae'n esbonio'r gwahaniaethau rhwng y pedair tafodiaith Lydewig. Beirniadu llyfr y Parch Percy Treasure ar ddysgu Llydaweg. Saesneg/English.
Bu llythyr KR ato yn crwydro'n hir o Fae Colwyn i Gorwen ac ymlaen o'r diwedd i Ogledd Lloegr. Mae'n dysgu daearyddiaeth mewn ysgol ramadeg. 183/4 o oriau gwaith sydd ganddo - gall wneud fel y mynno am weddill yr wythnos. Mae'r cwrs Cymraeg, yn enwedig y Bardd Cwsc, o ddefnydd mawr iddo. Gall regi'n effeithiol ar y plant yn Gymraeg. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., t 164.
Diolch am lythyr. Ymddiheuro am ysgrifennu yn Saesneg - nid yw'r sensor yn deall Cymraeg. Maent yn cysgodi mewn hen gwt drafftiog rywle yn Fflandrys ar wely gwellt. Cawsant rai dyddiau o orffwys o'r ffosydd. Mae'n deall bod brawd Kate Roberts drosodd yno yn y rhyfel. Disgrifio'r awch am dderbyn llythyrau. Saesneg/English.
Mae eu brawd Dafydd wedi mynd i Salonica er dydd Mawrth a'u rhieni yn ddigalon iawn o'r herwydd. Mae eu tad yn mynd i Lerpwl gan iddo gael gwaith yn y Canada Dock. Mae'n rhewi ac eira yn lluwchio. Hanes dal dau fochyn a oedd wedi dianc yn y lluwch. Hanes am ddyn a gafodd ffit ac a fu farw yn yr eira. Penillion i Will. Jones Ty'n-llwyn wrth wynebu gorfod mynd i'r Fyddin yn Wrecsam.
Bu'n pregethu ym Mhant-glas ger Y Bala a chael llythyr oddi wrth KR ar ôl dychwelyd. Rhewodd Llyn Tegid ac y mae ugeiniau o bobl yn sglefrio arno. Aeth gwr y gwesty lleol yn ei gar ar yr iâ. Aeth y car i waelod y llyn ond achubwyd ef. Nid yw wedi cael galwad eto. Mae'n bwriadu aros yno am flwyddyn arall "nes el heibio'r rhyfel".
Diolch am garedigrwydd KR yn anfon torth ati. Mae'n teimlo ei bod yn cryfhau ond bydd ei stumog yn cael pyliau drwg o hyd. Anfon llun a dynnwyd yr haf blaenorol. Mae'r teulu'n iawn ym Maesteg [cartref rhieni KR]. Galwodd tad Kate Roberts yno [Glyn Aber] y diwrnod hwnnw.
Daeth y pum stori i law yn ddiogel. Mae'n falch mai Gwasg Aberystwyth sydd am gael cyhoeddi'r gyfrol iddi. Mae'n debyg o gael ei fabwysiadu'n llyfr gosod gan y Bwrdd Canol yn 1931. Nid all ddechrau hyd oni cheir y ddwy stori arall hefyd. Mae'n rhyfeddu at "artistri mawr a dwys y straeon". Mae'n well ganddo'r teitl Rhigolau Bywyd na'r un a awgrymodd Kate Roberts. Mae'n bwriadu ceisio atgyfodi Ein Tir. Teipysgrif.
Diolch am anfon llyfr i'w mam. Caiff dorri ei henw arno y tro nesaf y bydd yn y Gogledd. Hanes am gartref Kate Roberts, ei mam bron yn 80 oed. ÔL-nodyn gan Elizabeth Griffith (mam Apolonia Griffith) yn ategu'r diolch am y llyfr.
Mae'n ddrwg ganddi glywed am yr helynt a gafodd KR gyda'i gwddf. Canmol Rhigolau Bywyd. Mae'n hoffi "Y Golled" a "Rhwng Dau Damaid o Gyfleth" yn arbennig am eu bod yn ysgafnach a'u bod wedi eu cynllunio'n dda. Mae'n rhaid bod y stori olaf ["Dydd o Haf"], fwy neu lai yn berffaith ond nid oedd yn ei hoffi gymaint â rhai o'r lleill oherwydd ei bod yn disgwyl diweddglo hapus. Cyfeirio at ganmoliaeth Saunders Lewis i'r gyfrol. Saesneg/English.
Mae'n cytuno â barn KR ynglyn â'r Llenor [rhifyn Hydref 1930]. Gall faddau i R. T. Jenkins am slwmbran ac ymddengys parodïau Wil Ifan iddo yn efelychiad tila o grefft [R. G.] Berry. Y peth gwaelaf yn y rhifyn yw adolygiad W. J. Gruffydd ar [Y Llawr Dyrnu] gan [R. G.] Berry. Seisnig yw holl awyrgylch y rhifyn. Nid yw'r Llenor yn gwneud dim i greu ysbryd newydd yng Nghymru. Mae'n cymell KR i feirniadu'r cylchgrawn yn y Llenor ei hun ac os gwrthodir yr erthygl yno fe'i cyhoeddir yn Y Ddraig Goch. Difethwyd ei fore o ddarllen fod Pwyllgor Addysg Arfon yn gofyn i brifathrawon ysgol os ydynt yn llwyrymwrthodwyr. [Ychwanegu nodyn at Morris T. Williams]. Mae wedi cymell Pwyllgor Arfon o [Blaid Cymru] i ddewis ymgeisydd ar gyfer etholiad seneddol 1931 ac i ddechrau casglu arian.
Ymateb i'r gomedi ["Ffarwel i Addysg"] a anfonwyd ato gan KR er mwyn derbyn ei sylwadau. Gall ennill gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ond nid yw hi ar lefel y straeon byrion. Deunydd nofel sydd yn y ddrama. Dylai drama gymryd un sefyllfa'n unig a'i dihysbyddu hi mewn tair act neu bedair, nid symud o sefyllfa i sefyllfa. Mae'n ei chefnogi i'w hanfon i'r gystadleuaeth ddrama [yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931]. Mae'n ei hannog i beidio â rhoi llenyddiaeth heibio fyth. Mae hi'n llenor ac yn artist - nid 'Dic-pob-cawl' fel ef.
Mae'n amgau darn o'r faner ["Union Jack"] a gafodd ei thynnu oddi ar Dwr yr Eryr, Castell Caernarfon, yr wythnos flaenorol pan gafodd bechgyn y Coleg afael arni. Daeth darn mawr i feddiant Cati ac fe rannodd hi'r darn rhwng nifer mawr o Gymry, fel pe bai yn rhannu ei theisen briodas. Anfonwyd darn at Ormsby-Gore i'r Senedd gan Ifan Puw, gohebydd Yr Herald ym Mhwllheli. Darn o'r faner.